The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2023

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2023-01-25
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
Reform history JSON API PDF

Gwnaed: 25 Ionawr 2023

Yn dod i rym: 30 Ionawr 2023

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad[^f00004].

Title and commencement

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2023.

Amendment of the Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) Regulations 2014

2

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014[^f00005] wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

Amendments to regulation 3

3

Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(m) Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth[^f00006].

Amendments to regulation 5

4

Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(n) Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth.

Signed

Julie James — Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru — 25 Ionawr 2023

Explanatory note

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”). Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth M”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth M yn gymwys i bersonau sy’n ddioddefwyr y fasnach mewn pobl neu gaethwasiaeth ac y rhoddwyd iddynt ganiatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77).

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth N”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth M a fewnosodir gan reoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Footnotes

[^f00001]: Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7); diwygiwyd is-adran 3 gan adran 146(2)(d) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a’r cofnod mewn perthynas â Deddf Tai 1996 yn Atodlen 1 i O.S. 1999/672 fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

[^f00002]: 1996 p. 52.

[^f00003]: 2014 dccc 7. Gweler adran 99 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

[^f00004]: Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

[^f00005]: O.S. 2014/2603 (Cy. 257) (fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan erthygl 5 o O.S. 2015/1272 (Cy. 88) (C. 73), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), O.S. 2019/1041 (Cy. 183), O.S. 2019/1149 (Cy. 199), rheoliad 76 o O.S. 2020/1309, rheoliad 26 o O.S. 2020/1372, O.S. 2021/353 (Cy. 105), O.S. 2021/1147 (Cy. 282) ac O.S. 2022/485 (Cy. 121).

[^f00006]: Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’i diwygiwyd. Cyflwynwyd Atodiad Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth gan y Datganiad o Newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC 719, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 18 Hydref 2022 ac sy’n cael effaith ar 30 Ionawr 2023.

Editorial notes

[^key-2592f38b2de20c090b34c9a58a1164da]: Reg. 1 in force at 30.1.2023, see reg. 1

[^key-0ece07e58d38c1d68fc889d34f7db93d]: Reg. 2 in force at 30.1.2023, see reg. 1

[^key-973bd50ef0fc7aa984aae53aa923a009]: Reg. 3 in force at 30.1.2023, see reg. 1

[^key-e6d4af0631c6a86effb3dfa4c017b46e]: Reg. 4 in force at 30.1.2023, see reg. 1

Enwi a chychwyn

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

Diwygiadau i reoliad 3

Diwygiadau i reoliad 5

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.