The Firefighters’ Pension Scheme (Wales) Regulations 2015
Os yw pensiwn afiechyd haen isaf yn peidio â bod yn daladwy i berson (P) o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) ac nad yw P yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy—
- (a) rhaid sefydlu cyfrif aelod gohiriedig; a
- (b) rhaid credydu’r cyfrif hwnnw gyda swm hafal i’r gyfradd flynyddol o’r pensiwn afiechyd haen isaf a oedd yn daladwy yn union cyn y peidiodd y pensiwn afiechyd haen isaf â bod yn daladwy.
Cau cyfrif aelod gohiriedig ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd
58
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd.
- (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—
- (a) cau’r cyfrif aelod gohiriedig mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth a thrin y cyfrif aelod gohiriedig fel pe na bai erioed wedi ei sefydlu;
- (b) ailsefydlu’r cyfrif aelod actif o dan Bennod 5 mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; a
- (c) gwneud cofnodion yn y cyfrif aelod actif fel pe bai’r aelod, yn ystod y bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy—
- (i) mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond
- (ii) heb gael unrhyw dâl pensiynadwy.
- (3) Os oedd gan yr aelod gohiriedig fwy nag un cyfrif aelod gohiriedig, a agorwyd o fewn pum mlynedd i’r dyddiad ym mharagraff (1), caiff yr aelod, o fewn tri mis i’r dyddiad dychwelyd i gyflogaeth gynllun, ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.
- (4) Os metha’r aelod gohiriedig â gwneud y dewis a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r rheolwr cynllun ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.
Sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill
59
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.
- (2) Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol neu ddyfarniad afiechyd, rhaid i’r rheolwr cynllun—
- (a) cau’r holl gyfrifon aelod actif ar gyfer yr aelod hwnnw ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a
- (b) sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth.
- (3) Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac yn cael yr hawl o dan reoliad 67(1) (hawlogaeth i bensiwn ymddeol) i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—
- (a) cau’r cyfrif aelod actif am y cyfnod o wasanaeth cynharach;
- (b) sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth cynharach;
- (c) cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig i’r cyfrif ymddeol; a
- (d) sefydlu cyfrif aelod actif newydd o dan Bennod 5 ar gyfer gwasanaeth parhaus yr aelod fel pe bai’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad opsiwn yn ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth gynllun.
- (4) Pan fo aelod gohiriedig yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—
- (a) cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a
- (b) trosglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) i gyfrif yr aelod gohiriedig.
- (5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod-bensiynwr o dan baragraff (2)(b) neu (3)(b) yn gyfrif ymddeol.
- (6) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “cyfnod o wasanaeth cynharach” (“period of earlier service”) yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy a oedd yn diweddu ar y dyddiad opsiwn; ystyr “dyddiad opsiwn” (“option date”) yw’r dyddiad yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac y caiff yr aelod yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol; ac ystyr “gwasanaeth parhaus” (“continuing service”) yw gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau, yn dilyn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad yn rheoliad 72 (arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad) ar ôl y dyddiad opsiwn.
Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif)
60
- (1) Rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu, o ran pensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig, swm y pensiwn ymddeol hwnnw.
- (2) Swm y pensiwn enilledig ymddeol yw cyfanswm y canlynol—
- (a) swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol) (“swm cronedig”);
- (b) yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y swm cronedig; ac
- (c) yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y swm cronedig.
- (3) Swm unrhyw bensiwn ychwanegol ymddeol yw cyfanswm y canlynol—
- (a) swm y pensiwn ychwanegol cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);
- (b) yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig; ac
- (c) yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig.
- (4) Ar gyfer swm y pensiwn enilledig ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol ymddeol, rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu’r canlynol—
- (a) y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un);
- (b) swm y cymudiad (os oes un); ac
- (c) cyfanswm y dyraniad (os oes un).
- (5) Mae’r ychwanegiad oedran tybiedig yn gymwys mewn perthynas ag aelod sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn o leiaf un mis cyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy.
Sefydlu cyfrif aelod-oroeswr
61
- (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob person sydd â hawl i gael pensiwn o dan y cynllun hwn fel partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr.
- (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—
- (a) cau’r cyfrif aelod actif neu’r cyfrif aelod gohiriedig neu’r cyfrif ymddeol (yn ôl fel y digwydd) a’r cyfrif pensiwn ychwanegol (os oes un); a
- (b) sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod-oroeswr.
- (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
- (a) gelwir person sydd â hawl i gael pensiwn yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn aelod-oroeswr; a
- (b) gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (2)(b) yn gyfrif aelod-oroeswr.
Swm y pensiwn sy’n daladwy i aelod-oroeswr
62
Rhaid credydu cyfrif yr aelod-oroeswr â swm hafal i gyfradd flynyddol y pensiwn sy’n daladwy i’r aelod-oroeswr, a gyfrifir yn unol â’r rheoliad priodol ym Mhennod 2 (pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi) neu Bennod 3 (pensiynau ar gyfer plant cymwys) o Ran 6 (buddion marwolaeth), yn ôl fel y digwydd, sy’n rhoi’r pensiwn i’r aelod-oroeswr.
Sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn
63
- (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn.
- (2) Os oes gan aelod â chredyd pensiwn fwy nag un credyd pensiwn, yn deillio o ddau neu ragor o aelodau â debyd pensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn mewn perthynas â phob aelod â debyd pensiwn.
- (3) Rhaid i’r cyfrif aelod â chredyd pensiwn bennu swm y pensiwn a gredydwyd, ac, ar gyfer y swm hwnnw, swm y cymudiad (os oes un).
- (4) Pan sefydlir y cyfrif aelod â chredyd pensiwn, rhaid i’r cyfrifon a sefydlwyd o dan y Rhan hon ar gyfer yr aelod â debyd pensiwn gael eu lleihau gan y swm perthnasol.
- (5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod â chredyd pensiwn o dan baragraff (1) yn gyfrif aelod â chredyd pensiwn.
- (6) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “swm perthnasol” (“relevant amount”) yw’r swm a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gan roi sylw i’r canlynol— y cyfwerth ariannol, a fyddai wedi bod yn daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4A (gofynion cysylltiedig â budd credyd pensiwn: gwerthoedd trosglwyddiad) o DCauP 1993[^f00052], mewn cysylltiad â hawl yr aelod â chredyd pensiwn i gael buddion o dan y cynllun hwn, sydd i’w priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i’r credyd pensiwn; a darpariaethau adrannau 29 (creu credydau a debydau pensiwn) ac 31 (lleihau budd) o DDLlPh 1999; ystyr “swm y pensiwn a gredydwyd” (“amount of credited pension”) yw swm hafal i’r credyd pensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan baragraff 5(b) o Atodlen 5 (credydau pensiwn: modd diwallu) i DDLlPh 1999.
Cyfrifon pensiwn eraill
64
Os yw aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn hefyd yn aelod actif, aelod gohiriedig, aelod- bensiynwr neu’n aelod-oroeswr o’r cynllun hwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn yn ychwanegol at unrhyw gyfrif arall a sefydlwyd ar gyfer yr aelod o dan y Rhan hon.
Cymhwyso’r Rhan
65
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â buddion ymddeol sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.
Gwasanaeth cymwys
66
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â chyfrif pensiwn aelod, ystyr “gwasanaeth cymwys” (“qualifying service”) yw cyfanswm y canlynol—
- (a) unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r un cyfrif pensiwn;
- (b) os derbyniwyd taliad gwerth trosglwyddiad o dan Ran 10 (trosglwyddiadau) mewn cysylltiad â hawliau cronedig aelod o dan gynllun pensiwn galwedigaethol arall, y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy’r aelod o dan y cynllun hwnnw; ac
- (c) yn achos aelod trosiannol sydd â pharhad gwasanaeth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5), gwasanaeth pensiynadwy yr aelod sy’n gyfrifadwy o dan reol F1[^f00053] (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a thystysgrifau o’r cyfryw) o Gynllun 1992 (os oes rhywfaint) a gwasanaeth cymwys yr aelod o dan CPNDT (os oes rhywfaint).
- (2) Os oes gan aelod trosiannol fwy nag un cyfrif aelod actif ac os oedd yn aelod o Gynllun 1992, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth pensiynadwy sy’n gyfrifadwy o dan reol F1 o Gynllun 1992 at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan Gynllun 1992.
- (3) Os oes gan aelod trosiannol nifer mwy o gyfrifon aelod actif na nifer y contractau cyflogaeth yr oedd yr aelod hwnnw’n aelod o CPNDT mewn cysylltiad â hwy, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth cymwys o dan yr CPNDT at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan yr CPNDT.
- (4) Os oedd aelod trosiannol yn aelod o Gynllun 1992 ac o CPNDT neu os oedd ganddo ddau neu ragor o gontractau cyflogaeth yr oedd yn aelod o CPNDT mewn perthynas â hwy, rhaid ychwanegu’r gwasanaeth pensiynadwy sy’n gyfrifadwy o dan reol F1 o Gynllun 1992, neu’r gwasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, yn ôl fe y digwydd, at y gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cyfrif aelod actif y mae’r gyflogaeth gynllun ar ei gyfer yn fwyaf tebyg i’r gyflogaeth a oedd yn bensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu’r CPNDT.
- (5) Os nad yw’r rheolwr cynllun yn sicr pa wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992, neu wasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, yw’r tebycaf i’r gyflogaeth gynllun ar gyfer cyfrif pensiwn penodol, caiff yr aelod benderfynu pa wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992, neu wasanaeth cymwys o dan yr CPNDT, sydd i’w ychwanegu at y gwasanaeth pensiynadwy mewn perthynas â chyfrif pensiwn yr aelod, a hysbysu’r rheolwr cynllun o hynny drwy hysbysiad ysgrifenedig, ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun.
- (6) Ni chyfrifir yr un o’r canlynol yn wasanaeth cymwys—
- (a) unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn y diddymwyd mewn cysylltiad ag ef hawliau’r person o dan y cynllun hwn;
- (b) unrhyw wasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu’r CPNDT y diddymwyd mewn cysylltiad ag ef hawliau’r person o dan y cynllun hwnnw;
- (c) unrhyw absenoldeb diawdurdod o gyflogaeth gynllun.
Hawlogaeth i bensiwn ymddeol
67
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan aelod (P) o’r cynllun hwn i gael taliad ar unwaith o bensiwn enilledig ymddeol o dan y cynllun hwn—
- (a) os—
- (i) yw P wedi cyrraedd 55 mlwydd oed,
- (ii) oes gan P o leiaf dri mis o wasanaeth cymwys,
- (iii) yw P wedi hawlio taliad o bensiwn ymddeol, a
- (iv) nad yw P bellach yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun ac nad oes hawl ganddo, felly, i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn; neu
- (b) os yw P wedi arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad.
- (2) Pan fo hawl gan aelod i gael dyfarniad afiechyd, nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys i’r aelod hwnnw.
- (3) Wrth gael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn enilledig ymddeol, mae hawl gan P i gael taliad ar unwaith o bensiwn ychwanegol ymddeol os oedd gan P, cyn cael yr hawl felly, gyfrif pensiwn ychwanegol yn y cynllun hwn.
- (4) Rhaid gwneud yr hawliad am daliad o bensiwn ymddeol drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun, a rhaid rhoi’r hysbysiad cyn y dyddiad y gwneir y taliad cyntaf o’r pensiwn ymddeol.
Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)
68
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith.
- (2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol sy’n daladwy i aelod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, drwy adio cyfansymiau is-baragraffau (a), (b) ac (c)—
- (a) y cyfanswm sy’n deillio o—
- (i) cymryd swm y pensiwn enilledig ymddeol a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,
- (ii) didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,
- (iii) didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a
- (iv) didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw; a
- (b) y cyfanswm sy’n deillio o—
- (i) cymryd swm y pensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un) a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,
- (ii) didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw,
- (iii) didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw, a
- (iv) didynnu cyfanswm y dyraniad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;
- (c) swm y pensiwn afiechyd haen uchaf (os oes un) a ddyfarnwyd i’r aelod o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf).
Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau gohiriedig)
69
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith.
- (2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol sy’n daladwy i aelod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo drwy ddidynnu’r canlynol o swm y pensiwn gohiriedig ymddeol sydd yng nghyfrif yr aelod gohiriedig—
- (a) y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;
- (b) swm y cymudiad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw;
- (c) cyfanswm y dyraniad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw.
Gostyngiad talu’n gynnar
70
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso wrth gyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn sy’n daladwy i aelod actif nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol, neu i aelod gohiriedig nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.
- (2) Caiff aelod actif (A) hawlio taliad o bensiwn ymddeol ar ôl i A gyrraedd 55 mlwydd oed, a chyn iddo gyrraedd yr oedran pensiwn arferol.
- (3) Cyfrifir y gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso, mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (2), yn unol â chanllawiau actiwaraidd sy’n lleihau’r pensiwn ar y sail nad oedd A wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol. Rhaid i’r canllawiau actiwaraidd roi sylw i niwtraliaeth actiwaraidd wrth gymharu â gwerth presennol pensiwn sy’n daladwy ar yr oedran pensiwn arferol, a dylai ychwanegiadau yn y dyfodol, rhwng dyddiad ymddeoliad cynnar A a’r oedran pensiwn arferol, fod yn unol ag ychwanegiadau o dan yr addasiad mynegai.
- (4) Caiff aelod gohiriedig (G) hawlio taliad o bensiwn ymddeol ar ôl i G gyrraedd 55 mlwydd oed, a chyn iddo gyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.
- (5) Cyfrifir y gostyngiad actiwaraidd i’w gymhwyso, mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (4), yn unol â chanllawiau actiwaraidd sy’n lleihau’r pensiwn ar y sail nad oedd G wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig. Rhaid i’r canllawiau actiwaraidd roi sylw i niwtraliaeth actiwaraidd wrth gymharu â gwerth presennol pensiwn sy’n daladwy ar yr oedran pensiwn gohiriedig, a dylai ychwanegiadau yn y dyfodol, rhwng dyddiad ymddeoliad cynnar G a’r oedran pensiwn gohiriedig, fod yn unol ag ychwanegiadau o dan DPC 1971.
Ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr
71
- (1) Pan fo aelod actif sydd wedi cyrraedd 55 mlwydd oed neu’n hŷn, ond heb gyrraedd yr oedran pensiwn arferol, yn cael ei ddiswyddo o gyflogaeth gynllun gan gyflogwr am reswm effeithlonrwydd busnes, neu pan derfynir ei gyflogaeth drwy gydsyniad cilyddol ar sail effeithlonrwydd busnes, a’r cyflogwr yn gwneud y penderfyniad ym mharagraff , cyfrifir pensiwn yr aelod hwnnw yn unol â rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) heb y gostyngiad talu’n gynnar.
- (3) Ni chaiff cyflogwr dalu pensiwn ymddeol o’r swm a grybwyllir ym mharagraff (1) ac eithrio yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, sef pan fo’r cyflogwr yn penderfynu y byddai pensiwn ymddeol, a ddyfernid ar y sail honno, yn gymorth i reoli swyddogaethau’r cyflogwr yn ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon, ar ôl ystyried y costau tebygol a dynnid yn yr achos penodol dan sylw.
Arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad
72
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys, mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy, i aelod actif o’r cynllun hwn (P)—
- (a) sy’n 55 mlwydd oed o leiaf; a
- (b) y byddai hawl ganddo i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pe bai P yn gadael gwasanaeth pensiynadwy ac yn hawlio taliad o’r pensiwn.
- (2) Caiff P arfer yr opsiwn o barhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond hawlio taliad o’r cyfan o bensiwn cronedig P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy cyn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad.
- (3) Os oes gan P fwy nag un cyfrif aelod actif, caniateir arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad mewn cysylltiad â rhai neu’r cwbl o gyfrifon cyfrif aelod actif P.
- (4) Ni chaniateir arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac eithrio drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun (“hysbysiad optio”), yn y ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun a rhaid ei roi cyn y dyddiad yr hawlir y taliad cyntaf o’r pensiwn ymddeol arno.
- (5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod yr opsiwn o ran-ymddeoliad wedi ei arfer ar ba bynnag ddyddiad a gytunir rhwng yr aelod a’r rheolwr cynllun.
- (6) Rhaid i’r hysbysiad optio bennu bod P yn hawlio’r cyfan o bensiwn cronedig P mewn cysylltiad â’i gyfrif aelod actif, mewn cysylltiad â gwasanaeth cynharach yn y gyflogaeth gynllun honno.
Cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol ar ôl arfer opsiwn o ran-ymddeoliad
73
- (1) Mae hawl gan aelod actif o’r cynllun hwn (P) sy’n arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol.
- (2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol o dan reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) drwy gyfeirio at swm y pensiwn enilledig ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un) o’r disgrifiad hwnnw a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod.
- (3) At ddibenion y Rhan hon, pan fo aelod yn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad, diwrnod olaf gwasanaeth pensiynadwy’r aelod hwnnw, mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad mewn cysylltiad ag ef, yw’r diwrnod yr arferodd yr aelod yr opsiwn o ran-ymddeoliad.
Hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf
74
- (1) Mae gan aelod actif nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol yr hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf os bodlonir yr amodau canlynol—
- (a) ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r rôl y cyflogwyd yr aelod ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol;
- (b) mae gan yr aelod dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys;
- (c) o ganlyniad i’r anallu yn is-baragraff (a), mae’r aelod wedi ei ddiswyddo neu wedi ymddeol o gyflogaeth gynllun; a
- (d) mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen isaf.
- (2) Mae hawl gan aelod actif i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf yn ychwanegol at y pensiwn afiechyd haen isaf os bodlonir yr amodau canlynol—
- (a) ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol;
- (b) mae gan yr aelod bum mlynedd o leiaf o wasanaeth cymwys;
- (c) mae hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen isaf; a
- (d) mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael pensiwn afiechyd haen uchaf.
- (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “dyfarniad afiechyd” (“ill-health award”) yw hawlogaeth i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf, ac mewn achosion pan fo gan yr aelod hawlogaeth hefyd i gael pensiwn afiechyd haen uchaf, y taliad o bensiwn afiechyd haen uchaf.
Cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd
75
- (1) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf ac o bensiwn afiechyd haen uchaf fel a ganlyn.
- (2) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf yn unol â pharagraffau (2)(a) a (2)(b) o reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)), ond heb ddidynnu’r gostyngiad talu’n gynnar.
- (3) Cyfrifir y gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen uchaf drwy luosi swm blynyddol y pensiwn addasedig afiechyd haen isaf gan gyfnod tybiedig gwasanaeth pensiynadwy yr aelod a chyda 2%.
- (4) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “cyfnod tybiedig gwasanaeth pensiynadwy yr aelod” (“the member’s assumed period of pensionable service”) yw’r cyfnod, a fynegir mewn blynyddoedd— sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl i’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod ddod i ben, ac yn diweddu gyda’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r aelod yn cyrraedd yr oedran pensiwn arferol; ystyr “y pensiwn addasedig afiechyd haen isaf” (“the adjusted lower tier ill-health pension”) yw’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan baragraff (2) a gyfrifir— heb gynnwys swm hafal i unrhyw bensiwn ychwanegol a gynhwyswyd wrth gyfrifo’r pensiwn afiechyd haen isaf, a heb y didyniad ar gyfer unrhyw gyfran o’r pensiwn a gymudwyd.
Talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig
76
Mae gan aelod gohiriedig nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig yr hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn ymddeol a gyfrifir o dan reoliad 69 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau gohiriedig)) heb ddidynnu’r gostyngiad talu’n gynnar os bodlonir yr amodau canlynol—
- (a) mae’r aelod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun yn gofyn am dalu’r pensiwn cyn yr oedran pensiwn gohiriedig;
- (b) ym marn YMCA, mae’r aelod yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol, a bydd yr anallu hwnnw’n parhau nes cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig; ac
- (c) mae’r rheolwr cynllun wedi penderfynu bod hawl gan yr aelod i gael taliad cynnar o’r pensiwn ymddeol.
Adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar
77
- (1) Pan fo aelod (P) wedi bod yn cael dyfarniad afiechyd o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) am gyfnod llai na 10 mlynedd, ac yntau o dan oedran pensiwn gohiriedig, rhaid i’r rheolwr cynllun ystyried, fesul pa bynnag ysbeidiau yr ystyria’n briodol, a yw P wedi dod yn alluog—
- (a) i gyflawni unrhyw ddyletswydd sy’n briodol i’r rôl yr ymddeolodd P ohoni ar sail afiechyd; a
- (b) i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.
- (2) Mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod gohiriedig ac y telir ei bensiwn yn gynnar yn rhinwedd rheoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig), rhaid i’r rheolwr cynllun ystyried, fesul pa bynnag ysbeidiau yr ystyria’n briodol cyn bo’r aelod wedi cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, a yw’r aelod hwnnw wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.
Canlyniadau adolygu
78
- (1) Os yw’r rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), yn penderfynu[^f00054] bod aelod (U), sy’n cael pensiwn afiechyd haen uchaf, wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, rhaid terfynu hawlogaeth U i gael y pensiwn hwnnw gydag effaith ar unwaith.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid parhau i dalu pensiwn afiechyd haen isaf i aelod y mae ei hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen uchaf yn dod i ben.
- (3) Os yw—
- (a) rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), yn penderfynu bod aelod (I) sy’n cael pensiwn afiechyd haen isaf wedi dod yn alluog i gyflawni’r dyletswyddau sy’n briodol i’r rôl yr ymddeolodd I ohoni ar sail afiechyd; a
- (b) y cyflogwr yn cynnig cyflogaeth i I yn y rôl honno (“cynnig paragraff (3)(b)”),
rhaid terfynu hawlogaeth I i gael pensiwn afiechyd haen isaf, pa un ai yw I yn derbyn neu’n gwrthod y cynnig.
- (4) Rhaid i’r cyflogwr, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrth wneud cynnig paragraff (3)(b), bennu dyddiad pan ystyrir y bydd yr aelod wedi gwrthod y cynnig os na fydd yr aelod wedi derbyn y cynnig erbyn y dyddiad hwnnw.
- (5) Mae pensiwn afiechyd haen isaf yn peidio â bod yn daladwy ar y cynharaf o’r dyddiadau canlynol—
- (a) y dyddiad pan fo aelod yn ailddechrau mewn cyflogaeth gynllun yn unol â chynnig paragraff (3)(b);
- (b) unrhyw ddyddiad ar ôl gwneud y cynnig paragraff (3)(b) a bennir gan y cyflogwr drwy hysbysiad o dan baragraff (4).
- (6) Pan fo aelod yn gwrthod cynnig paragraff (3)(b), rhaid sefydlu cyfrif aelod gohiriedig o dan reoliad 57 (cyfrif a sefydlir wedi i ddyfarniad afiechyd beidio â bod yn daladwy) o’r dyddiad y bydd dyfarniad afiechyd yr aelod hwnnw yn peidio â bod yn daladwy yn unol â pharagraff (5).
- (7) Os yw’r rheolwr cynllun, yn dilyn ystyriaeth fel y crybwyllir yn rheoliad 77(2) (adolygu dyfarniad afiechyd neu dalu pensiwn ymddeol yn gynnar), wedi cael barn gan yr YMCA sy’n datgan bod yr aelod gohiriedig (P), y telir ei bensiwn gohiriedig yn gynnar, wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, rhaid terfynu hawlogaeth P i gael taliad cynnar o’r pensiwn gydag effaith ar unwaith a rhaid addasu cyfrif aelod gohiriedig P o dan reoliad 56 (addasu cyfrif wedi i daliadau cynnar o bensiwn gohiriedig ddod i ben).
Cychwyn pensiynau
79
- (1) Mae’r cyfnod cyntaf y bydd unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar unwaith ar ei gyfer wedi i aelod adael cyflogaeth gynllun yn dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y dyddiad pan fo’r gyflogaeth yn dod i ben, os yw’r aelod wedi gwneud hawliad cyn y dyddiad hwnnw am i’r pensiwn gael ei dalu.
- (2) Os nad yw aelod actif wedi hawlio taliad o’r pensiwn ymddeol cyn y dyddiad y mae’r aelod hwnnw’n ymddeol, bydd y pensiwn yn daladwy o ddyddiad ar ôl i’r hawliad gael ei wneud, ac yr hysbysir yr aelod ohono gan y rheolwr cynllun.
- (3) Os yw cyflogwr aelod actif wedi penderfynu talu pensiwn ymddeol i’r aelod hwnnw cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, gan arfer y pwerau yn rheoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr), mae’r cyfnod cyntaf y bydd y pensiwn yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i gyflogaeth gynllun yr aelod ddod i ben.
- (4) Yn achos aelod actif sy’n arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad, mae’r cyfnod cyntaf y bydd unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad.
- (5) Yn achos aelod gohiriedig, mae’r cyfnod cyntaf y bydd taliad unrhyw bensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y dyddiad y mae’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig pan fo aelod gohiriedig wedi hawlio taliad pensiwn ymddeol, oni fydd yr aelod hwnnw wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, yn gofyn am—
- (a) gohirio talu, drwy hysbysiad a roddir i’r rheolwr cynllun fwy na thri mis cyn bo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, ac ni chaiff unrhyw ohiriad o’r fath ymestyn y tu hwnt i’r diwrnod cyn 75fed pen-blwydd yr aelod;
- (b) talu’r pensiwn ymddeol cyn yr oedran pensiwn gohiriedig ar ôl didynnu’r gostyngiad talu’n gynnar; neu
- (c) talu’r pensiwn ymddeol yn gynnar o dan reoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig) ar sail anallu i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.
- (6) Pan fo hawl gan aelod actif i gael pensiwn afiechyd haen isaf neu bensiwn afiechyd haen uchaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), mae’r cyfnod cyntaf y bydd pensiwn ymddeol yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y terfynir cyflogaeth gynllun yr aelod.
- (7) Pan fo aelod gohiriedig wedi gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) a phan fo hawl ganddo i gael y taliad cynnar o bensiwn ymddeol, mae’r cyfnod cyntaf y bydd y pensiwn yn daladwy ar ei gyfer yn dechrau ar y dyddiad y daeth yr aelod gohiriedig yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd oherwydd gwendid corfforol neu feddyliol, neu, os na ellir canfod y dyddiad hwnnw, o ddyddiad y cais gan yr aelod i’r rheolwr cynllun am daliad cynnar.
- (8) Pan fo aelod gohiriedig wedi gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a) neu (b), bydd y pensiwn yn daladwy o ddyddiad ar ôl gwneud yr hawliad amdano, yr hysbysir yr aelod ohono gan y rheolwr cynllun.
Opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn
80
- (1) Caiff aelod sy’n cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol arfer opsiwn o dan y rheoliad hwn i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.
- (2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio—
- (a) drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n nodi’r swm sydd i’w gymudo; a
- (b) cyn gwneud y taliad cyntaf o’r pensiwn.
- (3) Os yw aelod yn arfer yr opsiwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol pensiwn yr aelod, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.
- (4) Ni chaiff aelod gyfnewid am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) 25% o’r pensiwn; a
- (b) cyfran o’r pensiwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun[^f00055] at ddibenion Rhan 4 o DC 2004.
- (5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn sy’n deillio o hawliau credyd pensiwn os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan y rheoliad hwn cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.
- (6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i bensiwn afiechyd haen uchaf.
Dewisiad i ddyrannu
81
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phensiwn enilledig ymddeol sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy aelod o dan y cynllun hwn.
- (2) Caiff aelod actif neu aelod gohiriedig wneud dewisiad i ddyrannu i fuddiolwr hyd at draean o swm y gyfradd flynyddol o unrhyw rai o bensiynau ymddeol yr aelod o dan y cynllun hwn (“dewisiad i ddyrannu”).
- (3) Rhaid i fuddiolwr dewisiad i ddyrannu, pan wneir y dewisiad i ddyrannu, fod yn un o’r personau canlynol—
- (a) priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â’r aelod actif neu’r aelod gohiriedig; neu
- (b) gyda chydsyniad y rheolwr cynllun, unrhyw berson arall sy’n dibynnu’n sylweddol ar yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig, ac a fuasai’n ddibynnydd yr aelod at ddibenion paragraff 15(2) neu (3) o Atodlen 28 i DC 2004 pe buasai farw’r aelod pan wnaed y dewisiad[^f00056].
- (4) Caiff y rheolwr cynllun atal cydsyniad o dan baragraff (3)(b) os nad yw’r rheolwr cynllun wedi ei fodloni bod y person yn dibynnu’n sylweddol ar yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig.
- (5) Os yw aelod yn dymuno dyrannu pensiwn i fwy nag un buddiolwr, rhaid gwneud dewisiad ar wahân mewn cysylltiad â phob buddiolwr.
- (6) Pan ddyrennir mwy nag un gyfran o bensiwn penodol, ni chaiff cyfanswm y cyfrannau o’r pensiwn hwnnw a ddyrennir fod yn fwy na’r gyfran o’r pensiwn hwnnw a gedwir gan yr aelod actif neu’r aelod gohiriedig.
- (7) Os yw paragraff (8) yn gymwys, ni chaiff yr aelod wneud dewisiad i ddyrannu dim mwy na’r gyfran o’r pensiwn (ar ôl didynnu swm y cymudiad, os oes un) sydd dros ben y lleiafswm gwarantedig, wedi ei lluosi gyda pha bynnag ffactor a ddynodir ar gyfer person o ddisgrifiad yr aelod mewn tablau a ddarperir gan y rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd.
- (8) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os oes gan yr aelod leiafswm gwarantedig o dan adran 14 (lleiafswm gwarantedig enillydd) o DCauP 1993 mewn perthynas â’r cyfan neu ran o bensiwn, o ganlyniad i dderbyn gan y cynllun daliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall, yr oedd gan yr aelod leiafswm gwarantedig o’r fath mewn cysylltiad ag ef.
Gwneud dewisiad i ddyrannu
82
- (1) Pan fo aelod actif neu aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad i ddyrannu, rhaid i’r aelod hwnnw—
- (a) bodloni’r rheolwr cynllun fod yr aelod hwnnw mewn iechyd da a bod ganddo ddisgwyliad oes normal; a
- (b) rhoi i’r rheolwr cynllun hysbysiad ysgrifenedig o ddewisiad i ddyrannu (“hysbysiad dyrannu”), gan bennu—
- (i) y gyfran,
- (ii) enw a chyfeiriad y buddiolwr,
- (iii) rhyw’r buddiolwr, a
- (iv) dyddiad geni’r buddiolwr.
- (2) Rhaid rhoi’r hysbysiad dyrannu, y caniateir ei anfon drwy’r post, ddim cynharach na dau fis cyn bo’r pensiwn yn dod yn daladwy.
- (3) Pan fo’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r aelod ei fod wedi derbyn y dewisiad i ddyrannu.
- (4) Ni fydd dewisiad yn cael effaith os bydd farw’r aelod neu’r buddiolwr cyn i’r hysbysiad dyrannu gael effaith.
Effaith dyrannu
83
- (1) Os bydd dewisiad i ddyrannu yn cael effaith, bydd pensiwn ymddeol yr aelod yn cael ei leihau yn unol â hynny.
- (2) Os bydd hysbysiad dyrannu yn cael effaith, bydd yn gwneud hynny ar y diwrnod y daw’r pensiwn ymddeol yn daladwy.
- (3) Pan fo hysbysiad dyrannu wedi cael effaith, a’r buddiolwr yn goroesi’r pensiynwr, rhaid i’r rheolwr cynllun, o ddyddiad marwolaeth y pensiynwr, dalu pensiwn i’r buddiolwr am ei oes (“pensiwn dyranedig”) o swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd sydd mewn grym pan fo’r hysbysiad dyrannu yn cael effaith, gan roi sylw i—
- (a) y swm o’r pensiwn ymddeol a ddyrannwyd o dan y dewisiad; a
- (b) oedran y pensiynwr a’r buddiolwr ar y dyddiad pan roddwyd yr hysbysiad dyrannu.
- (4) Pan fo mwy nag un gyfran o bensiwn ymddeol yr aelod wedi eu dyrannu, rhaid gwneud cyfrifiad ar wahân o dan baragraff (3) mewn cysylltiad â phob dyraniad.
- (5) Pan fo—
- (a) hysbysiad dyrannu wedi cael effaith; a
- (b) y buddiolwr yn marw cyn y pensiynwr,
rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r pensiynwr (gan wahaniaethu rhwng y taliad ac unrhyw bensiwn arall sy’n daladwy i’r pensiynwr hwnnw) y gyfran o’r pensiwn sydd wedi ei dyrannu (“y pensiwn dyraniad methedig”).
- (6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, nid oes hawl gan y pensiynwr i adennill oddi wrth y rheolwr cynllun swm unrhyw ddidyniad a wnaed mewn cysylltiad â’r pensiwn dyraniad methedig.
- (7) Bydd dyraniad yn peidio â chael effaith at ddibenion y rheoliad hwn os byddai’n peri bod pensiwn yn cael ei dalu o dan y rheoliad hwn i fuddiolwr nad yw—
- (a) yn briod â’r aelod, yn bartner sifil i’r aelod nac yn bartner sy’n cyd-fyw â’r aelod ar—
- (i) y dyddiad y caiff yr aelod yr hawl i gael y pensiwn, neu
- (ii) pan fydd farw’r aelod; nac
- (b) yn ddibynnydd yr aelod at ddibenion paragraff 15(2) neu (3) o Atodlen 28 i DC 2004 pan fydd farw’r aelod.
Addasu budd a ddyrannwyd
84
- (1) Caniateir addasu swm y pensiwn dyranedig sy’n daladwy i fuddiolwr dewisiad i ddyrannu, mewn modd sydd i’w benderfynu gan y rheolwr cynllun os—
- (a) bydd farw’r aelod a wnaeth y dewisiad i ddyrannu ar ôl cyrraedd 75 mlwydd oed; a
- (b) ar farwolaeth yr aelod, nad yw swm y pensiwn dyranedig sy’n daladwy i’r buddiolwr yn gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion o dan adran 167 (y rheolau buddion marwolaeth pensiwn) o DC 2004[^f00057].
- (2) Yn y rheoliad hwn, mae i “pensiwn dyranedig” (“allocated pension”) yr un ystyr a roddir yn rheoliad 83(3) (effaith dyrannu).
Ystyr “partner sy’n goroesi”
85
- (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person yn bartner sy’n goroesi mewn perthynas ag aelod os yw’r person hwnnw, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod—
- (a) yn briod â’r aelod neu’n bartner sifil i’r aelod;
- (b) yn cyd-fyw â’r aelod ac—
- (i) nad yw’n briod â’r aelod hwnnw nac mewn partneriaeth sifil â’r aelod hwnnw,
- (ii) nad yw’n briod ag unrhyw berson arall nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,
- (iii) gallai ymuno mewn priodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o dan gyfraith Cymru a Lloegr ond nad yw wedi gwneud hynny,
- (iv) yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu mewn cyflwr o gyd-ddibyniaeth ariannol gilyddol â’r aelod o’r cynllun, a
- (v) mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.
- (2) Ym mharagraff (1), ystyr “perthynas hirdymor” (“long-term relationship”) yw perthynas sydd wedi parhau am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf, sy’n diweddu ar y dyddiad y digwydd i fater statws y person mewn perthynas â’r aelod gael ei ystyried, neu pa bynnag gyfnod byrrach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun mewn unrhyw achos priodol.
- (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yw person sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (1)(b).
Ystyr “cyfnod dechreuol”
86
At ddibenion y Rhan hon, ystyr “cyfnod dechreuol” (“initial period”) yw’r cyfnod o 13 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl marwolaeth yr aelod, pan ganiateir i bensiwn profedigaeth fod yn daladwy i unrhyw bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys.
Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif
87
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif gyda mwy na thri mis o wasanaeth cymwys.
- (2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
- (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w gael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig
88
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.
- (2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
- (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yng nghyfrif yr aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.
Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr
89
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod (P) a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr.
- (2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
- (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner swm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.
- (4) Os oedd gostyngiad talu’n gynnar wedi ei wneud ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw hanner y swm o bensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy i P pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
Pensiwn profedigaeth: partner sy’n goroesi
90
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif, neu aelod-bensiynwr, i gael pensiwn profedigaeth am y cyfnod dechreuol.
- (2) Nid oes hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif i gael pensiwn profedigaeth os nad oedd gan yr aelod actif dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys.
- (3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.
- (4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.
Lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang
91
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw pensiwn partner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod o’r cynllun hwn, yn daladwy i berson sydd dros 12 mlynedd yn iau na’r aelod.
- (2) Gostyngir cyfradd flynyddol y pensiwn hwnnw gan y lleiaf o’r canlynol—
- (a) 50% o swm cyfradd flynyddol y pensiwn a gyfrifwyd felly; neu
- (b) $2.5×( N− 12 ) %$ o’r swm hwnnw,
lle mae N yn dynodi’r nifer o flynyddoedd cyfan y mae’r partner sy’n goroesi yn iau na’r aelod.
Lleiafswm pensiwn gwarantedig goroeswr
92
- (1) Os oes gan berson sy’n briod neu’n bartner sifil sy’n goroesi aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr ymadawedig, leiafswm gwarantedig o dan adran 17[^f00058] o DCauP 1993 mewn perthynas â buddion mewn cysylltiad â’r aelod ymadawedig o dan y cynllun hwn—
- (a) nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu, nac yn ei gwneud yn ofynnol, unrhyw beth a fyddai’n peri i ofynion a wnaed gan, neu o dan, y Ddeddf honno mewn perthynas â pherson o’r fath, a hawliau person o’r fath o dan gynllun, beidio â chael eu bodloni yn achos y person;
- (b) nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at y diben o fodloni gofynion o’r fath yn achos y person.
- (2) Nid yw paragraffau (3) a (4) yn lleihau dim ar gyffredinolrwydd paragraff (1).
- (3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan, ac eithrio o ganlyniad i’r rheoliad hwn—
- (a) na fyddai pensiwn yn daladwy i’r partner sy’n goroesi o dan y Rhan hon; neu
- (b) byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig.
- (4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—
- (a) mae pensiwn sydd â’i gyfradd wythnosol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy am ei oes i’r partner sy’n goroesi neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly; neu
- (b) os yw paragraff (3)(b) yn gymwys, cynyddir y pensiynau sy’n daladwy i’r swm a bennir yn is-baragraff (a).
- (5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i bensiwn—
- (a) sydd wedi ei fforffedu—
- (i) o ganlyniad i gollfarn am frad, neu
- (ii) mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol); neu
- (b) pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996[^f00059] wedi eu bodloni.
Pensiwn plentyn cymwys
93
- (1) Os bydd farw aelod, sydd â thri mis o leiaf o wasanaeth cymwys, gan adael plentyn cymwys, mae pensiwn plentyn cymwys yn daladwy, a phensiwn profedigaeth, wrth ddibynnu ar amgylchiadau’r aelod ymadawedig, yn daladwy, mewn cysylltiad â’r plentyn.
- (2) Nid oes pensiwn plentyn cymwys yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn genedigaeth plentyn.
- (3) Os yw’r plentyn, ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod, yn peidio â bod yn blentyn cymwys bydd y pensiwn yn peidio â bod yn daladwy oni bai a hyd nes bo’r plentyn yn dod yn blentyn cymwys drachefn; ond os na fydd y plentyn yn peidio â bod yn blentyn cymwys, bydd y pensiwn yn daladwy am ei oes.
Ystyr “plentyn cymwys”
94
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas ag aelod ymadawedig, ystyr “plentyn” (“child”) yw—
- (a) plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig yr aelod; neu
- (b) plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig priod yr aelod, neu blentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig i bartner sifil yr aelod neu i bartner a oedd yn cyd-fyw â’r aelod; neu
- (c) unrhyw blentyn naturiol yr aelod, a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod, ac yr oedd mam y plentyn yn feichiog â’r plentyn hwnnw ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
- (2) Mae plentyn yr aelod ymadawedig yn “blentyn cymwys” (“eligible child”)—
- (a) os oedd y plentyn, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig, yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ymadawedig hwnnw;
- (b) os nad oedd y plentyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil; ac
- (c) os yw’r plentyn yn bodloni unrhyw un o’r amodau A i C.
- (3) Amod A yw fod y person o dan 18 mlwydd oed.
- (4) Amod B yw fod y person mewn addysg amser llawn neu ar gwrs sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn, ac nad yw’r person wedi cyrraedd 23 mlwydd oed.
- (5) Amod C yw fod y person, oherwydd ei anallu meddyliol neu gorfforol parhaol, yn ddibynnol ar yr aelod ymadawedig ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig.
Pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif
95
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif a chanddo fwy na thri mis o wasanaeth cymwys.
- (2) Cyfradd flynyddol pensiwn plentyn cymwys y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o’r pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w chael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar y dyddiad y bu farw’r aelod.
Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig
96
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.
- (2) Y gyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yn y cyfrif aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.
Pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr
97
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr (P).
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.
- (3) Os gwnaed gostyngiad talu’n gynnar ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
Cyfran benodedig
98
- (1) Y gyfran benodedig yw un chwarter os oes un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
- (2) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, y gyfran benodedig yw hanner y pensiwn a grybwyllir yn rheoliadau 95 (pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif), 96 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig) a 97 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr) wedi ei rannu â nifer y plant cymwys fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
- (3) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau pensiwn y person hwnnw beidio, ac os oes dal mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i swm y pensiwn hwnnw gael ei ddosrannu’n gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
Cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi
99
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad oedd gan unrhyw berson, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, hawl i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
- (2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, ac os oes plentyn cymwys, mae hawl gan y plentyn hwnnw hefyd i gael y swm o bensiwn yn unol â pharagraffau (3) neu (4) y byddai partner sy’n goroesi wedi ei gael—
- (a) o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) os oedd yr aelod (P) yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth;
- (b) o dan reoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) os oedd P yn aelod gohiriedig ar ddyddiad ei farwolaeth;
- (c) o dan reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr) os oedd P yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth.
- (3) Os nad oes dim ond un plentyn cymwys, bydd y plentyn hwnnw’n cael swm ychwanegol sy’n hafal i’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2).
- (4) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth P, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) rhwng nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
- (5) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
Cynnydd ym mhensiwn plentyn cymwys os oedd yr aelod yn aelod â debyd pensiwn
100
Os oedd buddion yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn ddarostyngedig i ostyngiad o dan adran 31 o DDLlPh 1999, rhaid cyfrifo unrhyw bensiwn plentyn cymwys fel pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
Pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys
101
- (1) Os nad oes pensiwn partner sy’n goroesi yn daladwy ar farwolaeth yr aelod, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i blentyn cymwys sydd â hawl i gael pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif neu aelod-bensiynwr.
- (2) Os bydd farw’r partner sy’n goroesi cyn diwedd y cyfnod dechreuol, a phensiwn profedigaeth yn daladwy i’r partner sy’n goroesi, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i unrhyw blentyn cymwys am y rhan o’r cyfnod dechreuol sy’n weddill, neu, os yw’n gynharach, hyd nes bo’r plentyn yn peidio â bod yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys.
- (3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.
- (4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.
- (5) Os oes mwy nag un plentyn cymwys, rhennir swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) gyda nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
- (6) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys cyn diwedd y cyfnod dechreuol, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r pensiwn profedigaeth beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
Ystyr “tâl terfynol”
102
- (1) Yn y Bennod hon, ystyr “tâl terfynol” (“final pay”) yw’r mwyaf o’r canlynol—
- (a) swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o 365 diwrnod sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy; a
- (b) swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o dair blynedd sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, wedi ei rannu gyda thri.
- (2) Os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na 365 diwrnod, y swm ym mharagraff (1)(a) yw swm sy’n hafal i dâl blynyddol terfynol yr aelod;
- (3) At y diben o benderfynu pa un o’r symiau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw’r mwyaf—
- (a) os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na thair blynedd, y swm ym mharagraff (1)(b) yw cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd am y gwasanaeth hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y blynyddoedd mewn gwasanaeth pensiynadwy, a gyfrifir yn unol â rheoliad 192 (cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth); a
- (b) os trinnir aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer unrhyw gyfnod a gynhwysir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b), mae tâl pensiynadwy yn y rheoliad hwn yn cynnwys y tâl pensiynadwy tybiedig hwnnw.
- (4) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraffau (1)(a) a (2) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.
Ystyr “tâl blynyddol terfynol”
103
- (1) At ddibenion y Bennod hon, tâl blynyddol terfynol aelod yw TT x 365/N, lle—
- (a) TT yw tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod; a
- (b) N yw nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw.
- (2) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.
Y person y mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy iddo
104
Caiff y rheolwr cynllun, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, dalu unrhyw gyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y Bennod hon i, neu er budd, enwebai’r aelod, ei gynrychiolwyr personol, neu unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun a fu’n berthynas neu’n ddibynnydd yr aelod.
Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif
105
- (1) Os bydd farw aelod actif, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.
- (2) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw swm sy’n hafal i dair gwaith swm tâl terfynol yr aelod.
- (3) Os oes gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif, mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.
Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr
106
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd farw aelod-bensiynwr o fewn pum mlynedd ar ôl i’r pensiwn ddod yn daladwy.
- (2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.
- (3) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i—
- (a) cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod, wedi ei luosi gyda phump; llai
- (b) cyfanswm unrhyw daliadau pensiwn a wnaed i’r aelod o dan y cynllun hwn.
- (4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr “cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod” (“total annual amount of the member’s pensions”) yw cyfanswm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a ddangosir yng nghyfrifon pensiwn yr aelod, a gyfrifir fel pe bai dyddiad marwolaeth yr aelod yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.
- (5) At ddibenion y rheoliad hwn, diystyrir unrhyw symiau a dalwyd, neu sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, yn y swyddogaeth o aelod â chredyd pensiwn.
Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth mewn achosion penodol
107
Os oedd person (P) ar yr adeg y bu P farw, yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn ac yn aelod actif o’r cynllun hwn, swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy yw’r mwyaf o swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) a swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 106 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr).
Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod â chredyd pensiwn
108
- (1) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bod unrhyw fuddion sy’n deillio o gredyd pensiwn wedi dod yn daladwy i’r aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (2).
- (2) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai’r aelod â chredyd pensiwn wedi bod â hawl i gael, pe bai hawl wedi bod ganddo i gael taliad o’r pensiwn ar unwaith ar ddyddiad ei farwolaeth.
- (3) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn o fewn pum mlynedd wedi i bensiwn yr aelod â chredyd pensiwn ddod yn daladwy, a chyn iddo gyrraedd 75 mlwydd oed, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (4).
- (4) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw’r gwahaniaeth rhwng—
- (a) y swm sy’n bum gwaith swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn; a
- (b) y rhandaliadau o bensiwn sydd wedi eu talu.
- (5) Ym mharagraff (4), ystyr “swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn” (“amount of the pension credit member’s pension”) yw swm blynyddol y pensiwn hwnnw ar y dyddiad y daeth pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn yn daladwy.
- (6) Os oedd yr aelod ymadawedig yn aelod â chredyd pensiwn gyda hawl i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae cyfandaliadau budd marwolaeth o dan y cynllun hwn yn daladwy mewn cysylltiad â’r aelod fel pe bai’r aelod yn ddau neu ragor o aelodau, pob un â hawl i gael un o’r credydau pensiwn.
Talu pensiynau o dan y Rhan hon
109
- (1) Mae pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys yn daladwy o’r diwrnod ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod.
- (2) Rhaid talu pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy mewn cysylltiad â phlentyn cymwys o dan 18 mlwydd oed i ba bynnag berson arall a benderfynir gan y rheolwr cynllun, a rhaid i’r rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw’n ei ddefnyddio er budd y plentyn cymwys yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr cynllun.
Pensiynau partner sy’n goroesi a phensiynau plentyn cymwys: atal dros dro ac adennill
110
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
- (a) os, ar farwolaeth aelod, dyfarnwyd a thalwyd pensiwn o dan y Rhan hon; a
- (b) os, yn ddiweddarach, mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod yr aelod neu’r person y talwyd y pensiwn iddo wedi gwneud datganiad anwir neu wedi celu yn fwriadol ffaith berthnasol mewn cysylltiad â’r dyfarniad.
- (2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff y rheolwr cynllun—
- (a) peidio â thalu’r pensiwn; a
- (b) adennill unrhyw daliad a wnaed o dan y dyfarniad.
- (3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.
Dyfarniadau dros dro o bensiynau plentyn cymwys: addasiadau diweddarach
111
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr—
- (a) telir pensiwn mewn cysylltiad ag un neu ragor o bersonau o dan y Rhan hon ar y sail eu bod yn blant cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, ac nad oedd unrhyw blant cymwys eraill ar y pryd; a
- (b) yn ddiweddarach, mae’n ymddangos—
- (i) nad oedd person, y talwyd pensiwn o’r fath mewn cysylltiad ag ef, yn blentyn cymwys ar ddyddiad y farwolaeth,
- (ii) bod person ychwanegol yn blentyn cymwys, neu
- (iii) bod plentyn a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod yn blentyn cymwys.
- (2) Caiff y rheolwr cynllun wneud pa bynnag addasiadau sy’n ofynnol yn wyneb y ffeithiau fel y maent yn ymddangos yn ddiweddarach, yn swm y pensiynau sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r plant dan sylw, a chaiff yr addasiadau hynny fod yn gymwys yn ôl-weithredol.
- (3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad mewn unrhyw achos pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.
Addasu dyfarniadau plentyn cymwys o ganlyniad i adfer buddion pensiwn
112
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (P) a fyddai’n gymwys i gael buddion fel partner sy’n goroesi neu fel plentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr, wedi ei gollfarnu am lofruddiaeth neu ddynladdiad yr aelod hwnnw, a’r gollfarn honno wedi ei diddymu yn ddiweddarach, yn dilyn apêl.
- (2) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn partner sy’n goroesi, bydd unrhyw gynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys o dan reoliad 99 (cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi) yn peidio â bod yn daladwy o’r dyddiad y diddymir y gollfarn.
- (3) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys, ac os oes mwy nag un person yn cael pensiwn plentyn cymwys ar y diwrnod cyn y diddymir y gollfarn, bydd swm pob pensiwn plentyn cymwys yn cael ei ostwng, o’r dyddiad y diddymir y gollfarn, i’r swm o bensiwn plentyn cymwys a benderfynir yn unol â’r gyfran benodedig a fyddai wedi bod yn gymwys i’r nifer hwnnw o blant cymwys.
Addasu buddion i gydymffurfio â DC 2004 pan fydd farw aelodau dros 75 mlwydd oed
113
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os—
- (a) bydd farw aelod ar ôl cyrraedd 75 mlwydd oed; a
- (b) ac eithrio o dan y rheoliad hwn, na fyddai unrhyw ran o bensiwn, y caiff unrhyw berson yr hawl i’w gael o dan y Rhan hon yn dilyn y farwolaeth, yn gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004 (y rheolau buddion marwolaeth pensiwn).
- (2) Caniateir addasu’r budd sy’n daladwy i’r person ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, fel y bo’n gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004.
Hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn
114
- (1) Mae hawl gan aelod â chredyd pensiwn (P) o’r cynllun hwn i gael taliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn ar unwaith o dan y cynllun hwn—
- (a) os yw P wedi cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;
- (b) os yw’r gorchymyn rhannu pensiwn, y mae hawl gan P i gael y credyd pensiwn oddi tano, wedi cael effaith; ac
- (c) os yw P wedi hawlio taliad o’r pensiwn.
- (2) Os oes hawl gan P i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae ganddo hawl i gael pensiwn aelod â chredyd pensiwn mewn cysylltiad â phob un o’r credydau pensiwn.
- (3) Cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn
115
Cyfrifir cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn drwy—
- (a) cymryd swm y pensiwn credydedig a bennir yng nghyfrif yr aelod â chredyd pensiwn; a
- (b) didynnu ohono swm y cymudiad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw.
Lleihau buddion aelod â debyd pensiwn
116
Mae’r buddion y mae hawl gan aelod â debyd pensiwn i’w cael o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ostyngiad yn y swm perthnasol, a gyfrifir yn unol â rheoliad 63 (sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn).
Hawliau aelod â chredyd pensiwn
117
Ni chaniateir cyfuno buddion sy’n briodoladwy i gredyd pensiwn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gydag unrhyw fudd arall y mae hawl gan yr aelod â chredyd pensiwn i’w gael o dan y cynllun hwn.
Cymudo rhan o bensiwn
118
- (1) Caiff aelod â chredyd pensiwn sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn o dan y cynllun hwn arfer yr opsiwn o gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.
- (2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio drwy roi hysbysiad—
- (a) i’r rheolwr cynllun ddim cynharach na phedwar mis cyn y diweddaraf o’r canlynol—
- (i) y dyddiad y bydd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith, a
- (ii) y dyddiad y bydd y person yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;
- (b) ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun; ac
- (c) a roddir cyn bo’r taliad cyntaf o’r pensiwn wedi ei wneud.
- (3) Os yw aelod â chredyd pensiwn yn arfer yr opsiwn o dan y rheoliad hwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol y pensiwn, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.
- (4) Ni chaiff y gyfran a gymudir fod yn fwy na chwarter swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn.
- (5) Ni chaiff aelod â chredyd pensiwn gyfnewid pensiwn am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun at ddibenion Rhan 4 (cynllun pensiwn etc.) o DC 2004, (gweler adran 241 o’r Ddeddf honno).
- (6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan Ran 5 (buddion ymddeol) cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.
Cyfraniadau aelodau
119
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau), rhaid i aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun, mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun, ar y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol a gaiff yr aelod hwnnw yn y cyfnod tâl sy’n cynnwys 1 Ebrill ar gyfer y gyflogaeth honno (neu, yn achos aelod actif y mae ei aelodaeth yn cychwyn ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i’r tâl pensiynadwy blynyddol y mae’r aelod yn ei gael ar ddechrau’r aelodaeth honno).
- (2) Mae’r gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i gyflogaeth gynllun fel y’i pennir yn y tabl canlynol, gyda’r gyfradd gyfraniadau a bennir yn y golofn briodol ar gyfer y flwyddyn i’w hystyried yn gymwysadwy i’r ystod tâl pensiynadwy a bennir yn y golofn gyntaf, y mae tâl pensiynadwy blynyddol yr aelod actif, wedi ei dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf gyfan, yn perthyn iddo:
| Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2015-31 Mawrth 2016 |
|---|---|
| Hyd at £27,000 | 10.0% |
| £27,001 i £50,000 | 12.2% |
| £50,001 i £142,500 | 13.5% |
| £142,501 neu fwy | 14.5% |
| Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017 |
| --- | --- |
| Hyd at £27,270 | 10.0% |
| £27,271 i £50,500 | 12.5% |
| £50,501 i £142,500 | 13.5% |
| £142,501 neu fwy | 14.5% |
| Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018 |
| --- | --- |
| Hyd at £27,543 | 10.5% |
| £27,544 i £51,005 | 12.7% |
| £51,006 i £142,500 | 13.5% |
| £142,501 neu fwy | 14.5% |
| Ystod tâl pensiynadwy ar gyfer cyflogaeth | Cyfradd gyfraniadau o 1 Ebrill 2018 ymlaen |
| --- | --- |
| Hyd at £27,818 | 11.0% |
| £27,819 i £51,515 | 12.9% |
| £51,516 i £142,500 | 13.5% |
| £142,501 neu fwy | 14.5% |
- (3) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, fod yn dâl cyfeirio’r diffoddwr tân hwnnw.
- (4) At ddiben colofn gyntaf y tabl, rhaid i swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser fod yn swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser llawn sydd â rôl gyfatebol a hyd gwasanaeth cyfwerth.
- (5) Pan fo newid yn digwydd mewn cyflogaeth gynllun, neu unrhyw newid perthnasol sy’n effeithio ar dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod blwyddyn ariannol, a swm diwygiedig y tâl pensiynadwy yn dod o fewn ystod cyfradd gyfraniadau gwahanol, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu bod rhaid cymhwyso’r gyfradd honno, a rhaid iddo roi gwybod i’r aelod pa gyfradd gyfraniadau a gymhwysir ac o ba ddyddiad y’i cymhwysir.
- (6) Pan fo’r rheolwr cynllun wedi penderfynu o dan baragraff (5) fod cyfradd gyfraniadau wahanol yn gymwys, rhaid i’r aelod dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd honno, ar y tâl pensiynadwy y mae’r aelod hwnnw’n ei gael ar yr adeg honno.
- (7) At y diben o ganfod pa gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid diystyru unrhyw ostyngiad mewn tâl pensiynadwy sy’n digwydd o ganlyniad i unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol—
- (a) mwynhad, neu fwynhad tybiedig, gan yr aelod o unrhyw hawlogaeth statudol yn ystod unrhyw gyfnod i ffwrdd o’i waith;
- (b) absenoldeb cysylltiedig â phlentyn;
- (c) absenoldeb gyda chaniatâd;
- (d) absenoldeb salwch;
- (e) absenoldeb oherwydd anaf;
- (f) absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;
- (g) absenoldeb oherwydd anghydfod undebol; neu
- (h) amgylchiadau a bennir gan y rheolwr cynllun mewn achos penodol.
- (8) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniadau aelod” (“member contributions”) yw cyfraniadau y mae aelod actif yn eu talu, o dan y rheoliad hwn a rheoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau o’r gwaith).
Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig
120
- (1) Rhaid i aelod actif sy’n absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a bennir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol.
- (2) Os yw aelod actif yn absennol o gyflogaeth gynllun oherwydd salwch neu anaf ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw gyfnod, caiff yr aelod hwnnw dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy yr oedd yr aelod wedi ei gael yn union cyn atal y tâl ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
- (3) Os yw aelod actif yn absennol ynglŷn ag anghydfod undebol, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu’r cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, rhaid iddo dalu swm y cyfraniad cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
- (4) Os yw aelod actif i ffwrdd o’i waith yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, caiff yr aelod wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael ac, os yw’n ofynnol gan y cyflogwr cynllun, talu swm y cyfraniadau cyflogwr y byddai’n ofynnol, fel arall, i’r cyflogwr cynllun ei dalu gan reoliad 126(3) (cyfraniadau cyflogwr).
- (5) Pan fo paragraff (2), (3) neu (4) yn gymwys, rhaid talu’r cyfraniadau cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y trinnir yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig.
Cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn
121
- (1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ac a drinnir fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod).
- (2) Cyfrifir swm y cyfraniadau sydd i’w talu drwy luosi’r gyfradd gyfraniadau gyda’r lleiaf o’r symiau canlynol—
- (a) y tâl pensiynadwy tybiedig;
- (b) cyfanswm y tâl gwirioneddol a gafwyd ac unrhyw daliad ychwanegol a wnaed gan y cyflogwr cynllun.
Cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn
122
- (1) Rhaid i aelod actif sydd ar absenoldeb cysylltiedig â phlentyn dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm unrhyw dâl pensiynadwy a gaiff, gan gynnwys tâl statudol, ond nid yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw swm sy’n gostwng y tâl pensiynadwy gwirioneddol yr aelod oherwydd hawl bosibl i gael tâl statudol.
- (2) Os yw aelod actif ar absenoldeb mamolaeth arferol, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu arferol ac nad oes hawl ganddo i gael tâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod hwnnw o absenoldeb, trinnir yr aelod hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’r aelod hwnnw wedi talu cyfraniadau am y cyfnod di-dâl hwnnw o dan baragraff (1).
- (3) Caiff aelod actif sydd ar absenoldeb mamolaeth ychwanegol, absenoldeb tadolaeth ychwanegol, absenoldeb mabwysiadu ychwanegol neu absenoldeb rhiant, nad oes hawl ganddo i gael unrhyw dâl pensiynadwy (gan gynnwys tâl statudol) am unrhyw ran o’r cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd gyfraniadau a ganfyddir yn unol â rheoliad 119 (cyfraniadau aelod) wedi ei lluosi gyda swm y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod hwnnw fel pe bai’n ei gael.
- (4) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau ac eithrio cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae’r aelod hwnnw yn dychwelyd i’w waith ar ôl y cyfnod o absenoldeb cysylltiedig â phlentyn, neu, os nad yw’r aelod yn dychwelyd i’w waith, y diwrnod pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogedig gan y cyflogwr.
Didynnu a thalu cyfraniadau
123
- (1) Caiff y cyflogwr cynllun ddidynnu’r cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 119 (cyfraniadau aelodau) allan o bob rhandaliad o dâl pensiynadwy wrth iddo ddod yn ddyladwy, oni chytunwyd ar ddull arall o dalu rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.
- (2) Caniateir didynnu cyfraniadau y mae’n ofynnol eu talu o dan reoliad 121(1) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn) allan o unrhyw daliad a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf y Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951[^f00060], i’r graddau y maent yn daladwy mewn cysylltiad â’r un cyfnod.
- (3) Caniateir talu cyfraniadau y mae’r aelod wedi gwneud dewisiad i’w talu, neu y mae’n ofynnol iddo’u talu, o dan reoliadau 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig) a 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn) fel cyfandaliad neu drwy ddidyniadau o randaliadau o dâl pensiynadwy, fel y cytunir rhwng y rheolwr cynllun a’r aelod.
Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol)
124
Mae Atodlen 1 yn cael effaith (gan gynnwys ynglŷn â didynnu taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol).
Ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod
125
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun.
- (2) Mae holl gyfraniadau aelod a thaliadau sy’n deillio o ddewisiad i wneud cyfraniadau pensiwn ychwanegol o dan Atodlen 1 yn ad-daladwy—
- (a) os yw rheoliad 24 (optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf) yn gymwys; neu
- (b) os yw’r aelod yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac—
- (i) bod gan yr aelod lai na thri mis o wasanaeth cymwys,
- (ii) os yw unrhyw daliad trosglwyddo a gafodd y cynllun hwn mewn perthynas â’r aelod, wedi dod o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, a
- (iii) bod yr aelod heb gyrraedd oedran LlPG o dan y cynllun hwn.
- (3) Os yw paragraff (2)(b) yn gymwys, mae hawl gan yr aelod i gael taliad o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw gyfraniadau aelod a thaliadau am bensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod, llai swm sy’n hafal i’r dreth incwm sy’n daladwy o dan adran 205 o DC 2004 (treth a godir ar gyfandaliad o ad-daliad gwasanaeth byr) o ganlyniad i ad-dalu’r cyfraniadau a’r taliadau hynny[^f00061].
- (4) Os ad-delir yr holl gyfraniadau aelod a thaliadau am bensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod o dan y rheoliad hwn, mae hawliau’r aelod mewn perthynas â’r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn wedi eu diddymu.
Cyfraniadau cyflogwr
126
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, benderfynu’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr.
- (2) Rhaid i gyflogwr aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau i’r cynllun yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar enillion pensiynadwy’r aelod hwnnw.
- (3) Rhaid i gyflogwr aelod actif a drinnir o dan reoliad 27 (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”) fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, dalu cyfraniadau yn ôl cyfradd cyfraniadau cyflogwr ar y tâl pensiynadwy tybiedig y trinnir yr aelod fel pe bai’n ei gael.
- (4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r rheolwr cynllun ynglŷn â’r gyfradd cyfraniadau cyflogwr, ac o ba ddyddiad y bydd yn cael effaith.
- (5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cyfraniad cyflogwr” (“employer contribution”) yw’r cyfraniadau taladwy o dan baragraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwn.
Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd
127
- (1) Pan fo aelod (U) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), rhaid i gyflogwr U dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf.
- (2) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr U ohono, gan Weinidogion Cymru.
- (3) Pan fo aelod (I) wedi ymddeol gyda’r hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf ond heb unrhyw hawl i gael pensiwn afiechyd haen uchaf, rhaid i gyflogwr I dalu cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf.
- (4) Swm y cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf yw’r swm a benderfynir, ac yr hysbysir cyflogwr I ohono, gan Weinidogion Cymru.
- (5) Rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, mewn rhandaliadau cyfartal sy’n ddyladwy ar:
- (a) y dyddiad y mae’r aelod yn ymddeol;
- (b) 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd y rhandaliad cyntaf; ac
- (c) 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol pan dalwyd yr ail randaliad.
Ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad
128
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo’r rheolwr cynllun, o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), wedi ystyried hawlogaeth aelod (P) i gael dyfarniad afiechyd, a hawlogaeth P i gael naill ai pensiwn afiechyd haen uchaf neu bensiwn afiechyd haen isaf wedi dod i ben, neu hawlogaeth P i gael y ddau bensiwn wedi dod i ben, o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r swm a bennir ym mharagraff (3) neu (5), yn ôl fel y digwydd, i’r cyflogwr.
- (2) Pan fo’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o gyfraniadau ychwanegol afiechyd haen uchaf sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), nid yw’n ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i’r cyflogwr y swm a grybwyllir ym mharagraff (3).
- (3) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) a hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf yn parhau, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r cyflogwr swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf sydd wedi eu talu o dan reoliad 127(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) a’r rhandaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf a fyddai wedi bod yn ofynnol eu talu o dan reoliad 127(3) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd) pe bai’r pensiwn afiechyd haen isaf yn unig wedi bod yn daladwy (“y taliad tybiannol”).
- (4) Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu swm y taliad tybiannol sy’n daladwy o dan baragraff (3).
- (5) Os yw hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen uchaf a phensiwn afiechyd haen isaf neu, yn ôl fel y digwydd, hawlogaeth P i gael pensiwn afiechyd haen isaf, yn dod i ben o ganlyniad i adolygiad o dan reoliad 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) ac nad yw’r cyflogwr wedi talu’r holl randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf fel sy’n ofynnol gan reoliad 127 (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd), rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i’r cyflogwr unrhyw randaliadau o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen uchaf neu o’r cyfraniad ychwanegol afiechyd haen isaf, yn ôl fel y digwydd, a dalwyd mewn cysylltiad â P ac ni fydd unrhyw randaliadau pellach yn ddyladwy mewn cysylltiad â P.
Cyfraniad ychwanegol cyflogwr: ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr
129
- (1) Pan fo cyflogwr wedi gwneud penderfyniad o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) i dalu i aelod actif nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol bensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) heb wneud y gostyngiad talu’n gynnar, rhaid i’r cyflogwr dalu’r cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr i’r cynllun.
- (2) Cyfrifir swm y cyfraniad ychwanegol ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr yn unol â chanllawiau actiwaraidd, a rhaid i’r canllawiau actiwaraidd hynny roi sylw i’r gwahaniaeth rhwng y pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr) a’r pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif)) wedi ei ostwng yn unol â rheoliad 70(3) (gostyngiad talu’n gynnar).
Dehongli’r Rhan
130
Yn y Rhan hon—
- ystyr “amcangyfrif” (“estimate”) yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(a) a (b) (gwybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru); ystyr “amcangyfrif diwygiedig” (“revised estimate”) yw’r wybodaeth ddiwygiedig y cyfeirir ati yn rheoliad 134(4); ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw blwyddyn ariannol sy’n diweddu ar neu ar ôl 31 Mawrth 2016, y mae’n ofynnol, o dan reoliad 134(1), bod y rheolwr cynllun yn darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â hi; mae i “CBDT” (“FPF”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 131 (sefydlu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân); ystyr “yr wybodaeth archwiliedig” (“the audited information”) yw— y cyfrifon archwiliedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 134(1)(d), unrhyw adroddiad gan yr archwilydd mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, ac os yw’r rheolwr cynllun yn diwygio’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(e) ac (f), yr wybodaeth ddiwygiedig honno; ystyr “yr wybodaeth nas archwiliwyd” (“the un-audited information”) yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 134(1)(c), (e) ac (f).
Sefydlu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân
131
Rhaid i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân a sefydlwyd ac a gynhelir gan y rheolwr cynllun at ddibenion Cynllun 1992, ac a ddefnyddir hefyd gan y rheolwr cynllun ar gyfer taliadau a derbyniadau sy’n ofynnol neu yr awdurdodir eu gwneud o dan CPNDT, gael ei defnyddio hefyd at ddibenion taliadau a derbyniadau sy’n ofynnol neu yr awdurdodir eu gwneud o dan y Rheoliadau hyn.
Taliadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân
132
Rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i mewn i’r CBDT—
- (a) unrhyw gyfraniad cyflogwr a delir gan y cyflogwr, sy’n ofynnol gan reoliad 126 (cyfraniadau cyflogwr);
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.