The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Commencement No. 8 and Transitional and Saving Provisions) Order 2022
Gwnaed: 16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018[^f00001], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Title and interpretation
1
- (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
- (2) Yn y Gorchymyn hwn—
- mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
- ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
- ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
- ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
- mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579[^f00002] o Ddeddf 1996;
- ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
- ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
- ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996[^f00003];
- mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434[^f00004] o Ddeddf 1996;
- ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
- ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
- ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
- mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8[^f00005] o Ddeddf 1996;
- ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
- mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
- ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012[^f00006];
- mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576[^f00007] o Ddeddf 1996;
- ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru[^f00008];
- mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)[^f00009] o Ddeddf 1996;
- mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.
- (3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
- (4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
- (a) y Ddeddf,
- (b) rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
- (c) unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
- (i) darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
- (ii) person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
- (5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
- (a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
- (b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
- (6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
- (7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
- (a) pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
- (b) pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
- (8) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—
- (a) na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
- (b) bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.
Meaning of a child with a statement
2
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “datganiad” os yw P yn blentyn y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas ag ef o dan adran 324 neu 331 o Ddeddf 1996.
Provisions coming into force on 1 September 2022
3
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022—
- (a) adrannau 2 i 4;
- (b) adrannau 6 i 14;
- (c) adrannau 17 i 36;
- (d) adran 38;
- (e) adrannau 40 i 44;
- (f) adrannau 47 i 49;
- (g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
- (h) adran 50(4) a (5);
- (i) adrannau 51 i 53;
- (j) adran 55;
- (k) adran 59;
- (l) adrannau 63 i 66;
- (m) adrannau 68 a 69;
- (n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
- (o) yn yr Atodlen—
- (i) paragraff 1;
- (ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
- (iii) paragraff 4(2) i 4(6);
- (iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn[^f00010];
- (v) paragraff 4(8) a 4(9);
- (vi) paragraff 4(10);
- (vii) paragraff 4(13) i 4(18);
- (viii) paragraff 4(19)(b);
- (ix) paragraff 4(20) a 4(21);
- (x) paragraff 4(23) i 4(29);
- (xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
- (xii) paragraff 7;
- (xiii) paragraff 8;
- (xiv) paragraff 11(a);
- (xv) paragraff 12(a);
- (xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
- (xvii) paragraff 14(2) a (3);
- (xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
- (xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
- (xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
- (xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
- (xxii) paragraff 22;
- (xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
- (xxiv) paragraff 23(4);
- (xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
- (xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).
Saving provision
4
Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 15 i 22, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996[^f00011] wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad—
- (a) mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
- (b) nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
IDP notice
5
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
- (a) bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
- (b) y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
No IDP notice
6
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effect of IDP notice
7
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
- (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
- (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
- (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effect of No IDP notice
8
Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
- (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
- (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
- (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Duty to give a notice
9
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac—
- (a) sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
- (b) sydd o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
- (2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
- (3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
10
- (1) This article applies to a child who on 1 September 2022 has a statement and who did not come within article 9 or 9A .
- (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year or the 2024-2025 school year .
- (3) This article does not apply in relation to a child when an appeal is ongoing in relation to that child.
Duty to give a notice when an ongoing appeal ends
11
- (1) When an IDP notice or a No IDP notice is not given pursuant to articles 9 , 9A or 10 because of an ongoing appeal, paragraph (2) applies.
- (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent as soon as is reasonably practicable after—
- (a) the period within which an appeal could be made has expired, if no appeal has been made;
- (b) the appeal has been finally determined, where an appeal has been made.
Right to request an IDP notice or a No IDP notice
12
- (1) Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
- (2) Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
- (a) pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
- (b) pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.
Time for giving an individual development plan
13
- (1) When an IDP notice is given pursuant to articles 9, 9A, 10, 11 or 12 a copy of the individual development plan must be given to the child and the child’s parent within 12 weeks of the date of the notice, unless—
- (a) any of the circumstances in section 12(2) of the Act apply,
- (b) section 31 of the Act applies, or
- (c) there are exceptional circumstances.
- (2) If any of the circumstances in section 12(2) of the Act apply or there are exceptional circumstances a copy of the individual development plan must be given as soon as is reasonably practicable.
- (3) Any timescales in the code relating to the preparation of an individual development plan do not apply when an individual development plan is prepared following the giving of an IDP notice.
ALN Notice
14
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
- (3) Effaith yr hysbysiad ADY yw—
- (a) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
- (b) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
- (4) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.
- (5) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn.
Children for whom the new law does not apply by a certain date
15
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
- (a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
- (b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
- (i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
- (ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
- (c) nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023,
- (d) nad yw erthygl 16 yn gymwys iddo, ac
- (e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
- (2) Ar 31 Awst 2023—
- (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
- (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
- (a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
- (b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
- (i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
- (ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
- (c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2023,
- (d) nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023, ac
- (e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
- (2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
- (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
- (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
- (3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) (C) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
17
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
- (a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
- (b) a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
- (i) yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
- (ii) o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
- (c) y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
- (2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
- (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
- (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
- (3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
- (a) y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
- (b) oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
- (c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
18
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 September 2022,
- (b) in relation to whom there is no appeal ongoing on 30 August 2025,
- (c) to whom article 19 does not apply, and
- (d) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2025.
- (2) On 31 August 2025—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
19
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 September 2022,
- (b) where the local authority is ordered to perform an action as a result of an ongoing appeal being finally determined and the action has not been performed by 30 August 2025,
- (c) in relation to whom no further appeal is ongoing on 30 August 2025, and
- (d) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2025.
- (2) On the transfer day—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
- (3) In this article “transfer day” means the day after which the action referred to in paragraph (1)(b) is performed, or all of the actions have been performed if there is more than one action.
20
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 January 2022, and
- (b) in relation to whom there is an ongoing appeal on 30 August 2025.
- (2) On the transfer day—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
- (3) In this article “transfer day” means—
- (a) the day after the end of the period within which an appeal could be made, if no appeal has been made;
- (b) unless sub-paragraph (c) applies, the day after the appeal has been finally determined, where an appeal has been made;
- (c) where the local authority is ordered to perform an action as a result of the ongoing appeal being finally determined, the day after which the action is performed, or all of the actions have been performed if there is more than one action.
Change of circumstances
21
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 y mae ei ddatganiad yn peidio â chael ei gynnal.
- (2) Ar y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad—
- (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
- (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
22
- (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022—
- (a) sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd ar 1 Medi 2022 yn cynnal y datganiad, a
- (b) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
- (2) Oni bai bod apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn, ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal y datganiad—
- (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
- (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Regard to statement of special educational needs when preparing an individual development plan
23
Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i gynnwys y datganiad a gynhaliwyd ar gyfer y plentyn hwnnw yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Capacity of children
24
- (1) Subject to paragraph (2), paragraph (3) applies to a child who had a statement on 1 September 2022.
- (2) Nothing in this article applies to a person when that person ceases to be of compulsory school age.
- (3) A duty in paragraph (4) or the power in paragraph (5) does not apply if the appropriate local authority considers that the child does not have capacity to understand the subject matter.
- (4) The duties referred to in paragraph (3) are—
- (a) the duty to give a child an IDP notice or a No IDP notice in articles 9(2), 9A(2), 10(2) and 11;
- (b) the duty to give a notice following a request by a child under article 12;
- (c) the duty to give a child a copy of the individual development plan within 12 weeks in article 13(1).
- (5) The power referred to in paragraph (3) is the power to give a child an ALN notice in article 14.
- (6) Where paragraph (3) applies in relation to a duty in paragraph (4)(a) or (b), the first reference to a child in article 5 is to be read as if it were omitted.
- (7) Where paragraph (3) applies in relation to a duty in paragraph (4)(a) or (b), the first reference to a child in article 6 is to be read as if it were omitted.
Children who become young persons before the new law applies
25
- (1) Paragraph (2) applies to a child who had a statement on 1 September 2022.
- (2) A duty in paragraph (3) or a power in paragraph (4) does not apply when a person ceases to be of compulsory school age.
- (3) The duties referred to in paragraph (2) are—
- (a) the duty to give a parent an IDP notice or a No IDP notice in articles 9(2), 9A(2), 10(2) and 11;
- (b) the duty to give a notice following a request by a parent under article 12;
- (c) the duty to give a parent a copy of the individual development plan within 12 weeks in article 13(1).
- (4) The powers referred to in paragraph (2) are—
- (a) the power for a parent to request an IDP notice or a No IDP notice in article 12;
- (b) the power to give a parent an ALN notice in article 14.
- (5) Where paragraph (2) applies in relation to a duty in paragraph (3)(a) or (b), the first reference to a child’s parent in article 5 is to be read as if it were omitted.
- (6) Where paragraph (2) applies in relation to a duty in paragraph (3)(a) or (b), the first reference to a child’s parent in article 6 is to be read as if it were omitted.
Signed
Jeremy Miles — Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru — 16 Awst 2022
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 11 ac is (neu’r rheini a fyddai ym mlwyddyn 11 ac is pe baent yn mynychu ysgol), ac sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.
Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).
Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 a 10). Er enghraifft, bydd plentyn sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, sydd mewn dosbarth meithrin, sydd mewn dosbarth derbyn, neu sydd ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 (neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol) yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd. Nid yw’r ddyletswydd ar yr awdurdod lleol priodol i roi hysbysiad yn gymwys pan allai plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu pan fydd plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r amser ar gyfer dwyn apêl ddod i ben (os na ddygir apêl) neu pan ddyfernir yn derfynol ar yr apêl (erthygl 11).
Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).
Caiff plentyn sydd â datganiad neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 13). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 14).
Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 15).
Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo ynddi, mae erthyglau 16 i 19 yn nodi ar ba ddyddiad y mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac y mae’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn.
Mae erthygl 21 yn gymwys pan fo datganiad plentyn yn peidio â chael ei gynnal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae datganiad y plentyn yn peidio â chael ei gynnal.
Mae erthygl 22 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol sy’n cynnal y datganiad. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol oni bai y gallai’r plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu fod y plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd â datganiad, rhaid rhoi sylw i’r datganiad a gynhelir mewn perthynas â’r plentyn yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 23).
Mae erthygl 24 yn adlewyrchu, at ddibenion y Gorchymyn hwn, adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
Mae erthygl 25 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
Footnotes
[^f00001]: 2018 dccc 2.
[^f00002]: Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
[^f00003]: 1996 p. 56.
[^f00004]: Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
[^f00005]: Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
[^f00006]: O.S. 2012/322 (Cy. 53).
[^f00007]: Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 180 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
[^f00008]: Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
[^f00009]: Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.
[^f00010]: Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Deddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r plentyn neu’r disgybl.
[^f00011]: Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.
[^f00012]: Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59) Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.),
[^f00013]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
[^f00014]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
[^f00015]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
[^f00016]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Editorial notes
[^key-7883502f88445b44fe9ccc3cd42b2def]: Art. 1 in force at made date
[^key-14dd7d3585210fb5c3113ec16b2ac6f9]: Art. 2 in force at made date
[^key-0d10772cb8fda1344c1910d0a178d5fe]: Art. 3 in force at made date
[^key-3bd079468f75fb49dd95175926e1fc3e]: Art. 4 in force at made date
[^key-c220a682d959301f4708e7a5310522b1]: Art. 5 in force at made date
[^key-c2ddddd8aaf5b9c2f9ab2b34ba29c6c5]: Art. 6 in force at made date
[^key-167b3215478743f91352ab7a7f73fc84]: Art. 7 in force at made date
[^key-89c148ddcd9facb939f69741992998ed]: Art. 8 in force at made date
[^key-80c5bf9ad9e817851326b64773ae7d32]: Art. 9 in force at made date
[^key-2402572302f2e2bc66e9b0df77544af4]: Art. 10 in force at made date
[^key-56d4598ae3b5e2a6c7f019970feb685e]: Art. 11 in force at made date
[^key-ebe2ee97645519c2c82d35604db5fc36]: Art. 12 in force at made date
[^key-6fd77f53c7a7cfb9a785d9eb8938b5fa]: Art. 13 in force at made date
[^key-49eddf2baf195f6b56b39bd1ace4ac66]: Art. 14 in force at made date
[^key-101461965c62f2978a30c680f06773f0]: Art. 15 in force at made date
[^key-7998256c25d282d84f475910382855be]: Art. 16 in force at made date
[^key-e8b9305b1abe87031e909ec7a56925cf]: Art. 17 in force at made date
[^key-de66893ce396af256a370935e30ed327]: Art. 18 in force at made date
[^key-b6cb5e796fbb1a5f558157a22cdf7c0e]: Art. 19 in force at made date
[^key-5fa5836cc7d15e3393b10348c2433552]: Art. 20 in force at made date
[^key-21917c47660b33b86af68d9986fa438f]: Art. 21 in force at made date
[^key-8ee3b65dad782d7975124fde8261b12b]: Art. 22 in force at made date
[^key-f6418609a6f4fb97e02eeccbd07273fb]: Art. 23 in force at made date
[^key-5bbf7787d758fcbea9643aec95862a9b]: Art. 24 in force at made date
[^key-f75487739de0121cf1bca74cba67b5db]: Art. 25 in force at made date
[^key-c1d2d4f7d7e7f49ab6892ab41d76e0b1]: Word in art. 11(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(4)
[^key-11393c21f55395acbcb3c4209ae185b9]: Word in art. 13(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(5)
[^key-5cdb6266bd636e5f8db54611eb62e1c2]: Word in art. 25(3)(a) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(11)
[^key-e3d7f65187e2d14bd92daa727895e81d]: Word in art. 24(4)(a) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(10)(a)
[^key-c3c91fb94cc4c8eab31b797b8661ed87]: Arts. 17A-17C inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(6)
[^key-f154a36717d83e6fe3d4c28913785cc9]: Art. 9A inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(2)
[^M_F_7871022d-08ea-4d61-e8b1-033fcab2f5ea]: Word in art. 10(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(3)(a)
[^M_F_7601a5cb-aeef-4b75-e69d-84126613468b]: Word in art. 10(2) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(3)(b)
[^M_F_181f13c6-5b3e-4b4d-aea4-af4ee31fe58f]: Words in art. 18 substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(7)
[^M_F_4a0e686c-cab2-4396-86bc-7e53cada6986]: Words in art. 19(1) substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(8)
[^M_F_79541694-356c-4e69-bff0-607e67fe66a1]: Word in art. 20(1)(b) substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 4(9)
9A
- (1) This article applies to a child who on 1 September 2022 has a statement and who is in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year.
- (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year.
- (3) This article does not apply in relation to a child when an appeal is ongoing in relation to that child.
17A
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 September 2022,
- (b) who was in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year or would be in either of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school,
- (c) in relation to whom there is no appeal ongoing on 30 August 2024,
- (d) to whom article 17B does not apply, and
- (e) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2024.
- (2) On 31 August 2024—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
17B
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 September 2022,
- (b) who was in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year or would be in either of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school,
- (c) where the local authority is ordered to perform an action as a result of an appeal being finally determined and the action has not been performed by 30 August 2024,
- (d) in relation to whom no further appeal is ongoing on 30 August 2024, and
- (e) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2024.
- (2) On the transfer day—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
- (3) In this article “transfer day” means the day after which the action referred to in paragraph (1)(c) is performed, or all of the actions have been performed if there is more than one action.
17C
- (1) This article applies to a child—
- (a) who had a statement on 1 September 2022,
- (b) who was in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year or would be in either of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school, and
- (c) in relation to whom an appeal is ongoing on 30 August 2024.
- (2) On the transfer day—
- (a) the new law applies in relation to the child, and
- (b) the old law ceases to apply in relation to the child.
- (3) In this article “transfer day” means—
- (a) the day after the end of the period within which an appeal could be made, if no appeal has been made;
- (b) unless sub-paragraph (c) applies, the day after the appeal has been finally determined, where an appeal has been made;
- (c) where the local authority is ordered to perform an action as a result of an ongoing appeal being finally determined, the day after which the action is performed, or all of the actions have been performed if there is more than one action.
Enwi a dehongli
Ystyr plentyn sydd â datganiad
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022
Darpariaeth arbed
Hysbysiad CDU
Hysbysiad Dim CDU
Effaith hysbysiad CDU
Effaith hysbysiad Dim CDU
Dyletswydd i roi hysbysiad
Dyletswydd i roi hysbysiad pan fydd apêl sy’n mynd rhagddi yn dod i ben
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol
Hysbysiad ADY
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol
Newid mewn amgylchiadau
Sylw i ddatganiad anghenion addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol
Galluedd plant
Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwys
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.