The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Commencement No. 14 and Transitional and Saving Provisions) Order 2022

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2022-08-16
Last updated 2023-08-21
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API

Gwnaed: 16 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018[^f00001], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Title and interpretation

1

  • (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
  • (2) Yn y Gorchymyn hwn—
  • mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[^f00002];
  • mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—adran 312(2)[^f00003] o Ddeddf 1996—mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
  • mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
  • mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579[^f00004] o Ddeddf 1996;
  • ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 7 oed;
  • ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
  • ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
  • ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
  • ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
  • ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
  • mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579[^f00005] o Ddeddf 1996;
  • ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
  • mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)[^f00006] o Ddeddf 2014;
  • ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
  • mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—adran 312(4)[^f00007] o Ddeddf 1996—mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996[^f00008];
  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014[^f00009];
  • mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434[^f00010] o Ddeddf 1996;
  • ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt mewn ysgol a gynhelir;
  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
  • ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
  • mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
  • ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—sydd o oedran ysgol gorfodol,na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn, acnad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir;
  • mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
  • ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012[^f00011];
  • mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576[^f00012] o Ddeddf 1996;
  • mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru[^f00013];
  • mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)[^f00014] o Ddeddf 1996;
  • mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in England” yn adran 579(3A)[^f00015] o Ddeddf 1996;
  • mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
  • mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
  • (3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
  • (a) adran 323;
  • (b) adran 329;
  • (c) adran 329A.
  • (4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
  • (a) y Ddeddf,
  • (b) rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
  • (c) unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
  • (i) darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
  • (ii) person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
  • (5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
  • (a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
  • (b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
  • (6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
  • (7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
  • (a) pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
  • (b) pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
  • (8) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021[^f00016] neu Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021[^f00017].

Meaning of identified special educational needs

2

  • (1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw’r plentyn—
  • (a) yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
  • (b) yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
  • (i) yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
  • (ii) y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn hwnnw;
  • (c) yn blentyn sy’n cael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol;

a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog yr ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi neu gan yr awdurdod lleol priodol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

  • (2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
  • (a) y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
  • (b) y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
  • (c) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
  • (d) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
  • (e) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
  • (iii) dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
  • (f) y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
  • (g) y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (iii) dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
  • (aa) gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
  • (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
  • (h) y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi dod i ben;
  • (i) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben, neu
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (j) y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
  • (k) nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000[^f00018]—
  • (i) yn mynd rhagddo, neu
  • (ii) wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
  • (l) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
  • (m) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
  • (n) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
  • (i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
  • (ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
  • (iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
  • (o) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
  • (aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
  • (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
  • (p) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
  • (q) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Provisions coming into force on 1 September 2022

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—

  • (a) adrannau 2 i 4;
  • (b) adrannau 6 i 14;
  • (c) adrannau 17 i 36;
  • (d) adran 38;
  • (e) adrannau 40 i 44;
  • (f) adrannau 47 i 49;
  • (g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
  • (h) adran 50(4) i (5);
  • (i) adrannau 51 i 53;
  • (j) adran 55;
  • (k) adran 59;
  • (l) adrannau 63 i 66;
  • (m) adrannau 68 i 69;
  • (n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
  • (o) yn yr Atodlen—
  • (i) paragraff 1;
  • (ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
  • (iii) paragraff 4(2) i 4(6);
  • (iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn[^f00019];
  • (v) paragraff 4(8) a (9);
  • (vi) paragraff 4(10);
  • (vii) paragraff 4(13) i 4(18);
  • (viii) paragraff 4(19)(b);
  • (ix) paragraff 4(20) a 4(21);
  • (x) paragraff 4(23) i 4(29);
  • (xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
  • (xii) paragraff 7;
  • (xiii) paragraff 8;
  • (xiv) paragraff 11(a);
  • (xv) paragraff 12(a);
  • (xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
  • (xvii) paragraff 14(2) a (3);
  • (xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
  • (xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
  • (xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
  • (xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
  • (xxii) paragraff 22;
  • (xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
  • (xxiv) paragraff 23(4);
  • (xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
  • (xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).

Saving provision

4

Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 11 a 13 i 18, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996[^f00020] wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

  • (a) mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
  • (b) nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

IDP notice

5

Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—

  • (a) bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
  • (b) y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.

No IDP notice

6

Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Effect of IDP notice

7

Effaith yr hysbysiad CDU yw—

  • (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
  • (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
  • (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Effect of No IDP notice

8

Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—

  • (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
  • (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
  • (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Duty to give a notice

9

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd mewn dosbarth derbyn, neu sydd ym mlwyddyn 2, blwyddyn 4, blwyddyn 6, blwyddyn 8, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11, neu a fyddai mewn dosbarth meithrin neu unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
  • (2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

10

  • (1) This article applies to a child who on 1 September 2023 has identified special educational needs and who did not come within article 9 or 9A.
  • (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year or the 2024-2025 school year.

Right to request an IDP notice or a No IDP notice

11

Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 niwrnod gwaith i’r cais.

Time for giving an individual development plan

12

  • (1) When an IDP notice is given pursuant to articles 9,9A, 10 or 11 the appropriate local authority must give a copy of the individual development plan to the child and the child’s parent within 12 weeks of the date of the notice, unless—
  • (a) there are exceptional circumstances,
  • (b) section 31 of the Act applies.
  • (2) If there are exceptional circumstances a copy of the individual development plan must be given as soon as is reasonably practicable.
  • (3) Any timescales in the code relating to the preparation by a local authority of an individual development plan do not apply when an individual development plan is prepared following the giving of an IDP notice.

ALN Notice

13

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022.
  • (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
  • (3) Effaith yr hysbysiad ADY yw—
  • (a) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
  • (b) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
  • (4) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.

Children for whom the new law does not apply by a certain date

14

  • (1) This article applies to a child—
  • (a) who had identified special educational needs on 1 September 2022,
  • (b) who was in a nursery class, reception class, year 2, year 4, year 6, year 8, year 10 or year 11 during the 2022-2023 school year, or would be in a nursery class or any of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school, and
  • (c) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2023.
  • (2) On 31 August 2023—
  • (a) the new law applies in relation to the child, and
  • (b) the old law ceases to apply in relation to the child.

15

  • (1) This article applies to a child—
  • (a) who had identified special educational needs on 1 September 2022, and
  • (b) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2025.
  • (2) On 31 August 2025—
  • (a) the new law applies in relation to the child, and
  • (b) the old law ceases to apply in relation to the child.

Change of circumstances

16

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
  • (a) sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
  • (b) nad yw’n blentyn sy’n derbyn gofal,
  • (c) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a
  • (d) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
  • (2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

17

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
  • (a) sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
  • (b) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
  • (c) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
  • (2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

18

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
  • (a) sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n cael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol,
  • (b) nad yw’n blentyn sy’n derbyn gofal,
  • (c) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a
  • (d) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
  • (2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n cael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Regard to special educational provision when preparing an individual development plan

19

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.

Capacity of children

20

  • (1) Subject to paragraph (2), paragraph (3) applies to a child who had identified special educational needs on 1 September 2022.
  • (2) Nothing in this article applies to a person when that person ceases to be of compulsory school age.
  • (3) A duty in paragraph (4) or the power in paragraph (5) does not apply if the appropriate person considers that the child does not have capacity to understand the subject matter.
  • (4) The duties referred to in paragraph (3) are—
  • (a) the duty to give a child an IDP notice or a No IDP notice in articles 9(2), 9A(2), and 10(2);
  • (b) the duty to give a notice following a request by a child under article 11;
  • (c) the duty to give a child a copy of the individual development plan within 12 weeks in article 12(1).
  • (5) The power referred to in paragraph (3) is the power to give a child an ALN notice in article 13.
  • (6) Where paragraph (3) applies in relation to a duty in paragraph (4)(a) or (b), the first reference to a child in article 5 is to be read as if it were omitted.
  • (7) Where paragraph (3) applies in relation to a duty in paragraph (4)(a) or (b), the first reference to a child in article 6 is to be read as if it were omitted.

Children who become young persons before the new law applies

21

  • (1) Paragraph (2) applies to a child who had identified special educational needs on 1 September 2022.
  • (2) A duty in paragraph (3) or a power in paragraph (4) does not apply when a person ceases to be of compulsory school age.
  • (3) The duties referred to in paragraph (2) are—
  • (a) the duty to give a parent an IDP notice or a No IDP notice in articles 9(2), 9A(2), and 10(2);
  • (b) the duty to give a notice following a request by a parent under article 11;
  • (c) the duty to give a parent a copy of the individual development plan within 12 weeks in article 12(1).
  • (4) The powers referred to in paragraph (2) are—
  • (a) the power for a parent to request an IDP notice or a No IDP notice in article 11;
  • (b) the power to give a parent an ALN notice in article 13.
  • (5) Where paragraph (2) applies in relation to a duty in paragraph (3)(a) or (b), the first reference to a child’s parent in article 5 is to be read as if it were omitted.
  • (6) Where paragraph (2) applies in relation to a duty in paragraph (3)(a) or (b), the first reference to a child’s parent in article 6 is to be read as if it were omitted.

Signed

Jeremy Miles — Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru — 16 Awst 2022

Explanatory note

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 11 ac is, sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd ac sydd—

  • (a) yn blant sy’n derbyn gofal,
  • (b) yn mynychu ysgol a gynhelir ac sydd hefyd wedi eu cofrestru mewn sefydliad arall, neu
  • (c) yn cael eu haddysgu ac eithrio yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig (erthygl 2).

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 a 10). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd mewn dosbarth derbyn, neu sydd ym mlwyddyn 2, 4, 6, 8, 10 neu 11 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.

Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Caiff plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 11). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys (erthygl 12).

Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 13).

Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo, mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac mae’r gyfraith newydd yn cael effaith ar ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol berthnasol (erthyglau 14 i 15).

Mae erthygl 16 yn gymwys pan fo plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall ac na fo’n derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall.

Mae erthygl 17 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae erthygl 18 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â chael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â chael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, o dan amgylchiadau penodol, rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 19).

Mae erthygl 20 yn adlewyrchu, at ddibenion y Gorchymyn hwn, adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

Mae erthygl 21 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

Footnotes

[^f00001]: 2018 dccc 2.

[^f00002]: 1998 p. 31.

[^f00003]: Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

[^f00004]: Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

[^f00005]: Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

[^f00006]: Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

[^f00007]: Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

[^f00008]: 1996 p. 56.

[^f00009]: 2014 p. 6.

[^f00010]: Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

[^f00011]: O.S. 2012/322 (Cy. 53).

[^f00012]: Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 180 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

[^f00013]: Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweleradran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

[^f00014]: Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

[^f00015]: Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

[^f00016]: O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).

[^f00017]: O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).

[^f00018]: 2000 p. 21.

[^f00019]: Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Deddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r plentyn neu’r disgybl.

[^f00020]: Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.

[^f00021]: Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.

[^f00022]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).

[^f00023]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).

[^f00024]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).

[^f00025]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).

Editorial notes

[^key-ae4269a6b870b192f289c603a0953a8a]: Art. 1 in force at made date

[^key-bc2442e79b85314d4559ea84649baba4]: Art. 2 in force at made date

[^key-b7b7a03f52de59f50c12d94c77dc51ae]: Art. 3 in force at made date

[^key-25a1565d052179dda9b65c38b9136b2f]: Art. 4 in force at made date

[^key-418d19bfae85ac9e519d86cbae1487c0]: Art. 5 in force at made date

[^key-f7a8a4c95da95d8004aa7fdf82fd3264]: Art. 6 in force at made date

[^key-dd42f97baff29168d633b7596c54adbd]: Art. 7 in force at made date

[^key-f9d23f58e3be68273b50d555da1d8604]: Art. 8 in force at made date

[^key-fc92e108ddb034e878c8bb2110d527f2]: Art. 9 in force at made date

[^key-d2ce63299136bcffb240cb78b712207d]: Art. 10 in force at made date

[^key-e15825e0a4804845c489dc233193fcce]: Art. 11 in force at made date

[^key-7544874ab0fea8b2991a90225c573b2b]: Art. 12 in force at made date

[^key-524ad1502188e45d9942d7ede2b93c98]: Art. 13 in force at made date

[^key-f870e712bdc23a64a287342649775412]: Art. 14 in force at made date

[^key-8ac3157823fee7165433993030f6d0d9]: Art. 15 in force at made date

[^key-275f9443d0bc9e6154b26fc4cedc81db]: Art. 16 in force at made date

[^key-71f9935491b52d8739363c0d7f15abbe]: Art. 17 in force at made date

[^key-69b5f936e0072983a1e3781d48d95db1]: Art. 18 in force at made date

[^key-311b3fb6c4b388b281b4e1259287bb8f]: Art. 19 in force at made date

[^key-c94f69f5fe1884ef0d6e28f20f796d72]: Art. 20 in force at made date

[^key-54ca8aafeff53f8a348aa7e93dbbae6d]: Art. 21 in force at made date

[^key-06a34a8464f3bb84c2b4c04ee8760a86]: Art. 9A inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(2)

[^key-f44df2fd00b5c65f6f38a5bf34248f23]: Art. 14A inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(6)

[^key-76e6b92c1085bfc3741db2269ccbddde]: Word in art. 12(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(4)

[^key-3113ea5fb71cf7fe12ce3b94e11c7f3c]: Words in art. 14(1)(b) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(5)

[^key-d1f3e30395aa58f9a3b61c22f388c17c]: Word in art. 20(4)(a) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(8)

[^key-5137bf2c01d15ed2567b9458ff28ed61]: Word in art. 21(3)(a) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(9)

[^M_F_94b4e0ac-aa5b-432f-cba0-dda9c3d8f2d6]: Words in art. 10(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(3)(a)

[^M_F_afe6ee8d-cff7-408f-a171-607ab970e7d8]: Words in art. 10(2) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(3)(b)

[^M_F_3a3e8b7d-0420-4d31-f966-1bb6f9123ccd]: Word in art. 15 substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 6(7)

9A

  • (1) This article applies to a child who on 1 September 2023 has identified special educational needs and who is in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year or would be in either of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school.
  • (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year.

14A

  • (1) This article applies to a child—
  • (a) who had identified special educational needs on 1 September 2022,
  • (b) who was in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year or would be in either of those year groups if the child were a registered pupil at a maintained school, and
  • (c) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2024.
  • (2) On 31 August 2024—
  • (a) the new law applies in relation to the child, and
  • (b) the old law ceases to apply in relation to the child.

Enwi a dehongli

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022

Darpariaeth arbed

Hysbysiad CDU

Hysbysiad Dim CDU

Effaith hysbysiad CDU

Effaith hysbysiad Dim CDU

Dyletswydd i roi hysbysiad

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol

Hysbysiad ADY

Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol

Newid mewn amgylchiadau

Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol

Galluedd plant

Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwys

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.