The Local Authorities (Standing Orders) (Wales) Regulations 2006

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2006-05-09
Last updated 2022-05-05
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API

(...) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol

Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

Trefniadau amgen- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

Rheolau sefydlog o ran camau disgyblu

Ymchwilio i gamymddwyn honedig

Dirymu Rheoliadau 1993

Darpariaethau trosiannol ac ôl-ddilynol

Cworwm

Aelodau dirprwyol

1

Yn y Rhan hon–

  • ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
  • mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[^f00012];
  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000[^f00013];
  • mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac
  • ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2

Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod.

3

  • (1) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–
  • (a) y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;
  • (b) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989[^f00014] (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
  • (c) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
  • (ch) dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
  • (d) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989[^f00015] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);
  • (dd) person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
  • (e) person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod lleol ) o Ddeddf Addysg 2002[^f00016] yn gymwys iddo.
  • (f) y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu
  • (ff) y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.
  • (2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
  • (a) a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
  • (b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).

4

  • (1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.
  • (2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) , (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2) –
  • (a) rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
  • (b) rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.

5

Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

6

Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.

1

Yn y Rhan hon–

  • ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth o dan yr awdurdod;
  • mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
  • mae gan “corff gweithredol” (“executive”) ac “arweinydd gweithredol” (“executive leader”) yr un ystyr ag yn Rhan II o Ddeddf 2000;
  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[^f00017];
  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000[^f00018];
  • ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2

Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod.

3

  • (1) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–
  • (a) y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;
  • (b) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989[^f00019] (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
  • (c) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
  • (ch) dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
  • (d) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989[^f00020] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu
  • (dd) person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod lleol ) o Ddeddf Addysg 2002[^f00021] yn gymwys iddo.
  • (e) y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;
  • (f) y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.
  • (2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
  • (a) a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
  • (b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).

4

  • (1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod , rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.
  • (2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), (b), (c) , (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2) –
  • (a) rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredol fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
  • (b) rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.

5

Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–

  • (a) person arall yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi'r person arall hwnnw fel aelod o staff yr awdurdod perthnasol; neu
  • (b) aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

6

Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.