The Student Fees (Qualifying Courses and Persons) (Wales) Regulations 2011

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2011-03-08
Last updated 2013-09-01
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API

Gwnaed: 8 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 9 Mawrth 2011

Yn dod i rym: 31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[^f00001] ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy[^f00002], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Title, commencement and application

1

  • (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
  • (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Interpretation

2

  • (1) Yn y Rheoliadau hyn—
  • ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus;
  • mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yr ystyr a roddir yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002[^f00003];
  • ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Weinidogion Cymru;
  • ystyr “cwrs addysg uwch” (“course of higher education”) yw cwrs sy'n dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988[^f00004];
  • mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf;
  • ystyr “cwrs blaenorol” (“preceding course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2011 neu gwrs ar gyfer gradd sylfaen neu gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae person (a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn rhoi'r gorau i'w fynychu yn union cyn dechrau mynychu cwrs penben;
  • mae i “cwrs penben” (“end-on course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011;
  • ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2011 yn gymwys iddo ac sy'n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;
  • ystyr “cymhwyster cyfwerth neu is” (“equivalent or lower qualification”) yw cymhwyster a benderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfwerth neu is;
  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004; ac
  • ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011[^f00005].
  • (2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—
  • (a) os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a
  • (b) os yw'r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy'n gyfwerth i gymhwyster neu'n uwch na chymhwyster y mae'r cwrs cyfredol yn arwain ato.

Prescribed description of a qualifying course

3

  • (1) A qualifying course which is prescribed for the purposes of section 28 of the Act is:
  • (a) a course of higher education;
  • (b) subject to paragraphs (3) and (4), designated for the purposes of section 22 of the Teaching and Higher Education Act 1998[^f00006] on the first day of an academic year which begins during the grant period; and
  • (c) provided by an institution in Wales.
  • (2) For the purposes of paragraph (1) the reference to an institution in Wales means an institution whose activities are carried on in Wales.
  • (3) A course is not a qualifying course if at the time the qualifying person received an offer of a place on that course the institution providing it was not publicly-funded.
  • (4) A course is not a qualifying course if the first academic year of the course began before 1 September 2012.
  • (5) A course is not a qualifying course if—
  • (a) it is an end-on course; and
  • (b) the preceding course was not a qualifying course by reason of paragraph (4).
  • (6) A course is not a qualifying course if it is a part-time course.

Prescribed description of a qualifying person

4

  • (1) Person sy'n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn ystod y cyfnod grant yw person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 28 o'r Ddeddf ac eithrio—
  • (a) person nad oes ganddo hawl i gymorth o dan Reoliadau 2011 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (ch), (d) neu (dd) o'r Rheoliadau hynny; neu
  • (b) person a grybwyllir ym mharagraff (2), (3), (6) neu (7).
  • (2) Yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—
  • (a) os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a
  • (b) os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy'n gymhwyster cyfwerth neu is.
  • (3) Nid yw person yn berson cymhwysol—
  • (a) os yw'r person yn rhoi'r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw'n gwrs cymhwysol;
  • (b) a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw'r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy'n gwrs cymhwysol; ac
  • (c) os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(4).
  • (4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
  • (a) os yw'r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
  • (b) os nad yw hyd y cwrs yn fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan—amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac
  • (c) os nad yw'r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.
  • (5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—
  • (a) os yw'r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i'r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a
  • (b) os yw'r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei derbyn fel rhan o'r cwrs sengl hwnnw.
  • (6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.
  • (7) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.
  • (8) Os yw person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw'r person hwnnw'n berson cymhwysol mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.

YR ATODLEN

1

  • (1) For the purposes of this Schedule—
  • “academic year” (“blwyddyn academaidd”) means the period of twelve months beginning on 1 January, 1 April, 1 July or 1 September of the calendar year in which the academic year of the course in question begins according to whether that academic year begins on or after 1 January and before 1 April, on or after 1 April and before 1 July, on or after 1 July and before 1 August or on or after 1 August and on or before 31 December, respectively;
  • “Directive 2004/38” (“Cyfarwyddeb 2004/38”) means Directive 2004/38/EC of the European Parliament and of the Council of 29 April 2004 on the rights of citizens of the Union and their family members to move and reside freely in the territory of the Member States[^f00007];
  • “EEA frontier self-employed person” (“person hunangyflogedig ffin yr AEE”) means an EEA national who—is a self-employed person in the United Kingdom; andresides in Switzerland or the territory of an EEA State[^f00008] other than the United Kingdom and returns to the national’s residence in Switzerland or that EEA State daily or at least once a week;
  • “EEA frontier worker” (“gweithiwr ffin yr AEE”) means an EEA national who—is a worker in the United Kingdom; andresides in Switzerland or the territory of an EEA State other than the United Kingdom and returns to the national’s residence in Switzerland or that EEA State daily or at least once a week;
  • “EEA migrant worker” (“gweithiwr mudol o'r AEE”) means an EEA national who is a worker, other than an EEA frontier worker, in the United Kingdom;
  • “EEA national” (“gwladolyn o'r AEE”) means a national of an EEA State other than the United Kingdom;
  • “EEA self-employed person” (“person hunangyflogedig o'r AEE”) means an EEA national who is a self-employed person, other than an EEA frontier self-employed person, in the United Kingdom;
  • “employed person” (“person cyflogedig”) means an employed person with the meaning of Annex 1 to the Swiss Agreement;
  • “employment” (“cyflogaeth”) means full-time or part-time employment;
  • “EU national” (“gwladolyn o'r UE”) means a national of a Member State of the European Union;
  • “European Economic Area” (“Ardal Economaidd Ewropeaidd”) means the area comprised by the EEA States;
  • “European Union” (“yr Undeb Ewropeaidd”) means the territory comprised by the Member States of the European Union as constituted from time to time;
  • “family member” (“aelod o deulu”) means—in relation to an EEA frontier worker, an EEA migrant worker, an EEA frontier self-employed person or an EEA self-employed person—that person’s spouse or civil partner;direct descendants of the person or of the person’s spouse or civil partner who are—under the age of 21; ordependants of the person or the person’s spouse or civil partner; ordependent direct relatives in the ascending line of the person or the person’s spouse or civil partner;in relation to a Swiss employed person, a Swiss frontier employed person, a Swiss frontier self-employed person or a Swiss self-employed person—the person’s spouse or civil partner; orthe person’s child or the child of the person’s spouse or civil partner;in relation to an EU national who falls within Article 7(1)(c) of Directive 2004/38—the national’s spouse or civil partner; ordirect descendants of the national or the national’s spouse or civil partner who are—under the age of 21; ordependants of the national or the national’s spouse or civil partner;in relation to an EU national who falls within Article 7(1)(b) of Directive 2004/38—the national’s spouse or civil partner;direct descendants of the national or the national’s spouse or civil partner who are—under the age of 21; ordependants of the national or the national’s spouse or civil partner; ordependent direct relatives in the national’s ascending line or of the national’s spouse or civil partner;in relation to a United Kingdom national, for the purposes of paragraph 9—the national’s spouse or civil partner; ordirect descendants of the national or the national’s spouse or civil partner who are—under the age of 21; ordependants of the national or the national’s spouse or civil partner;
  • “the Islands” (“yr Ynysoedd”) means the Channel Islands and the Isle of Man;
  • “overseas territories” (“tiriogaethau tramor”) means Anguilla; Aruba; Bermuda; British Antarctic Territory; British Indian Ocean Territory; British Virgin Islands; Cayman Islands; Falkland Islands; Faroe Islands; French Polynesia; French Southern and Antarctic Territories; Mayotte; Greenland; Montserrat; Netherlands Antilles (Bonaire, Curacao, Saba, Sint Eustatius and Sint Maarten); Pitcairn, Henderson, Ducie and Oeno Islands; South Georgia and the South Sandwich Islands; St-Barthélemy St Helena and Dependencies (Ascension Island and Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; the Territory of New Caledonia and Dependencies; Turks and Caicos Islands and Wallis and Futuna;
  • “person with leave to enter or remain” (“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”) means a person (“P”)— who has— applied for refugee status but has as a result of that application been informed in writing by a person acting under the authority of the Secretary of State for the Home Department that, although P is considered not to qualify for recognition as a refugee, it is thought right to allow P to enter or remain in the United Kingdom on the grounds of humanitarian protection or discretionary leave; ornot applied for refugee status but has been informed in writing by a person acting under the authority of the Secretary of State for the Home Department that it is thought right to allow P to enter or remain in the United Kingdom on the grounds of discretionary leave;”.who has been granted leave to enter or to remain accordingly;whose period of leave to enter or remain has not expired or has been renewed and the period for which it was renewed has not expired or in respect of whose leave to enter or remain an appeal is pending (within the meaning of section 104 of the Nationality, Immigration and Asylum Act 2002)[^f00009]; andwho has been ordinarily resident in the United Kingdom and Islands throughout the period since P was granted leave to enter or remain;
  • “refugee” (“ffoadur”) means a person who is recognised by Her Majesty’s government as a refugee within the meaning of the United Nations Convention relating to the Status of Refugees done at Geneva on 28 July 1951[^f00010] as extended by the Protocol thereto which entered into force on 4th October 1967[^f00011];
  • “right of permanent residence” (“hawl i breswylio'n barhaol”) means a right arising under Directive 2004/38 to reside in the United Kingdom permanently without restriction;
  • “self-employed person” (“person hunangyflogedig”) means—in relation to an EEA national, a person who is self-employed within the meaning of Article 7 of Directive 2004/38 or the EEA Agreement, as the case may be; orin relation to a Swiss national, a person who is a self-employed person within the meaning of Annex 1 to the Swiss Agreement;
  • “settled” (“wedi setlo”) has the meaning given by section 33(2A) of the Immigration Act 1971[^f00012];
  • “Swiss Agreement” (“Cytundeb y Swistir”) means the Agreement between the European Community and its Member States, of the one part, and the Swiss Confederation, of the other, on the Free Movement of Persons signed at Luxembourg on 21 June 1999[^f00013] and which came into force on 1 June 2002;
  • “Swiss employed person” (“person cyflogedig Swisaidd”) means a Swiss national who is an employed person, other than a Swiss frontier employed person, in the United Kingdom;
  • “Swiss frontier employed person” (“person cyflogedig ffin y Swistir”) means a Swiss national who—is an employed person in the United Kingdom; andresides in Switzerland or in the territory of an EEA State other than the United Kingdom and returns to the national’s residence in Switzerland or that EEA State daily or at least once a week;
  • “Swiss frontier self-employed person” (“person hunangyflogedig ffin y Swistir”) means a Swiss national who—is a self-employed person in the United Kingdom; andresides in Switzerland or in the territory of an EEA State other than the United Kingdom and returns to the national’s residence in Switzerland or that EEA State daily or at least once a week;
  • “Swiss self-employed person” (“person hunangyflogedig Swisaidd”) means a Swiss national who is a self-employed person, other than a Swiss frontier self-employed person, in the United Kingdom;
  • “Turkish worker” (“gweithiwr Twrcaidd”) means a Turkish national who—is ordinarily resident in the United Kingdom; andis, or has been lawfully employed in the United Kingdom; and
  • “worker” (“gweithiwr”) means a worker within the meaning of Article 7 of Directive 2004/38 or the EEA Agreement as the case may be.
  • (2) For the purposes of this Schedule, “parent” (“rhiant”) includes a guardian, any other person having parental responsibility for a child and any person having care of a child and “child” (“plentyn”) is to be construed accordingly.
  • (3) For the purposes of this Schedule, a person (“P” in this definition) is to be treated as ordinarily resident in the United Kingdom, the United Kingdom and Islands, in the territory comprising the European Economic Area and Switzerland, in the territory comprising the European Economic Area, Switzerland and the overseas territories, or in the territory comprising the European Economic Area, Switzerland, Turkey and the overseas territories if P would have been so resident but for the fact that—
  • (a) P;
  • (b) P’s spouse or civil partner;
  • (c) P’s parent; or
  • (d) in the case of dependent direct relative in the ascending line, P’s child or child’s spouse or civil partner,

is or was temporarily employed outside the area in question.

  • (4) For the purposes of sub-paragraph (3), temporary employment includes—
  • (a) in the case of members of the regular naval, military or air forces of the Crown, any period which they serve outside the United Kingdom as members of such forces;
  • (b) in the case of members of the regular armed forces of an EEA State or Switzerland, any period which they serve outside the territory comprising the European Economic Area and Switzerland as members of such forces; and
  • (c) in the case of members of the regular armed forces of Turkey, any period which they serve outside the territory comprising the European Economic Area, Switzerland and Turkey as members of such forces.
  • (5) For the purposes of this Schedule an area which—
  • (a) was previously not part of the European Union or the European Economic Area; but
  • (b) at any time before or after these Regulations come into force has become part of one or the other or both of these areas,

is to be considered to have always been a part of the European Economic Area.

  • (6) For the purposes of this Schedule a person who is ordinarily resident in Wales, England, Scotland, Northern Ireland or the Islands having moved from one of those areas for the purpose of undertaking—
  • (a) the present course; or
  • (b) a course which, disregarding any intervening vacation, the person undertook immediately before undertaking the present course,

is to be considered to be ordinarily resident in the place from which the person moved.

Persons who are settled in the United Kingdom

2

  • (1) Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
  • (a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
  • (b) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
  • (c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
  • (2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).

3

Person—

  • (a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;
  • (b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (ch) mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Refugees and their family members

4

  • (1) Person—
  • (a) sy'n ffoadur;
  • (b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y person ei gydnabod fel ffoadur; ac
  • (c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
  • (2) Person—
  • (a) sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;
  • (b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
  • (c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
  • (ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
  • (3) Person—
  • (a) sydd yn blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
  • (b) a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
  • (c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
  • (ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
  • (d) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Persons with leave to enter or remain and their family members

5

  • (1) A person—
  • (a) with leave to enter or remain; and
  • (b) who is ordinarily resident in the United Kingdom on the first day of the first academic year of the course.
  • (2) A person who—
  • (a) is the spouse or civil partner of a person with leave to enter or remain;
  • (b) was the spouse or civil partner of the person with leave to enter or remain on the date on which that person made—
  • (i) the application for asylum; or
  • (ii) the application for discretionary leave, where no application for asylum was made; and
  • (c) is ordinarily resident in the United Kingdom on the first day of the first academic year of the course.
  • (3) A person—
  • (a) who is the child of a person with leave to enter or remain or the child of the spouse or civil partner of a person with leave to enter or remain;
  • (b) who, on the date on which the person with leave to enter or remain made—
  • (i) the application for asylum; or
  • (ii) the application for discretionary leave, where no application for asylum was made,

was the child of that person or the child of a person who was the spouse or civil partner of the person with leave to enter or remain on that date;

  • (c) who was under 18 on the date on which the person with leave to enter or remain made—
  • (i) the application for asylum; or
  • (ii) the application for discretionary leave, where no application for asylum was made; and
  • (d) who is ordinarily resident in the United Kingdom on the first day of the first academic year of the course.

Workers, employed persons, self-employed persons and their family members

6

  • (1) Person—
  • (a) sydd—
  • (i) yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;
  • (ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;
  • (iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
  • (iv) yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
  • (v) yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
  • (vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
  • (b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
  • (2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.

7

Person—

  • (a) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (c) sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr[^f00014], fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Persons who are settled in the United Kingdom and have exercised a right of residence elsewhere

8

  • (1) Person—
  • (a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
  • (b) sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
  • (c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;
  • (ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
  • (d) mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
  • (2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi arfer hawl i breswylio:
  • (a) pan fo A yn wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu
  • (b) pan fo A wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A yn mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae A yn wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae A yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.

EU nationals

9

  • (1) A person who—
  • (a) is either—
  • (i) an EU national on the first day of an academic year of the course; or
  • (ii) a family member of a such a person;
  • (b) is undertaking the course in the United Kingdom;
  • (c) subject to sub-paragraph (1A), has been ordinarily resident in the territory comprising the European Economic Area, Switzerland and the overseas territories throughout the three-year period preceding the first day of the first academic year of the course; and
  • (d) subject to sub-paragraph (2), whose ordinary residence in the relevant territory has not during any part of the period referred to in paragraph (c) been wholly or mainly for the purpose of receiving full-time education.
  • (1A) Paragraph (c) of sub-paragraph (1) does not apply to a family member of an EU national where that EU national—
  • (a) is—
  • (i) a United Kingdom national who has exercised a right to reside in the territory of another Member State under article 7(1) of Directive 2004/38; or
  • (ii) not a United Kingdom national; and
  • (b) has been ordinarily resident in the territory comprising the European Economic Area, Switzerland and the overseas territories throughout the three-year period preceding the first day of the first academic year of the course.
  • (2) Paragraph (d) of sub-paragraph (1) does not apply to a person who is treated as being ordinarily resident in the relevant territory in accordance with paragraph 1(3).

10

  • (1) Person—
  • (a) sy'n wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (ch) mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
  • (2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Children of Swiss nationals

11

Person—

  • (a) sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
  • (b) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (ch) mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Children of Turkish workers

12

Person—

  • (a) sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
  • (b) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
  • (c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor drwy'r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Signed

Leighton Andrews — Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru — 8 Mawrth 2011

Explanatory note

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cyrsiau cymhwysol a'r personau cymhwysol at ddibenion adran 28 o Deddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”).

Mae adran 27 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amod ar grantiau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor osod amod o dan adran 28 o Ddeddf 2004 ar gymorth ariannol a roddir i gyrff llywodraethu sefydliadau perthnasol. Ceir amod o dan adran 28 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad perthnasol i sicrhau nad yw'r ffioedd sy'n daladwy o ran unrhyw gwrs cymhwysol gan berson cymhwysol yn uwch na symiau'r ffi sylfaenol neu uwch sy'n gymwys i'r cwrs hwnnw. Rhagnodir symiau ffi sylfaenol ac uwch gan Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011.

Y cyrsiau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 3 yw'r cyrsiau hynny a ddynodir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a ddarperir gan sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru pan fo blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae eithriad ar gyfer “cyrsiau penben” os oedd y cwrs gwreiddiol wedi dechrau cyn 1 Medi 2012.

Y personau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 4 yw'r personau hynny sydd, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd berthnasol, yn dod o fewn i'r Atodlen, ac eithrio'r personau hynny nad oes ganddynt hawl i gymorth o dan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148 (Cy.32)) oherwydd paragraffau penodol yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hynny, neu'r personau y mae ganddynt eisoes radd anrhydedd o unrhyw sefydliad yn y DU. Mae eithriad i'r myfyrwyr hynny sy'n trosglwyddo i gwrs cymhwysol o gwrs a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012. Mae eithriadau mewn perthynas â gradd anrhydedd flaenorol ar gyfer personau sy'n ymgymryd â chyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd wedi ennill y radd anrhydedd yn unig fel rhan o gwrs sengl y maent yn ymgymryd ag ef yn gyfredol neu pan fo'r cwrs yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Footnotes

[^f00001]: 2004 p.8. Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

[^f00002]: Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

[^f00003]: 2002 p.32.

[^f00004]: 1988 p.40.

[^f00005]: O.S. 2011/148 (Cy.32).

[^f00006]: 1998 p.30. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

[^f00007]: OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.

[^f00008]: Cm. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t.6.

[^f00009]: Cmnd. 9171.

[^f00010]: Cmnd. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

[^f00011]: Diffinir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p.30).

[^f00012]: 2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.

[^f00013]: 1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

[^f00014]: OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

Dehongli

Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysol

Disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teulu

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teulu

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teulu

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

Gwladolion o'r UE

Plant Gwladolion Swisaidd

Plant gweithwyr Twrcaidd

Editorial notes

[^key-3e70ee679aef2e0dd02f81303032d1ee]: Reg. 1 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-b78b50dd275522d9eeab24c68e9a870c]: Reg. 2 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-95a3b8c5a539a2ec743e79b7e6cf270a]: Reg. 3 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-8b6ffdaf675aa81e64e76750ccd7f707]: Reg. 4 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-aafc4bd257dddf56770346c24f1da4de]: Sch. para. 1 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-c7cadd0ce8a5bee56810b0c30cd1cea9]: Sch. para. 2 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-2ea7ff091d8590885d1a9f2433cf7857]: Sch. para. 3 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-49076cce6ddb573ee42332e6b8c642fe]: Sch. para. 4 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-c8437ca383c38ebf8564640cd7ccef76]: Sch. para. 5 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-6f94527cf7740f08e67326bacb166619]: Sch. para. 6 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-653fc8d78d7365d392a8e51c22262b31]: Sch. para. 7 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-2822d5e7dbaf1f527be0b445c17a81e4]: Sch. para. 8 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-e62167e85efc9a131762269b2c3fe78e]: Sch. para. 9 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-9d302da122e10adf4cdc3a2b232e8542]: Sch. para. 10 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-b8fa8946474f042c22cd4a41dd4cf0a8]: Sch. para. 11 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-8a85b2beaccf342f1c7483e45fe6a98f]: Sch. para. 12 in force at 31.3.2011, see reg. 1(1)

[^key-8bb45265b854110bfe6aaeba86d73e36]: Words in Sch. para. 1(1) substituted (31.8.2011) by The Education (Student Fees, Awards and Support) (Wales) Regulations 2011 (S.I. 2011/1978), regs. 1(2), 21

[^key-d17708b7cd8e6856926a0eab8dbd506c]: Sch. para. 5(2)(b) substituted (31.8.2011) by The Education (Student Fees, Awards and Support) (Wales) Regulations 2011 (S.I. 2011/1978), regs. 1(2), 22(a)

[^key-252a9315f8f53d58e0d20d1488db2297]: Sch. para. 5(3)(b) substituted (31.8.2011) by The Education (Student Fees, Awards and Support) (Wales) Regulations 2011 (S.I. 2011/1978), regs. 1(2), 22(b)

[^key-04542e325f17679e8801c61673eb1548]: Sch. para. 5(3)(c) substituted (31.8.2011) by The Education (Student Fees, Awards and Support) (Wales) Regulations 2011 (S.I. 2011/1978), regs. 1(2), 22(c)

[^key-8bb4c633da6561ec05143b32f33a571c]: Reg. 3(6) inserted (1.9.2012) by The Student Fees (Qualifying Courses and Persons) (Wales) (Amendment) Regulations 2012 (S.I. 2012/1630), regs. 1(1), 2

[^key-612934bb261e6f5e851b3f04765977ae]: Words in Sch. para. 1(1) inserted (1.9.2013) by The Education (Student Fees, Awards, Qualifying Courses and Persons) (Wales) Regulations 2013 (S.I. 2013/1792), art. 1(2), reg. 7 (with reg. 1(3))

[^key-abd53080fa779221a8812d55da61ac20]: Words in Sch. para. 9(1)(c) inserted (1.9.2013) by The Education (Student Fees, Awards, Qualifying Courses and Persons) (Wales) Regulations 2013 (S.I. 2013/1792), art. 1(2), reg. 8(a) (with reg. 1(3))

[^key-e886cca929c6a16550fd4306d96b15d5]: Sch. para. 9(1A) inserted (1.9.2013) by The Education (Student Fees, Awards, Qualifying Courses and Persons) (Wales) Regulations 2013 (S.I. 2013/1792), art. 1(2), reg. 8(b) (with reg. 1(3))

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.