Local Government Investigations (Functions of Monitoring Officers and Standards Committees)(Wales) Regulations 2001
Wedi'u gwneud: 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym: 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[^f00001] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Name, commencement and application
1
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
- (2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn unig.
Interpretation
2
Yn y Rheoliadau hyn:
- ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw:cyngor sir,cyngor bwrdeistref sirol,cyngor cymuned[^f00002], awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo., ...awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, a chyd-bwyllgor corfforedig;
- ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o Ddeddf 2000;
- ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
- ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;
- ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;
- ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw—Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol;cyd-bwyllgor;is-bwyllgor adran 54A; neuis-bwyllgor cymunedol;
Functions of monitoring officers
3
- (1) Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro mewn perthynas â'r mater hwnnw:
- (a) cynnal ymchwiliad; a
- (b) cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.
- (2) Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro ystyried unrhyw adroddiad sy'n cael ei anfon ato gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.
- (2A) Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (a) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (b) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol wneud trefniadau i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, yn unol â pharagraffau (1)(b) a (2), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.
- (4) Ni chaiff swyddog monitro awdurdod perthnasol (“A”) wneud trefniadau o dan baragraff (3) i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall (“B”) oni bai bod cadeirydd Pwyllgor Safonau A wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i hynny.
Investigations
4
- (1) Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:
- (a) holi unrhyw berson ynghylch unrhyw beth y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r ymchwiliad,
- (b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth, esboniad neu ddogfennau iddo y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol,
- (c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig neu swyddog awdurdod perthnasol ymddangos ger ei fron at ddibenion paragraff (a) a (b) uchod.
- (2) Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.
- (3) Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.
- (4) Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:
- (a) unrhyw symiau ar gyfer treuliau a dynnwyd yn briodol ganddo, a
- (b) unrhyw lwfansau i'w ddigolledu am ei golled amser,
a bennir gan Weinidogion Cymru .
- (5) Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.
Restrictions on disclosure of information
5
- (1) Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth a sicrhawyd gan swyddog monitro wrth gynnal ymchwiliad oni bai:
- (a) bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi swyddog monitro neu bwyllgor safonau i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
- (b) bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi Comisiynydd Lleol yng Nghymru i gyflawni ei swyddogaethau;
- (c) bod y person y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi cydsynio i'w datgelu;
- (ch) bod yr wybodaeth wedi'i datgelu o'r blaen i'r cyhoedd gydag awdurdod cyfreithlon;
- (d) mai datgelu at ddibenion achos troseddol mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yw'r datgelu ac na chafwyd yr wybodaeth o dan sylw o ganlyniad i ymholiadau personol i'r person sy'n destun achos troseddol o dan Reoliad 4 uchod; neu ...
- (dd) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
- (e) bod y datgelu yn cael ei wneud i Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion unrhyw swyddogaeth ganddo neu gan archwilydd o dan Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
- (2) Yn y Rheoliad hwn, a Rheoliad 4 uchod, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a ddelir trwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf electronig arall.
Reports
6
Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rhaid i'r swyddog monitro:
- (a) lunio adroddiad ar gasgliadau ei ymchwiliad ac, os yw'n briodol, caiff wneud argymhellion i Bwyllgorau Safonau'r awdurdod perthnasol o dan sylw, neu, yn unol â threfniadau a wneir o dan reoliad 3(3), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall
- (aa) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
- (b) anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, ac
- (c) cymryd camau rhesymol i anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.
Functions of the Standards Committee
7
- (1) Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan swyddog monitro, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:
- (a) nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i:
- (ia) pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (aa) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (bb) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
- (i) y person sy’n destun yr ymchwiliad;
- (ii) y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad; a
- (iii) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; neu
- (b) bod rhaid i berson sy’n destun yr ymchwiliad gael ei wahodd i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.
- (2) Caiff Pwyllgor Safonau wneud trefniadau i’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1) gael eu harfer gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.
Procedure and Powers of Standards Committees
8
- (1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[^f00006], mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
- (2) Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—
- (a) mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a
- (b) mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.
- (3) Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—
- (a) cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
- (b) fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
- (3A) Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—
- (a) cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
- (b) fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
- (3B) Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.
- (3C) Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.
- (3CH) Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.
- (4) Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 7(1)(b) uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:
- (a) oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu
- (b) rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.
- (5) Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol , neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.
- (6) Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:
- (a) ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,
- (b) ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â rheoliad 12(1)(a)(i) ...isod ddod i law, neu
- (c) ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan reoliad 12(1)(a)(ii) isod,
p'un bynnag sy'n digwydd olaf.
Determinations of the Standards Committee
9
- (1) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:
- (a) nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;
- (b) bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r methiant hwnnw;
- (c) bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu; neu
- (ch) bod aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis neu am weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd, os yw’n gyfnod byrrach .
- (2) Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â rheoliad 12(1)(a)(ii) isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.
- (3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) rhaid i’r Pwyllgor Safonau hysbysu:
- (a) y person neu’r personau sy’n destun yr ymchwiliad;
- (aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
- (b) y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad;
- (c) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
- (d) pan fo’r Pwyllgor Safonau wedi gwneud ei ddyfarniad yn unol â threfniadau â swyddog monitro neu Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall, Bwyllgor Safonau’r awdurdod hwnnw.
- (4) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.
- (5) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3) a (4) gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.
Right of appeal
10
- (1) Pan fydd Pwyllgor Safonau yn dyfarnu o dan Reoliad 9(1) uchod fod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw, caiff y person hwnnw ofyn am ganiatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad i dribiwnlys a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru
- (2) Rhaid cychwyn y cais am ganiatâd i apelio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael hysbysiad am ddyfarniad y Pwyllgor Safonau i lywydd Panel Dyfarnu Cymru
- (3) Rhaid i'r hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio nodi:
- (a) y seiliau dros yr apêl; a
- (b) pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, bod y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio yn cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.
- (4) Mae cais am ganiatâd i apelio i’w benderfynu gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu gan aelod o’r panel a enwebir gan lywydd y Panel Dyfarnu i arfer y swyddogaeth hon.
- (5) Oni bai bod y llywydd neu’r person a enwebir yn ystyried bod amgylchiadau neilltuol yn golygu bod gwrandawiad yn ddymunol, mae’r penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd i apelio i’w wneud heb i’r partïon fod yn bresennol.
- (6) Caiff llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth bellach gan y partïon.
- (7) Rhaid i’r wybodaeth bellach y gwneir cais amdani ym mharagraff (6) gael ei chyflwyno i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu i’r aelod enwebedig o’r panel o fewn cyfnod o 14 diwrnod i’r dyddiad y ceir y cais am wybodaeth bellach.
- (8) Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio, rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel roi sylw i ba un a oes gobaith rhesymol i’r apêl neu ran ohoni lwyddo.
- (9) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio a rhoi hysbysiad am y penderfyniad yn ddim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl cael y cais am ganiatâd i apelio, neu pan wnaed cais am wybodaeth bellach o dan baragraff (6), yn ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (7).
- (10) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel hysbysu’r canlynol am y penderfyniad ym mharagraff (8):
- (a) y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio;
- (aa) pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
- (b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
- (c) y Pwyllgor Safonau a wnaeth y dyfarniad sy’n destun y cais am ganiatâd i apelio.
- (11) Os gwrthodir caniatâd i apelio rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (9) hefyd gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
- (12) Os rhoddir caniatâd i apelio rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel atgyfeirio’r mater i dribiwnlys apelau.
Appeals
11
- (1) Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:
- (a) gan dribiwnlys apelau sy'n cynnwys o leiaf dri aelod o Banel Dyfarnu Cymru,
- (b) drwy gyfrwng gwrandawiad llafar oni bai bod pob person sydd wedi rhoi hysbysiad apêl yn cydsynio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheoliad 10(3)(b) uchod.
- (2) Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb aelod enwebedig o’r panel ) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd neu’r aelod enwebedig o’r panel fod yn aelod o dribiwnlys.
- (3) Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.
- (4) Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:
- (a) datgelu natur ei fuddiant i lywydd y Panel, a
- (b) peidio â bod yn aelod o'r tribiwnlys apelau sy'n ystyried apêl mewn perthynas â'r mater hwnnw.
- (5) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru , yn penderfynu arnynt.
Conclusions of an appeals tribunal
12
- (1) Rhaid i dribiwnlys apelau:
- (a) cadarnhau dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fod unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad wedi torri'r cod ymddygiad a naill ai:
- (i) cymeradwyo unrhyw gosb a osodwyd, neu
- (ii) cyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad bod cosb wahanol yn cael ei gosod;
neu,
- (b) gwrth-droi dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol bod unrhyw berson wedi torri'r cod ymddygiad...
- (2) Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i:
- (a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
- (b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
- (c) Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a
- (d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
Publication
13
- (1) Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:
- (a) ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,
- (b) ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b) uchod ddod i law, neu
- (c) ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan reoliad 12(1)(a)(ii) uchod,
p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad ....
- (1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:
- (a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
- (b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
- (c) swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a
- (d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
- (1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.
- (2) Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol dan sylw:
- (a) am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,
- (b) darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac
- (c) erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.
Representation
14
Caiff person sy'n cyflwyno sylwadau llafar i Bwyllgor Safonau neu sy'n apelio yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau i dribiwnlys apelau sy'n cael ei dynnu o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor neu'r tribiwnlys yn bersonol neu gael ei gynrychioli —
- (a) gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu
- (b) gan unrhyw berson arall y mae'n ei ddymuno.
Costs
15
- (1) Ni fydd gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol unrhyw bŵ er i ddyfarnu unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi o unrhyw un o'i achosion.
- (2) Fel rheol rhaid i dribiwnlys apelau beidio â gwneud gorchymyn yn dyfarnu costau neu dreuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath:
- (a) yn erbyn person os yw o'r farn fod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus, neu fod ei ymddygiad wrth fynd ar drywydd apêl yn hollol afresymol;
- (b) oherwydd gohirio gwrandawiad.
- (3) Rhaid peidio â gwneud unrhyw orchymyn o dan baragraff (2)(a) uchod yn erbyn person heb roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud gorchymyn o'r fath.
Signed
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[^f00007].
D. Elis-Thomas — Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol — 21 Mehefin 2001
Explanatory note
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu codau ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth eu haelodau a'u haelodau cyfetholedig.
O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Comisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i unrhyw doriad honedig gan aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn-aelodau neu gyn-aelodau cyfetholedig) o god ymddygiad awdurdod lleol yng Nghymru.
Pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) gall gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro'r awdurdod lleol perthnasol.
Fel arall, pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn dyfarnu ar ôl ymchwiliad (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, llunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at y swyddog monitro a Phwyllgor Safonau'r awdurdod.
Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y dylid ymdrin â materion o'r fath sy'n cael eu cyfeirio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:
- (a) yn ymchwilio i'r materion a gyfeirir o dan adran 70(4) cyn cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol, neu
- (b) os bydd mater wedi'i gyfeirio o dan adran 71(2), bydd yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Lleol yng Nghymru cyn gwneud argymhellion, os yw'n briodol, i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.
Bydd y Pwyllgor Safonau yn gwneud dyfarniad cychwynnol wedyn naill ai:
- (a) nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad, neu
- (b) bod rhaid rhoi cyfle i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad ymateb, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Ar ôl ystyried unrhyw ymateb a wneir gan unrhyw berson o'r fath rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddod i'r casgliad:
- (a) nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac na ddylid cymryd dim camau pellach,
- (b) bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ond na ddylid cymryd dim camau pellach, neu
- (c) bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac y dylai aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) gael ei geryddu neu ei atal,
a chymryd unrhyw gamau o'r fath yn unol â hynny.
Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i hawl i apelio i dribiwnlys apelau a dynnir o blith Panel Dyfarnu Cymru.
Caiff tribiwnlys apelau gadarnhau dyfarniad y Pwyllgor Safonau, cyfeirio mater yn ôl iddo gan argymell y dylai osod cosb wahanol, neu wrth-droi'r dyfarniad.
Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd fod adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad yn cael ei lunio a'i gyhoeddi.
Footnotes
[^f00001]: 2000 p.22.
[^f00002]: Yn rhinwedd adran 56(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mae unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy yn rhinwedd darpariaethau'r Rheoliadau hyn gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol neu mewn perthynas ag ef, sef awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned i gael ei harfer gan neu mewn perthynas â'r canlynol; pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae'r cyngor cymuned wedi'i leoli yn ei ardal; neu pan fydd pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol hwnnw wedi penodi is-bwyllgor, yr is-bwyllgor hwnnw.
[^f00006]: OS 2001/2283 (Cy.172).
[^f00007]: 1998 p.38.
Enw, cychwyn a chymhwyso
Dehongli
Swyddogaethau swyddogion monitro
Ymchwiliadau
Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth
Adroddiadau
Swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau
Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau Safonau
Dyfarniadau'r Pwyllgor Safonau
Yr hawl i apelio
Apelau
Casgliadau tribiwnlys apelau
Cyhoeddi
Cynrychiolaeth
Costau
Editorial notes
[^key-0250e974ca74a6019bbd79b58c73ba3c]: Rhl. 10(4)-(12) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(d)
[^key-07def170e2293f0d9df5d340374730c2]: Rhl. 7 wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(6)
[^key-0ec0ef170118ea3ecbc86b0c89774883]: Rhl. 5(1)(e) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2005) gan Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/761), rhlau. 1(1), 7(2)(b)
[^key-176242108bb1b2ad50363e0710e665cf]: Geiriau yn rhl. 6(a) wedi eu mewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(5)
[^key-18cebafae8739bde77201960606b7c57]: Geiriau yn rhl. 9(2) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 9(a)
[^key-19dc2550338b49568e0ea14b8aa26614]: Gair yn rhl. 5(1)(d) wedi ei hepgor (1.4.2005) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/761), rhlau. 1(1), 7(2)(a)
[^key-1a4c101620de7801883d2823d3ff4199]: Rhl. 12(2) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 11(c)
[^key-1fc6aa79829416b1f054b732d4d8daa8]: Geiriau yn rhl. 12(1) wedi eu hepgor (5.8.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 11(b)
[^key-2005d02483eb28ca1ee263ad01ce3c7a]: Rhl. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-271425ac3a0fdf0a3d2e50f5e9875f6e]: Rhl. 10(3)(b) wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(c)(ii)
[^key-2785788f64236ace4bf9cf1aeaca4435]: Rhl. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-27a8814e1ab51940cdcebfc3242d248b]: Geiriau yn rhl. 8(5) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(8)(a)
[^key-27f7f5a85a8779f0ec45c90de532e5b3]: Rhl. 9(3)(aa) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 9(b)
[^key-2c28cc9b99ba06258876226eb70ccd40]: Gair yn rhl. 5(1)(d) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(4)(a)
[^key-305ba3ee6770a0df86259eab36392c27]: Geiriau yn rhl. 10(2) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(b)(i)
[^key-31dca054daba2174c027cb27952470ae]: Rhl. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-321a5673893e69461e5ec7df7eba9d92]: Geiriau yn rhl. 10(2) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(b)(ii)
[^key-35296f74f52fa863289e1c4bc3d43919]: Geiriau yn rhl. 8(6)(b) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(b)
[^key-35b938e457146624397e4270e90769b4]: Rhl. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-39247d5faa32c3b6e0d64be3d4ffbf2d]: Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(2)
[^key-3dedab49c0cb038583628b613bff9394]: Rhl. 3(3)(4) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(3)
[^key-3e4d945756a726671ded46dfbb2e6bb5]: Rhl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-44ccf2da4038aa6ab4368a4b239c5fec]: Rhl. 5(1)(dd) wedi ei hepgor (1.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(4)(b)
[^key-5842592a9fa8c434888de32eed56dbdf]: Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 3(b)
[^key-5ae5ef18e7e74b78dfebc04a1dac2bd5]: Rhl. 13(1A)(1B) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(b)
[^key-6ddac4730b9869ed1ae0f3679b321a01]: Rhl. 7A(1)(aa) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 7
[^key-7402b4967a0e256d4dc95403f806281d]: Rhl. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-795b8c4d83e4213fca892bff2ca5ef16]: Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 59
[^key-7e47038f62a15d8d8d425d5321edfbcc]: Geiriau yn rhl. 13(1)(b) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(i)
[^key-7e8a55ee8dff3b0581e8db1de7a90650]: Geiriau yn rhl. 11(2) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(11)(a)
[^key-82d84524757b358ed394a9f520957377]: Rhl. 12(1): rhl. 12 wedi ei ailrifo fel rhl. 12(1) (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 11(a)
[^key-8872c9ef4e1e198db1d1754b7f4522b5]: Geiriau yn rhl. 10(3) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(c)(i)
[^key-89cb327c991ee5e5c2240278457e929f]: Rhl. 7(1)(a)(ia) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 6
[^key-8a4c07c5eaf08a9894c7c3420777598f]: Rhl. 15 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-8d1b7a5b8f1c84cb1f089964bffe35e0]: Rhl. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-8f9229399c8f832f197ab977cac1c34f]: Rhl. 13 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-963a37e4511bab45cf3c437070eb4392]: Gair yn rhl. 2 wedi ei hepgor (5.8.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 3(a)
[^key-967c8bbf7ad0b5d5ced06b9ef0d9e529]: Geiriau yn rhl. 11(2) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(11)(b)
[^key-997ef19e6154069344c6933e6d051c7a]: Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 3(c)
[^key-9c174be6a603e2400b14bb26fa11b01b]: Geiriau yn rhl. 13(1) wedi eu hepgor (5.8.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(iii)
[^key-9d0c26537f45de5f463018561cc9f25e]: Geiriau yn rhl. 8(6)(b) wedi eu hepgor (1.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(8)(b)
[^key-a31efcf967c6fabd330d7f656584a7fa]: Gair yn rhl. 13(2) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(c)
[^key-af31876938741273346d6759a672ddbb]: Rhl. 11 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-b03acfe46321a7722740e8c9dbcce94a]: Rhl. 8(2)(3)(3A)-(3CH) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(3) (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 4(2)
[^key-b80a6c1c1bf8a615b6c7e66c1bf57e9a]: Geiriau yn rhl. 11(5) wedi eu hamnewid (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 4(4)
[^key-bda3a07b584df0175ea6c4e9981cf3ef]: Rhl. 9(5) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(c)
[^key-c0f0268a818191f56e290585eda17404]: Rhl. 7A wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(7)
[^key-c3232a93fe348961f77aa951e9c0031b]: Rhl. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-c68e24a40052a9817087429561cf306e]: Geiriau yn rhl. 9(1)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(a)(i)
[^key-cb67f9f7029e413e22a8d8443d9c697d]: Rhl. 3(2A) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 4
[^key-d15f8492e8085c1dc147d810c763e535]: Rhl. 9(3) wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(b)
[^key-d211599f0da1bd3f9125658e25d710cc]: Geiriau yn rhl. 10(1) wedi eu mewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(10)(a)
[^key-d70b99dc0a0981e41bcbfbf92747b2a3]: Rhl. 14 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-d7319908774f7a92868e6ab08f1e0674]: Geiriau yn rhl. 8(4) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(a)
[^key-daaf29c41109202b73c473b5fc5273e3]: Geiriau yn rhl. 13(1)(c) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(ii)
[^key-e3ef8e9086878ab975b1f7150893edd8]: Geiriau yn rhl. 8(6)(c) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 8(c)
[^key-e704403b465d8a090d06cae6a315544d]: Rhl. 5 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-f26bd00f262a2daf0198f1cf977179dc]: Rhl. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-f36d53bdb19003cfe59bbda7be828009]: Geiriau yn rhl. 4(4)(b) wedi eu hamnewid (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 4(1)
[^key-f58456f1e726bd381ee7c451662b86f9]: Rhl. 6(aa) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 5
[^key-f825e4c3292f7c7f9177532761ced2db]: Rhl. 12 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
[^key-f96bc5e4a9b6873c61d658ebb4a6ca3f]: Rhl. 10(10)(aa) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 10
[^key-fd6f5c68da2de4310206b0535b02eed8]: Geiriau yn rhl. 9(1)(ch) wedi eu mewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(a)(ii)
Adroddiadau neu Argymhellion a atgyfeirir at Bwyllgor Safonau arall
7A
- (1) Pan fo swyddog monitro o dan reoliad 6 (adroddiadau) neu Bwyllgor Safonau o dan reoliad 7 (swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau) yn gwneud trefniadau o dan reoliad 3(3) neu 7(2), rhaid i’r swyddog monitro neu’r Pwyllgor Safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi’r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) i:
- (a) y person neu’r personau sy’n destun ymchwiliad;
- (aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
- (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
- (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
- (b) y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad; ac
- (c) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
- (2) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys y canlynol:
- (a) datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno;
- (b) enw’r awdurdod perthnasol arall; ac
- (c) y rheswm pam y mae’r mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau yr awdurdod perthnasol arall.
Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau Safonau
Dyfarniadau'r Pwyllgor Safonau
Yr hawl i apelio
Apelau
Casgliadau tribiwnlys apelau
Cyhoeddi
Cynrychiolaeth
Costau
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.