The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) Regulations 2014

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2014-09-24
Last updated 2025-07-18
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API

[^key-4051c9147cfc5aa35a3f6ccec714b5df]: Words in reg. 4(2)(d) substituted (20.12.2024) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 (S.I. 2024/1280), regs. 1, 5(b)

[^key-8210fd81fb2d5b1b18af8c5ddc5f2d08]: Word in reg. 5(1) omitted (20.12.2024) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 (S.I. 2024/1280), regs. 1, 6(a)

[^key-0c56b22c16b09d5a89b6ee9104f071ae]: Reg. 5(1)(q)(r) inserted (20.12.2024) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 (S.I. 2024/1280), regs. 1, 6(b)

[^key-1606e52eca20912f9aa3dd9375836034]: Reg. 6(2)(c) omitted (20.12.2024) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 (S.I. 2024/1280), regs. 1, 7(a)

[^key-ed10c03ce7505ad7d850e79162b5701f]: Words in reg. 6(2)(d) substituted (20.12.2024) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2024 (S.I. 2024/1280), regs. 1, 7(b)

[^key-187e4c02bf9ecc7257ad560aee81f332]: Word in reg. 3 omitted (18.7.2025) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 3(a)

[^key-a612aae03ee1d3e146002de9d3a10a2e]: Word in reg. 3(q) and semicolon substituted for full stop (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 3(b)

[^key-cbe3a57fed980dac4aeaa7799eb4b15f]: Reg. 3(r) inserted (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 3(c)

[^key-95c3497477643668771a280097deaf01]: Word in reg. 4(2) omitted (18.7.2025) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 4(a)

[^key-751e08cd768cb58dfe0fd536d7b81c27]: Word in reg. 4(2)(l) and semicolon substituted for full stop (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 4(b)

[^key-d147ddbb4d876d0c833a4f8f0eba4d1d]: Reg. 4(2)(m) inserted (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 4(c)

[^key-0235e95982287e51599571fa9c1b5fa9]: Word in reg. 5(1) omitted (18.7.2025) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 5(a)

[^key-99533e8e4f647af65ca61da93e93fa17]: Word in reg. 5(1)(r) and semicolon substituted for full stop (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 5(b)

[^key-30d6c42eadcc2320c337f1370a917476]: Reg. 5(1)(s) inserted (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 5(c)

[^key-1706ec1fa43093c5a03ddd7a0b99ac18]: Word in reg. 6(2) omitted (18.7.2025) by virtue of The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 6(a)

[^key-94cbc97405d3c4fddb40c179f5e11deb]: Word in reg. 6(2)(l) and semicolon substituted for full stop (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 6(b)

[^key-b1d6837687b1d74982ee291120066013]: Reg. 6(2)(m) inserted (18.7.2025) by The Allocation of Housing and Homelessness (Eligibility) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/894), regs. 1, 6(c)

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1

  • (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 31 Hydref 2014.
  • (2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2

  • (1) Yn y Rheoliadau hyn—
  • ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;
  • ystyr “y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid” (“the Refugee Convention”) yw’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hymestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;
  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;
  • ystyr “noddwr” (“sponsor”) yw person sydd wedi rhoi ymgymeriad ysgrifenedig at ddibenion y Rheolau Mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety person arall;
  • ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971[^f00003] (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth);
  • ...
  • ystyr “Rheoliadau yr AEE” (“the EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 ac mae cyfeiriadau at Reoliadau yr AEE i'w darllen gydag Atodlen 4 i Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chydlynu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â'r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) 2020.
  • (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
  • (a) mae i “ceisiwr gwaith”, “person hunangyflogedig”, a “gweithiwr” yr un ystyr ag a roddir i “jobseeker”, “self-employed person” a “worker”, yn y drefn honno, at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE[^f00006]; a
  • (ab) ystyr “gweithiwr trawsffiniol” yw person sy'n weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â'r UE) 2020;
  • (b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae cyfeiriadau at aelod o deulu ceisiwr gwaith, person hunangyflogedig , gweithiwr neu weithiwr trawsffiniol i’w dehongli yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau yr AEE.
  • (3) At ddibenion rheoliadau 4(2)(d) ac (h) a 6(2)(d) ac (h) nid yw “aelod o deulu” (“family member”) yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel aelod o deulu yn rhinwedd rheoliad 7(3) o Reoliadau yr AEE.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai

3

Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ganlyn sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

  • (a) Dosbarth A – person a gofnodir fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
  • (b) Dosbarth B – person—
  • (i) sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a
  • (ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
  • (c) Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—
  • (i) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;
  • (ii) sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu’r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a
  • (iii) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;
  • (d) Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo; ...
  • (e) Dosbarth E – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; ...
  • (f) Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus ; ...
  • (g) Dosbarth G – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; ...
  • (h) Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd Calais iddo i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo ; ...
  • (i) Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo ;
  • (j) Dosbarth J – person—
  • (i) sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;
  • (ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (iii) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; ...
  • (k) Dosbarth K – person—
  • (i) y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—
  • (aa) Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu
  • (bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
  • (ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—
  • (aa) sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu
  • (bb) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw ; ...
  • (l) Dosbarth L – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo ; ...
  • (m) Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth ; ...
  • (n) Dosbarth N – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;
  • (ii) a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;
  • (iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw ; ...
  • (o) Dosbarth O – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
  • (iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.
  • (p) Dosbarth P – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; ...
  • (q) Dosbarth Q – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth F na Dosbarth J yn y rheoliad hwn ; ac
  • (r) Dosbarth R – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;
  • (iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a
  • (vi) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai

4

  • (1) Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—
  • (a) yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;
  • (b) os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—
  • (i) yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu
  • (ii) yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE[^f00007]; neu
  • (iii) yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan reoliad 16(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn rheoliad 16(5) o’r Rheoliadau hynny[^f00008]; neu
  • (iv) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (c) os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)
  • (1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd
  • (a) caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu
  • (b) caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.

  • (2) Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn unol â pharagraff (1)(a)—
  • (a) gweithiwr;
  • (b) person hunangyflogedig;
  • (c) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (d) person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau (a) neu (b);
  • (e) person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac
  • (f) person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.
  • (g) gweithiwr trawsffiniol; ...
  • (h) person—
  • (i) sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a
  • (ii) sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno ; ...
  • (i) person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 ; ...
  • (j) person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ; ...
  • (k) person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan ; ...
  • (l) person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad ; ac
  • (m) person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a
  • (iii) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai

5

  • (1) Mae’r dosbarthiadau canlynol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—
  • (a) Dosbarth A – person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
  • (b) Dosbarth B – person—
  • (i) sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a
  • (ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
  • (c) Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—
  • (i) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;
  • (ii) sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu ar y dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a
  • (iii) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;
  • (d) Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo;
  • (e) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (f) Dosbarth F – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; ...
  • (g) Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; ...
  • (h) Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; ...
  • (i) Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo ; ...
  • (j) “Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo ;
  • (k) Dosbarth K – person—
  • (i) sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;
  • (ii) nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (iii) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; ...
  • (l) Dosbarth L – person—
  • (i) y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—
  • (aa) Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu
  • (bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu
  • (ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn paragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—
  • (aa) sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu
  • (bb) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw ; ...
  • (m) Dosbarth M – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo ; ...
  • (n) Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth ; ...
  • (o) Dosbarth O – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;
  • (ii) a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;
  • (iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw ; ...
  • (p) Dosbarth P – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
  • (iii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.
  • (q) Dosbarth Q – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; ...
  • (r) Dosbarth R – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth G na Dosbarth K yn y rheoliad hwn ; ac
  • (s) Dosbarth S – person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;
  • (iii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
  • (iv) nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
  • (v) nad yw’n berson (P)—
  • (aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
  • (bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac
  • (cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a
  • (vi) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.
  • (2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai

6

  • (1) Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—
  • (a) yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;
  • (b) os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—
  • (i) yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu
  • (ii) yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE; neu
  • (iii) yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan reoliad 16(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn rheoliad 16(5) o’r Rheoliadau hynny; neu
  • (iv) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (c) os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)
  • (1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) ac (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd
  • (a) caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu
  • (b) caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.

  • (2) Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai yn unol â pharagraff (1)(a)—
  • (a) gweithiwr;
  • (b) person hunangyflogedig;
  • (c) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
  • (d) person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau (a) neu (b);
  • (e) person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac
  • (f) person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.
  • (g) gweithiwr trawsffiniol; ...
  • (h) person—
  • (i) sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a
  • (ii) sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewmfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno ; ...
  • (i) person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 ;...
  • (j) person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ; ...
  • (k) person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan ; ...
  • (l) person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad ; ac
  • (m) person—
  • (i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
  • (ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a
  • (iii) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.

Dirymiadau

7

Yn ddarostyngedig i reoliad 8, mae’r canlynol wedi eu dirymu—

  • (a) rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003[^f00013];
  • (b) Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006[^f00014];
  • (c) Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006[^f00015]; a
  • (d) Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009[^f00016].

Darpariaethau trosiannol

8

Nid yw’r dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisydd y gwnaed ei gais am—

  • (a) dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996; neu
  • (b) cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996,

cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.