The Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013
Pan nad yw cyfanswm gwerth unrhyw gyfalaf a bennir yn Rhan 2 (cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig) o Atodlen 8 yn fwy na £10,000, unrhyw incwm sy’n deillio mewn gwirionedd o gyfalaf o’r fath.
23
Ac eithrio yn achos incwm o gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 8, unrhyw incwm gwirioneddol o gyfalaf.
24
Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, hawlogaeth ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ond peidiodd yr hawlogaeth honno ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999[^f00266] fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.
1
Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl fel enillydd cyflogedig, neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd â gwaith o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr—
- (a) os—
- (i) terfynwyd y gyflogaeth oherwydd ymddeol; ac
- (ii) ar ôl ymddeol, os oes hawl gan y ceisydd i gael pensiwn ymddeol o dan DCBNC, neu pan nad oes hawl o’r fath ganddo oherwydd, yn unig, methiant y ceisydd i fodloni’r amodau cyfrannu,
unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ond hynny am gyfnod, yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod yn union ar ôl y dyddiad y terfynwyd y gyflogaeth;
- (b) os terfynwyd y gyflogaeth rywfodd ac eithrio drwy ymddeol, a hynny cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn, unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ac eithrio—
- (i) unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir yn—
- (aa) paragraff 48(1)(e) o’r cynllun hwn, neu
- (bb) adran 28, 64 neu 68 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996[^f00268] (taliadau gwarantu, atal dros dro o’r gwaith ar seiliau meddygol neu famolaeth); a
- (ii) unrhyw ddyfarniad, swm neu daliad o’r natur a ddisgrifir yn—
- (aa) paragraff 48(1)(g) neu (i) o’r cynllun hwn, neu
- (bb) adran 34 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (taliadau gwarantu ac atal dros dro o’r gwaith: cwynion wrth dribiwnlysoedd cyflogaeth),
gan gynnwys unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i setlo cwyn i dribiwnlys cyflogaeth neu achos llys;
- (c) os, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn—
- (i) nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, ond
- (ii) nad yw’r ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl,
unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon neu baragraff 48(1)(j) o’r cynllun hwn
2
Yn achos ceisydd a fu, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan y cynllun hwn—
- (a) yn ymgymryd â chyflogaeth ran-amser fel enillydd cyflogedig, neu, os oedd y gyflogaeth y tu allan i Brydain Fawr, a fyddai wedi bod yn ymgymryd â chyflogaeth o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr; a
- (b) wedi peidio ag ymgymryd â’r gyflogaeth honno, boed y gyflogaeth honno wedi ei therfynu ai peidio,
- (c) unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio—
- (i) pan fo’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon;
- (ii) pan nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) o’r Atodlen hon neu baragraff 48(1)(j) o’r cynllun hwn.
3
Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl neu gyflogaeth ran-amser fel enillydd hunangyflogedig neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd felly pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr, ac sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig felly, o’r dyddiad y peidiodd cyflogaeth y ceisydd, unrhyw enillion a oedd yn deillio o’r gyflogaeth honno ac eithrio enillion y mae paragraff 50(3) a (4) o’r cynllun hwn (enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys iddynt.
4
- (1) Mewn achos y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ac nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo, £20; ond er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai nag £20.
- (2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd, premiwm anabledd difrifol, elfen gweithgaredd perthynol i waith neu elfen gymorth o dan Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
- (3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
- (a) y ceisydd yn aelod o gwpl a swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd difrifol o dan Atodlen 3; a
- (b) y ceisydd neu bartner y ceisydd heb gyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac o leiaf un ohonynt yn ymgymryd â chyflogaeth.
5
Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25.
6
- (1) Mewn achos pan nad yw paragraff 4 na pharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm gofalwr o dan Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr), £20 o enillion y person sydd, neu a oedd ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth wythnos flaenorol, yn cael lwfans gofalwr, neu a drinnir yn unol â pharagraff 14(2) o’r Atodlen honno fel pe bai’n cael lwfans gofalwr.
- (2) Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd ac unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm sydd i’w ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.
7
Pan ddyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â cheisydd sy’n aelod o gwpl ac sydd â’i enillion yn llai nag £20, ond nis dyfernir mewn perthynas â’r aelod arall o’r cwpl, ac y mae’r aelod arall hwnnw’n ymgymryd â chyflogaeth—
- (a) a bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20;
- (b) ac eithrio un bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw o’r cyfryw gyflogaeth arall hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 5, yn fwy nag £20.
8
Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd, a’r ceisydd yn un o gwpl ac aelod o’r cwpl hwnnw mewn cyflogaeth, £10; ond, er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai na £10.
9
- (1) Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ceisydd, £20 o enillion sy’n deillio o un neu ragor o gyflogaethau fel—
- (a) diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[^f00269]neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
- (b) diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban[^f00270];
- (c) fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;
- (d) fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;
- (e) fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001[^f00271];
ond, er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio i’r graddau a bennir yn is-baragraff (2).
- (2) Os yw partner y ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth—
- (a) a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd y paragraff hwn, yn fwy nag £20;
- (b) ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd o’r gyflogaeth honno hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan y paragraff hwn, yn fwy nag £20.
10
Pan fo’r ceisydd yn ymgymryd ag un neu ragor o’r cyflogaethau a bennir ym mharagraff 9(1) o’r Atodlen hon, ond enillion y ceisydd yn deillio o’r cyfryw gyflogaethau yn llai nag £20 mewn unrhyw wythnos a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth arall, cymaint o enillion y ceisydd o’r gyflogaeth arall honno hyd at £5 os yw’r ceisydd yn geisydd sengl neu hyd at £10 os oes gan y ceisydd bartner, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan baragraff 9, yn fwy nag £20.
11
Mewn achos pan nad oes yr un o’r paragraffau 4 i 10 o’r Atodlen hon yn gymwys, £5.
12
- (1) Os yw—
- (a) y ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;
- (b) yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person hwnnw’n ymgymryd â gwaith esempt fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac
- (c) nad yw paragraff 14 o’r Atodlen hon yn gymwys,
y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).
- (2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 4 i 11 o’r Atodlen hon yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon, yna bydd paragraff 5 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.
- (3) Er gwaethaf paragraff 30 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall (“B”) o’r cwpl hwnnw ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).
- (4) Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd cymaint o enillion B, na fyddai, o’i gydgrynhoi ag enillion A, yn fwy na’r swm penodedig; ond cyfyngir y swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn i uchafswm o £20 oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.
- (5) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—
- (a) sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;
- (b) sy’n cael budd-dal analluogrwydd;
- (c) sy’n cael lwfans anabledd difrifol; neu
- (d) a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975.
- (6) Ystyr “gwaith esempt” (“exempt work”) yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—
- (a) rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008[^f00272]; neu (yn ôl fel y digwydd)
- (b) rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995[^f00273],
ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.
- (7) Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).
13
Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 23 neu 24 o Atodlen 7 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.
14
Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, enillion y ceisydd.
15
Unrhyw enillion sy’n deillio o gyflogaeth ac sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig am ba bynnag gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r enillion hynny i’r Deyrnas Unedig.
16
Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.
17
Unrhyw enillion plentyn neu berson ifanc.
18
- (1) Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan baragraffau 4 i 12 o’r Atodlen hon.
- (2) Amodau’r is-baragraff hwn yw—
- (a) bod y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002[^f00274] yn gymwys iddo; neu
- (b) bod—
- (i) y ceisydd, neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
- (ii) y ceisydd yn aelod o gwpl, a bod—
- (aa) un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a
- (bb) swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 4 o Atodlen 3; neu
- (iii) y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
- (iv) y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac—
- (aa) swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9, yr elfen gweithgaredd perthynol i waith o dan baragraff 21 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3 yn eu tro;
- (bb) pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n bodloni’r amodau cymhwyso am y premiwm anabledd neu’r naill neu’r llall o’r elfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (aa) uchod ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
- (3) Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—
- (a) y swm a gyfrifwyd y ceir ei ddiystyru o enillion y ceisydd o dan baragraffau 4 i 12 o’r Atodlen hon;
- (b) y swm a gyfrifwyd o gostau gofal plant sy’n ddidynadwy o dan baragraff 54(1)(c) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac
- (c) £17.10.
- (4) Bydd darpariaethau paragraff 10 (gwaith am dâl) o’r cynllun hwn yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio dim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr yn is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.
19
Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflogaeth ran-amser” (“part-time employment”) yw cyflogaeth y mae’r person yn ymgymryd â hi am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
1
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal
2
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol.
3
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.
4
Unrhyw swm a dalwyd ar gyfer treth ar incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan baragraff 51 o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
5
Unrhyw daliad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd neu sydd i’w tynnu gan geisydd—
- (a) a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu
- (b) sy’n wirfoddolwr,
os nad yw’r ceisydd hwnnw, fel arall, yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw o’r gyflogaeth ac na thrinnir ef fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan baragraff 53(5) o’r cynllun hwn (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
6
Unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.
7
Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth.
8
Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.
9
Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.
10
Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, yr hawl, ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, ond daeth yr hawl honno i ben ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999[^f00276] fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.
11
Unrhyw lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA.
12
Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd methiant i dalu—
- (a) unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 11 neu 14 o’r Atodlen hon;
- (b) cymhorthdal incwm;
- (c) lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
- (d) lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.
13
Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006[^f00277] (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983[^f00278] neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.
14
Unrhyw lwfans gweini.
15
Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr neu unrhyw daliad cyfatebol.
16
- (1) Unrhyw daliad—
- (a) ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—
- (i) rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996[^f00279] (talu treuliau ysgol; dyfarnu ysgoloriaethau etc);
- (ii) rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[^f00280] (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysg);
- (iii) cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992[^f00281];
- (b) cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—
- (i) adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002[^f00282] (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu
- (ii) rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu
- (c) yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a wnaed yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.
- (2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—
- (a) rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;
- (b) rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu
- (c) cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,
mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).
17
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar ffurf ad-daliad o dan reoliad 11(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr Athrawon) (Ad-dalu etc) 2003[^f00283].
18
- (1) Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant1973[^f00284] neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990[^f00285] ac eithrio—
- (a) taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;
- (b) taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu
- (c) taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.
- (2) Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.
19
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—
- (a) taliad elusennol;
- (b) taliad gwirfoddol;
- (c) taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) uchod) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;
- (d) taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—
- (i) yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu
- (ii) o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,
o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu
- (e) taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.
- (2) Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—
- (a) cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu
- (b) rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.
20
Yn ddarostyngedig i baragraff 40 o’r Atodlen hon, £10 o unrhyw rai o’r canlynol, sef—
- (a) pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y diystyrir pensiwn o’r fath o dan baragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon);
- (b) pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;
- (c) pensiwn sy’n daladwy i berson sy’n wraig neu ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi ac eithrio deddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;
- (d) taliad incwm gwarantedig, ac os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau islaw £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011[^f00286], cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrir, yn fwy na £10;
- (e) taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad o’r fath a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;
- (f) pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;
- (g) pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.
21
Yn ddarostyngedig i baragraff 40 o’r Atodlen hon, £15 o unrhyw—
- (a) lwfans mam weddw a dalwyd yn unol ag adran 37 o DCBNC;
- (b) lwfans rhiant gweddw a dalwyd yn unol ag adran 39A o DCBNC.
22
- (1) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan y ceisydd fuddiant llesiannol ynddo, neu y trinnir y ceisydd o dan baragraff 67 o’r cynllun hwn) cyfalaf a ddelir ar y cyd) fel pe bai ganddo fuddiant llesiannol ynddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17 neu 30 i 33 o Atodlen 9.
- (2) Incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 5, 7 neu 30 i 33 o Atodlen 9 ond i’r graddau canlynol yn unig—
- (a) unrhyw ad-daliadau morgais a wneir mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni; neu
- (b) unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd yn atebol i’w thalu neu i’w talu mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre ac a delir yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni.
- (3) Mae’r diffiniad o “taliadau dŵr” (“water charges”) ym mharagraff 2(1) o’r cynllun hwn yn gymwys i is-baragraff (2) o’r paragraff hwn gan hepgor y geiriau “, i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref”.
23
Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—
- (a) o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[^f00287], dyfarniad y myfyriwr hwnnw;
- (b) o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[^f00288], bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu
- (c) benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,
swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.
24
- (1) Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—
- (a) ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu
- (b) yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,
a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen hon, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—
- (a) swm wythnosol y taliadau; neu
- (b) y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),
pa un bynnag yw’r lleiaf.
25
Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd gan blentyn neu berson ifanc neu annibynnydd.
26
Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27 o’r Atodlen hon, hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—
- (a) pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu
- (b) pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.
27
Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—
- (a) pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau;
- (b) pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.
28
- (1) Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau, ac eithrio pan fo paragraff 51(10)(b) o’r cynllun hwn (darpariaeth o gymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999[^f00289] wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn gymwys.
- (2) Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at “incwm mewn nwyddau neu wasanaethau” (“income in kind”) yn cynnwys taliad a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd ac a ddefnyddir gan y trydydd parti i ddarparu buddion ar ffurf nwyddau neu wasanaethau i’r ceisydd.
29
Unrhyw incwm sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod y cyfryw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.
30
- (1) Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd mewn perthynas â pherson sy’n aelod o deulu’r ceisydd—
- (a) yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[^f00290] neu’n unol â chynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion yr Alban o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007[^f00291] (cynlluniau lwfansau mabwysiadu);
- (b) sy’n daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989[^f00299] a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol at gynhaliaeth plentyn pan fo’r plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn preswylio) neu, yn yr Alban, adran 50 o Ddeddf Plant 1975[^f00300] (taliadau tuag at gynhaliaeth plant);
- (c) sy’n daliad a wneir gan awdurdod, fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995[^f00301], yn unol ag Erthygl 15 o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo (cyfraniad gan awdurdod at gynhaliaeth plentyn);
- (d) yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).
- (2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wnaed i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
31
Unrhyw daliad a wnaed i geisydd y lletywyd person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wnaed—
- (a) gan awdurdod lleol o dan—
- (i) adran 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt),
- (ii) adran 26 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995[^f00302] (dull o ddarparu llety i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol), neu
- (iii) rheoliad 33 neu 51 o Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009[^f00303] (lwfansau maethu a gofal gan berthynas a lwfansau maethu); neu
- (b) gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol).
32
Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—
- (a) awdurdod iechyd;
- (b) awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;
- (c) sefydliad gwirfoddol;
- (d) y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[^f00304];
- (e) ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[^f00305] neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006[^f00306]; neu
- (f) Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[^f00307].
33
Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989[^f00308] neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).
34
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd, neu a fu, yn eu gofal) i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.
- (2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—
- (a) wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a
- (b) yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac
- (c) yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.
35
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i gynnal yr ad-daliadau—
- (a) ar fenthyciad a sicrhawyd ar yr annedd a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd; neu
- (b) o dan gytundeb rheoleiddiedig yn yr ystyr o “regulated agreement” fel y’i diffinnir at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974[^f00309] neu o dan gytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant amodol yn yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “hire-purchase agreement” a “conditional sale agreement” fel y’u diffinnir at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964[^f00310].
- (2) Ni chaniateir diystyru taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac eithrio i’r graddau nad yw’r taliad a gafwyd o dan y polisi hwnnw yn fwy na’r symiau, a gyfrifir ar sail wythnosol, a ddefnyddir i—
- (a) cynnal yr ad-daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, (1)(b); a
- (b) talu unrhyw swm sy’n ddyladwy ar ffurf premiymau ar—
- (i) y polisi hwnnw; neu
- (ii) mewn achos pan fo is-baragraff (1)(a) yn gymwys, polisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag colled neu ddifrod i unrhyw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd, ac sy’n ofynnol fel amod o’r benthyciad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).
36
Unrhyw daliad o incwm sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd paragraff 61 o’r cynllun hwn (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
37
Unrhyw—
- (a) taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC ( y gronfa gymdeithasol); neu
- (b) cymorth achlysurol.
38
Unrhyw daliad o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig i bensiynwyr).
39
Pan wneir taliad o incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.
40
Ni chaiff y cyfanswm o incwm ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, incwm y teulu ac incwm unrhyw berson y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei feddu o dan baragraff 30(3) (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd phriodasau amlbriod), sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 74(2)(b) a pharagraff 75(1)(d) o’r cynllun hwn (cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad, incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad), paragraff 78(2) o’r cynllun hwn (trin benthyciadau myfyriwr), paragraff 78(3) o’r cynllun hwn (trin taliadau o gronfeydd mynediad) a pharagraffau 20 ac 21 o’r Atodlen hon, mewn unrhyw achos, fod yn fwy nag £20 yr wythnos.
41
- (1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).
- (2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
- (a) partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;
- (b) unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
- (c) unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
- (3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os oedd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oedd wedi ei diddymu ar yr adeg y digwyddodd y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
- (a) y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;
- (b) unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
- (c) unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
- (4) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
- (a) nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
- (b) gwneir y taliad i naill ai—
- (i) i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
- (ii) os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,
ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.
- (5) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
- (a) nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
- (b) gwneir y taliad naill ai—
- (i) i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
- (ii) os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,
ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.
- (6) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw incwm sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.
- (7) At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.
42
Unrhyw fudd-dal tai.
43
Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.
44
Unrhyw daliad i reithiwr neu dyst mewn perthynas â phresenoldeb mewn llys, ac eithrio digollediad am golli enillion neu golli budd-dal sy’n daladwy o dan y Deddfau budd-dal.
45
Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad yn y dreth gyngor o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor).
46
- (1) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—
- (a) o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003[^f00311] (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);
- (b) o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007[^f00312] (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);
- (c) o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003[^f00313] (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd).
- (2) Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1).
47
Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988[^f00314] yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau).
48
Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa.
49
- (1) Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, ac eithrio cynhaliaeth plant, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan gyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner partner y ceisydd.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.
- (3) At ddibenion is-baragraff (1) rhaid trin taliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lle cynhaliaeth fel pe bai’n daliad o gynhaliaeth a wnaed gan berson a bennir yn is-baragraff (1).
50
- (1) Unrhyw daliad o gynhaliaeth plant a wneir gan, neu sy’n deillio o, berthynas atebol pan fo’r plentyn neu berson ifanc y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan wneir y taliad gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.
- (2) Yn is-baragraff (1)—
- ystyr “cynhaliaeth plant” (“child maintenance”) yw unrhyw daliad tuag at gynhaliaeth plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir yn wirfoddol a thaliadau a wneir o dan—Deddf Cynnal Plant 1991[^f00315];Gorchymyn Cynnal Plant (Gogledd Iwerddon) 1991[^f00316];gorchymyn llys;gorchymyn cydsynio;cytundeb cynhaliaeth a gofrestrwyd ar gyfer ei weithredu yn Llyfrau’r Cyngor a’r Sesiwn neu yn llyfrau’r llysoedd siryf;
- ystyr “perthynas atebol” (“liable relative”) yw person a restrir yn y diffiniad o “liable relative” yn rheoliad 54 (dehongli) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[^f00317], ac eithrio person sy’n dod o fewn is-baragraff (d) o’r diffiniad hwnnw.
51
Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944[^f00318] i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.
52
Unrhyw lwfans gwarcheidwad.
53
- (1) Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan Ran 2, 3 neu 5 o DCBNC, unrhyw gynnydd yng nghyfradd y budd-dal hwnnw sy’n digwydd o dan Ran 4 (cynnydd ar gyfer dibynyddion) neu adran 106(a) (atodiad i’r anghyflogadwy) o’r Ddeddf honno, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.
- (2) Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw bensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006[^f00319], unrhyw gynnydd yng nghyfradd y pensiwn neu lwfans hwnnw o dan y Gorchymyn hwnnw, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.
54
Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad yw’n berson sydd â hawl o dan y Gorchymyn hwnnw.
55
Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983[^f00320] (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.
56
- (1) Unrhyw daliad—
- (a) a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—
- (i) yr oedd ei farwolaeth i’w phriodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a
- (ii) y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a
- (b) yn hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.
- (2) Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).
57
Unrhyw ostyngiad o dan y cynllun hwn y mae hawl gan y ceisydd i’w gael.
58
Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan is-baragraff (1) o baragraff 18 o Atodlen 6, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.
59
Unrhyw daliad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968[^f00321], neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd) neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[^f00322] (taliadau uniongyrchol).
60
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn perthynas â pherson sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw daliad i’r person hwnnw—
- (a) i dalu treuliau a dynnwyd yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol tra’n ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol;
- (b) a ddefnyddiwyd, neu a fwriadwyd i’w ddefnyddio, i gynnal ad-daliadau ar fenthyciad a gymerwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol,
- (c) y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.
- (2) Mae is-baragraff (1) yn gymwys yn unig mewn perthynas â thaliadau a delir i’r person hwnnw allan o’r cyfrif arbennig.
61
- (1) Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).
- (2) Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.
- (3) At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.
62
Pan fo swm y lwfans cynhaliaeth a delir i berson mewn wythnos ostyngiad yn fwy na swm y lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r person hwnnw wedi ei gael yn yr wythnos ostyngiad pe bai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw llai 50c, y swm dros ben hwnnw.
RHAN 1 — Cyfalaf sydd i’w ddiystyru
1
Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.
2
Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.
3
Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.
4
Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—
- (a) gan berson sy’n berthynas i’r ceisydd neu bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, neu’n analluog;
- (b) gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.
5
Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre y caniataodd y ceisydd brydles neu denantiaeth arno neu arni, sy’n bodoli ar y pryd, gan gynnwys is-brydlesi neu is-denantiaethau.
6
Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd hefyd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.
7
Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r cyfan o fuddiant y ceisydd yn y fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.
8
Pob eiddo personol.
9
Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu’r asedau hynny.
10
Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—
- (a) os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond
- (b) bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu (neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn) fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,
am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.
11
Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.
12
Gwerth unrhyw gontract cynllun angladd; ac at y diben hwn, ystyr “contract cynllun angladd” (“funeral plan contract”) yw contract lle—
- (a) y mae’r ceisydd yn gwneud un neu ragor o daliadau i berson arall (“y darparwr”);
- (b) y mae’r darparwr yn ymgymryd i ddarparu neu sicrhau y darperir, angladd yn y Deyrnas Unedig i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd; ac
- (c) unig ddiben y cynllun yw darparu neu sicrhau y darperir, angladd i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd.
13
Pan fo taliad ex gratia wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—
- (a) y ceisydd;
- (b) partner y ceisydd;
- (c) priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu
- (d) priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,
gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, swm sy’n hafal i’r taliad hwnnw.
14
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—
- (a) person â diagnosis;
- (b) partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu
- (c) rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.
- (2) Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—
- (a) person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
- (b) person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.
- (3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu bartner ceisydd sydd yn—
- (a) person â diagnosis;
- (b) partner i berson â diagnosis, neu a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar yr adeg y bu farw’r person â diagnosis; neu
- (c) rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.
- (4) Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—
- (a) person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
- (b) person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.
- (5) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—
- (a) sy’n bartner y person â diagnosis;
- (b) yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,
ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol.
- (6) Yn y paragraff hwn—
- ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;
- ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;
- ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.
15
Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—
- (a) wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;
- (b) wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu
- (c) yn rhiant plentyn a fu farw,
yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
16
- (1) Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan—
- (a) yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “yr Ymddiriedolaethau”); neu
- (b) y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).
- (2) Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd, partner neu gyn-bartner y person hwnnw—
- (a) nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu
- (b) a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw.
- (3) Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau ac a wneir i, neu er budd y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys.
- (4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys—
- (a) os nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu
- (b) pan fo’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, os nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, os nad oedd wedi ei diddymu pan ddigwyddodd y farwolaeth.
- (5) Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—
- (a) nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn sydd, neu a fu, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a
- (b) gwneir y taliad naill ai—
- (i) i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
- (ii) os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,
ond hynny am gyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.
- (6) Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, pan—
- (a) nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (“y dyddiad perthnasol”) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o aelwyd y person hwnnw; a
- (b) gwneir y taliad naill ai—
- (i) i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
- (ii) os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i unrhyw berson sy’n sefyll yn lle rhiant y plentyn neu’r person ifanc neu’r myfyriwr hwnnw,
ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.
- (7) Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.
17
- (1) Swm sy’n hafal i swm unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, i’r partner.
- (2) Os gweinyddir y cyfan neu ran o’r taliad—
- (a) gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol o dan Reol 21.11(1) o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998[^f00325] neu’r Llys Gwarchod, neu ar ran person pan na ellir gwneud y taliad ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath;
- (b) yn unol â gorchymyn a wneir o dan Reol 36.14 o Reolau Achosion Cyffredin 1993 neu o dan Reol 128 o’r Rheolau hynny; neu
- (c) yn unol â thelerau ymddiriedolaeth a sefydlwyd er budd y ceisydd neu bartner y ceisydd,
- (d) y cyfan o’r swm a weinyddir felly.
18
Unrhyw swm a bennir ym mharagraff 19, 20, 21 neu 25 o’r Atodlen hon am gyfnod o un flwyddyn sy’n cychwyn gyda dyddiad derbyn y swm hwnnw.
19
Symiau a delir o dan bolisi yswiriant mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod i’r eiddo a feddiennir gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac i eiddo personol y ceisydd.
20
Cymaint o unrhyw symiau a delir i’r ceisydd neu a adneuir yn enw’r ceisydd at yr unig ddiben o—
- (a) prynu mangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu
- (b) cyflawni atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol i’r fangre a feddiennir, neu y bwriedir ei meddiannu, gan y ceisydd fel cartref y ceisydd.
21
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff 22 o’r Atodlen hon, unrhyw swm a delir—
- (a) fel ôl-daliad o fudd-dal;
- (b) i ddigolledu am dalu budd-dal yn hwyr;
- (c) yn lle taliad o fudd-dal;
- (d) i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 22, sef swm nad yw’r paragraff hwnnw’n gymwys iddo;
- (e) gan awdurdod lleol allan o gyllid a ddarperir naill ai o dan adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[^f00326] o dan gynllun a elwir “Cefnogi Pobl” neu adran 91 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001[^f00327].
- (2) Yn is-baragraff (1), ystyr “budd-dal” (“benefit”) yw—
- (a) lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;
- (b) lwfans byw i’r anabl;
- (c) taliad annibyniaeth bersonol;
- (d) TALlA;
- (e) cymhorthdal incwm;
- (f) lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
- (g) credyd pensiwn y wladwriaeth;
- (h) budd-dal tai;
- (i) budd-dal treth gyngor;
- (j) credyd treth plant;
- (k) cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC (cynnydd pan fo angen gweini cyson), ac unrhyw gynnydd pellach mewn pensiwn o’r fath o dan adran 105 o DCBNC (cynnydd ar gyfer anabledd eithriadol o ddifrifol);
- (l) unrhyw swm a gynhwysir oherwydd anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd neu’r angen am weini cyson mewn pensiwn anabledd rhyfel neu bensiwn rhyfel gwraig neu ŵr gweddw;
- (m) unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001[^f00328];
- (n) credyd treth gwaith; neu
- (o) lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.
22
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad o £5,000 neu ragor, a wnaed i unioni, neu ddigolledu am gamgymeriad swyddogol mewn cysylltiad â budd-dal perthnasol ac a gafwyd yn llawn gan y ceisydd ar neu ar ôl y diwrnod yr enillodd y ceisydd yr hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn.
- (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), cyfanswm unrhyw daliadau a ddiystyrir o dan—
- (a) paragraff 7(2) o Atodlen 10 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[^f00329];
- (b) paragraff 12(2) o Atodlen 8 i Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996[^f00330];
- (c) paragraff 9(2) o Atodlen 5 i Reoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006[^f00331];
- (d) paragraff 20A o Atodlen 5 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[^f00332];
- (e) paragraff 11(2) o Atodlen 9 i Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008[^f00333],
os oedd y dyfarniad yr oedd y taliadau i’w diystyru ddiwethaf mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny naill ai’n terfynu yn union cyn y dyddiad perthnasol neu’n parhau mewn bodolaeth ar y dyddiad hwnnw.
- (3) Bydd unrhyw ddiystyriad sy’n gymwys o dan is-baragraff (1) neu (2) yn cael effaith hyd nes daw’r dyfarniad i ben.
- (4) Yn y paragraff hwn—
- ystyr “y dyfarniad” (“the award”), ac eithrio yn is-baragraff (2), yw—y dyfarniad o ostyngiad o dan y cynllun hwn pan geir y swm perthnasol, neu, os telir y swm perthnasol mewn mwy nag un rhandaliad, pan geir y rhandaliad cyntaf o’r swm hwnnw; aos dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniadau pellach tan ddiwedd yr olaf ohonynt, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniadau pellach, mai’r ceisydd—yw’r person a gafodd y swm perthnasol;yw partner y person hwnnw; neua oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
- mae i “camgymeriad swyddogol”—pan fo’r camgymeriad yn ymwneud â budd-dal tai, neu fudd-dal treth gyngor (mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn 1 Ebrill 2013), yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(2) o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001[^f00334]; apan fo’r camgymeriad yn ymwneud ag unrhyw fudd-dal perthnasol arall, yr ystyr a roddir i “official error” gan reoliad 1(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (Penderfyniadau ac Apelau) 1999[^f00335];
- ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw unrhyw fudd-dal a bennir ym mharagraff 21(2);
- ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y gwnaed cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn; ac
- ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant sum”) yw’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) neu’r cyfanswm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
23
Os delir ased cyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r cyfalaf hwnnw i sterling.
24
Gwerth yr hawl i gael incwm o gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol.
25
Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 4 o Atodlen 5 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 5 neu 6 o’r Atodlen honno.
26
Yr annedd a feddiennir fel y cartref; ond un annedd yn unig sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn.
27
Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan Atodlen 5 neu 5A i DCBNC neu o dan Atodlen 1 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-dal Ymddeol Graddedig) 2005[^f00336], neu pan drinnir ef fel pe bai wedi gwneud dewis o’r fath, a thaliad wedi ei wneud yn unol â’r dewis hwnnw, swm sy’n hafal i—
- (a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu
- (b) swm y cyfandaliad hwnnw,
ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn neu fuddion.
28
Unrhyw daliadau a wneir yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan—
- (a) adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[^f00337] (taliadau uniongyrchol);
- (b) adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968[^f00338] (taliadau uniongyrchol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymunedol);
- (c) adrannau 12A i 12C o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);
- (d) Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972[^f00339] (lles cymdeithasol cyffredinol); neu
- (e) adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002[^f00340] (taliadau uniongyrchol).
RHAN 2 — Cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig
29
Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.
30
Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn daladwy amdano.
31
Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal, neu werth ildio blwydd-dal o’r fath (os oes gwerth ildio).
32
Pan ddelir eiddo o dan ymddiriedolaeth, ac eithrio—
- (a) ymddiriedolaeth elusennol yn yr ystyr a roddir i “charitable trust” gan Ddeddf Elusennau 2011[^f00341]; neu
- (b) ymddiriedolaeth a sefydlwyd gydag unrhyw daliad y mae paragraff 16 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo,
a phan fo taliadau i gael eu gwneud o dan delerau’r ymddiriedolaeth, neu pan fo disgresiwn gan yr ymddiriedolwyr i wneud taliadau i’r ceisydd neu bartner y ceisydd neu’r ddau, neu er budd y naill neu’r llall neu’r ddau, yr eiddo hwnnw.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.