The Education (Student Support) (Wales) Regulations 2013

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2013-12-12
Last updated 2017-02-17
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API
  • (7) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
  • (a) terfynu’r cyfnod cymhwystra;
  • (b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;
  • (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 131.
  • (8) Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

126
  • (1) Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall hwnnw—
  • (a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;
  • (b) os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
  • (c) os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
  • (2) Y seiliau trosglwyddo yw—
  • (a) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu
  • (b) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.
  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawlogaeth i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo, gweddill y cymorth o dan y Rhan hon, y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo ohono.
  • (4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth ar ôl y trosglwyddo, yn unol â’r Rhan hon.
  • (5) Ni chaiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1), ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

127
  • (1) Rhaid i berson wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.
  • (2) Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
  • (3) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy’n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.
  • (4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd—
  • (a) pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;
  • (b) os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac
  • (c) sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

128

Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â rhoi gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

Swm y grant

129
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw’r cyfryw swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.
  • (2) Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.
  • (3) At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw’r “mathau o wariant cymwys”—
  • (a) gwariant ar gynorthwyydd nad yw’n gynorthwyydd meddygol;
  • (b) gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a
  • (c) gwariant ychwanegol a ysgwyddir—
  • (i) o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;
  • (ii) o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o’r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu’r Athrofa.
  • (4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant o dan y Rhan hon yn daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
  • (5) Pan fo grant o dan y Rhan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
  • (6) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 123(2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon.

Talu’r grant

130
  • (1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i’w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.
  • (2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau’r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

Gordaliadau

131
  • (1) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.
  • (2) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o’r farn nad yw’n briodol i wneud hynny.
  • (3) Dyma’r dulliau ar gyfer adennill—
  • (a) tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
  • (b) cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
  • (4) Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
  • (5) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
  • (6) Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
  • (7) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—
  • (a) pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;
  • (b) pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
  • (c) pan nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
  • (8) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—
  • (a) pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a
  • (b) pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
  • (9) Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

Diwygio Rheoliadau 2012

132
  • (1) Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau canlynol.
  • (2) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—
  • “ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig— sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013; pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno.
  • (3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “blwyddyn academaidd”, rhodder—
  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw— mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno; neu mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno;
1
  • (1) At ddibenion yr Atodlen hon—
  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw— o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE— priod y person neu ei bartner sifil; disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd— o dan 21 oed; neu yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person; o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd— priod y person neu ei bartner sifil; neu plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person; o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38— priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd— o dan 21 oed; neu yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38— priod neu bartner sifil y gwladolyn; disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd— o dan 21 oed; neu yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn; o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9— priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd— o dan 21 oed; neu yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999[^f00089] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;
  • ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE— sy’n weithiwr yng Nghymru; a sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
  • ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd— yn berson cyflogedig yng Nghymru; a yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos; ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw— o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir; ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig; ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd— yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir(“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd— yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[^f00090].
  • (2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
  • (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at y diben o ymgymryd ag—
  • (a) y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu
  • (b) gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

  • (4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
  • (a) A;
  • (b) priod neu bartner sifil A;
  • (c) rhiant A; neu
  • (d) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

  • (5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
  • (a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a
  • (b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
  • (c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
  • (6) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
  • (a) nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
  • (b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

  • (7) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

Gwladolion o’r UE

Plant gwladolion Swisaidd

Plant gweithwyr Twrcaidd

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

Myfyrwyr anabl

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

Trosglwyddo

Talu

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg

Gofynion gwybodaeth

Gordaliadau

Diffiniadau

Myfyriwr cymwys annibynnol

Incwm yr aelwyd

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

Cyfraniadau hollt

Diffiniadau

Incwm yr aelwyd

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys

Cyfrifo’r cyfraniad

Cyfraniadau hollt

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.