The Education (Student Support) (Wales) Regulations 2013
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o’r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n ddinesydd ynddi, neu ei dystysgrif geni.
- (3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.
- (4) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd neu fyfyriwr cymwys yn ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.
- (5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynglŷn â’r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.
Talu benthyciadau at gostau byw
73
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y maent o’r farn eu bod yn briodol.
- (3) Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
- (4) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf, neu pan fyddant wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i’r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol onid yw’r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn gymwys.
- (5) At ddibenion paragraff (4), mae’r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.
- (6) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.
- (7) Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i’w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
- (8) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o’r fath neu’n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent o’r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.
- (9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
- (10) Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (9), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
- (11) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
- (12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai’n briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
- (13) Wrth benderfynu pa un a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr cymwys, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol y byddai peidio â thalu i’r myfyriwr cymwys yn ei achosi.
- (14) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn analluog i fod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 diwrnod.
- (15) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yn llai na’r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall—
- (a) rhaid iddynt ddidynnu o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu y cyfryw swm sydd ei angen er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn benthyg swm mwy at gostau byw na’r swm y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael;
- (b) os yw’r swm sydd i’w dynnu i ffwrdd yn fwy na’r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;
- (c) gellir adennill unrhyw ordaliad yn unol â rheoliad 74.
Gordaliadau
74
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
- (2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i’r myfyriwr cymwys o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.
- (3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt o’r farn nad yw’n briodol iddynt wneud hynny.
- (4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
- (5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
- (6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—
- (a) mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;
- (b) mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
- (c) nid yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i’w gyfnod cymhwystra ddod i ben.
- (7) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—
- (a) mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
- (b) gwneir taliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben.
- (8) Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.
- (9) Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—
- (a) drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.
- (10) Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—
- (a) y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu’n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ba un a oes hawl gan y myfyriwr ai peidio i gael benthyciad neu ar swm y benthyciad y mae hawl ganddo i’w gael;
- (b) unrhyw wybodaeth y mae’r myfyriwr wedi ei darparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu
- (c) y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
- (11) Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—
- (a) drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.
- (12) Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
- (13) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
Taliadau – dehongli
75
Yn y Rhan hon—
- (a) ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—
- (i) bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—
- (aa) pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;
- (bb) pan fo gan y myfyriwr cymwys anabledd; ac
- (cc) pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs ond nad yw’n bresennol ar y cwrs (pa un a yw’r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â’i anabledd ai peidio);
- (ii) bod y myfyriwr cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu’r cwrs—
- (aa) pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;
- (bb) pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac
- (cc) nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;
- (iii) bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
- (aa) a hynny am dro heblaw’r tro cyntaf; neu
- (bb) am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i’r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;
- (b) ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddent wedi talu’r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.
Myfyrwyr dysgu o bell cymwys
76
- (1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 84, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—
- (a) os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
- (i) bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
- (ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007[^f00069]; neu
- (iii) lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
- (b) os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
- (c) os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
- (d) os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
- (e) yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.
- (4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—
- (a) os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a
- (b) os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
- (i) bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu
- (ii) lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.
- (5) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.
- (6) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
- (7) Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—
- (a) cyn 25 Medi 1991; a
- (b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.
- (8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a) neu (b).
- (9) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—
- (a) bod―
- (i) y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (ii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a
- (iii) statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
- (b) bod—
- (i) Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—
- (aa) yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;
- (bb) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu
- (cc) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;
- (ii) statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (iii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
- (iv) statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
- (10) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
- (b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002[^f00070]),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (11) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
- (b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (12) Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
- (13) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
- (a) at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;
- (b) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;
- (c) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
- (d) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd
77
- (1) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
- (b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
- (2) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
- (b) nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
- (3) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr yr hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac
- (b) nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.
- (4) Y digwyddiadau yw—
- (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;
- (b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
- (c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
- (d) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
- (e) bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
- (f) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
- (g) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
- (h) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu
- (i) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.
Cyrsiau dysgu o bell dynodedig
78
- (1) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 76 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—
- (a) bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
- (b) bod y cwrs yn gwrs llawnamser;
- (c) bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;
- (d) nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac
- (e) yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
- (3) At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—
- (a) unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—
- (i) cofrestru neu ymrestru;
- (ii) arholiad;
- (b) unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;
- (c) unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.
- (4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—
- (a) os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a
- (b) os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.
- (5) Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—
- (a) os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 87 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a
- (b) pe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.
Cyfnod cymhwystra
79
- (1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 76.
- (2) Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
- (3) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 76, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.
- (4) Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—
- (a) yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 87, 88, 89 neu 115; neu
- (b) yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
- (5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
- (6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
- (a) terfynu’r cyfnod cymhwystra;
- (b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
- (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 92.
- (7) Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.
Cymorth at gyrsiau dysgu o bell
80
- (1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—
- (a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—
- (i) £1,025; neu
- (ii) y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a
- (b) grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.
- (2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.
- (3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—
- (a) os yw’n fyfyriwr anabl; a
- (b) os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—
- (i) bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu
- (ii) lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.
- (4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
- (5) Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
- (6) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (7) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.
- (7) Y benthyciadau a’r grantiau yw—
- (a) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998[^f00071]; neu
- (c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[^f00072].
- (8) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
- (9) At ddibenion paragraff (7), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
- (a) os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a
- (b) y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
- (10) Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.
Swm y cymorth
81
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 87(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 80 ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
- (a) os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—
- (i) o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[^f00073] i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;
- (ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995[^f00074] i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973[^f00075] i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;
- (iii) o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007[^f00076] i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
- (iv) i gredyd cynhwysol; neu
- (v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1) yn daladwy;
- (b) pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1) yn daladwy;
- (c) pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a);
- (d) pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);
- (e) pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(a) yw £50;
- (f) pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1)(a);
- (g) pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 80(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
- (h) pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(b) yn £50;
- (i) pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1).
- (2) Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 80(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a) un o’r symiau canlynol—
- (a) £50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu
- (b) pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a)).
Dehongli rheoliad 81
82
- (1) At ddibenion rheoliad 81 a’r rheoliad hwn—
- (a) yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
- (i) priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (ii) partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (iii) person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
- (iv) person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
- (b) nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i’w drin fel partner os—
- (i) ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu
- (ii) bod y person fel rheol yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (c) mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2).
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i’w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—
- (a) £2,000 mewn perthynas â’i bartner;
- (b) £2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner; a
- (c) £1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner.
- (3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na’i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
- (4) Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar y dyddiad y gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.
- (5) Yn y rheoliad hwn—
- (a) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto;
- (b) ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
- (c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
- (d) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
- (e) ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—
- (i) unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
- (ii) unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002[^f00077];
- (f) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
- (g) ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.
Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl
83
- (1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.
- (2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.
- (3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.
- (4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
- (5) Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
- (6) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.
- (7) Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—
- (a) £21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
- (b) £5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
- (c) y gwariant ychwanegol a ysgwyddir—
- (i) o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;
- (ii) o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;
- (d) £1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a ysgwyddwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.
- (8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
- (9) Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (7)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
- (10) Pan fo rheoliad 77(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (7)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 77(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.
Ceisiadau am gymorth
84
- (1) Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.
- (2) Rhaid anfon gyda’r cais—
- (a) datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a
- (b) unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
- (4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.
- (6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys—
- (a) pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 77 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;
- (b) pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu
- (c) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.
Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd
85
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 84.
- (2) Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).
- (3) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
- (a) pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
- (i) sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
- (ii) sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;
- (b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—
- (i) sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
- (ii) sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.
- (4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
- (a) swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
- (b) ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac
- (c) mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.
Gwybodaeth
86
Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd neu gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys.
Trosglwyddo statws
87
- (1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—
- (a) pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (b) pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
- (c) pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
- (2) Y seiliau trosglwyddo yw—
- (a) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;
- (b) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu
- (c) ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.
- (4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.
- (5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 80(1)(b) neu reoliad 83 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.
- (6) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 80(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 80.
Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig
88
- (1) Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—
- (a) pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a
- (b) pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
- (2) Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
- (a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (b) mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;
- (c) pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
- (d) pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.
- (3) Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl fel y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.
Trosi statws – myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig
89
- (1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—
- (a) pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a
- (b) pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
- (2) Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
- (a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;
- (b) bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
- (c) mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;
- (d) pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.
Talu grantiau ar gyfer ffioedd
90
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
- (a) cais am daliad; a
- (b) cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.
- (4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—
- (a) wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu
- (b) yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.
- (5) Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.
Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl
91
- (1) Caiff taliadau’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo drwy drosglwyddiad electronig.
- (2) Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cânt wneud asesiad dros dro a gwneud taliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall ac o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.
- (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.
- (5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 85 oni bai bod eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn gymwys.
- (6) Mae eithriad at ddibenion paragraff (5) yn gymwys—
- (a) os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a’r pryd hynny gellir talu’r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;
- (b) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.
Gordaliadau
92
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.
- (2) Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon.
- (3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.
- (4) Y dulliau o adennill yw—
- (a) tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (b) cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.
- (5) Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.
- (6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.
- (7) O dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.
- (8) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
- (a) bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
- (b) bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
- (c) nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr dysgu o bell cymwys cyn diwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr.
- (9) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
- (a) bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a
- (b) bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i’r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.
- (10) Pan fo gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â’r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.
Myfyrwyr rhan-amser cymwys
93
- (1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd o’r myfyriwr â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.
- (2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—
- (a) os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 111, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
- (b) os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—
- (a) os rhoddwyd neu os talwyd i A mewn perthynas ag ymgymryd ohono â’r cwrs rhan-amser dynodedig—
- (i) bwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
- (ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu
- (iii) lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
- (b) os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
- (c) os yw A wedi cyrraedd 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
- (d) os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
- (e) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw A yn garcharor.
- (4) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
- (5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
- (6) Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, oni fydd y cytundeb ei wneud—
- (a) cyn 25 Medi 1991, a
- (b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,
ni fydd paragraff (3)(c) yn gymwys.
- (7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (8)(a) neu (b).
- (8) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
- (a) bod―
- (i) y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (ii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a
- (iii) statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu;
- (b) bod—
- (i) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen fod y person—
- (aa) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;
- (bb) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio’r cwrs rhan-amser presennol; neu
- (cc) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;
- (ii) statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (iii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
- (iv) statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu.
- (9) Os bydd—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
- (b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (10) Os bydd—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
- (b) y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (11) Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu’n fyfyriwr cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
- (12) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 99, rheoliad 100 neu reoliadau 101 i 110 os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano.
- (13) Yn ddarostyngedig i baragraffau (14) a (15), mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—
- (a) o dan reoliad 97(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu
- (b) o dan reoliadau 97(1)(b), 100 neu 101 i 110 os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
- (14) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser, oni bai bo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
- (15) Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl bellach i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
- (16) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os yw—
- (a) wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014 am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17); neu
- (b) wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2014 am gyfanswm o un mlynedd ar bymtheg a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17).
- (17) Y benthyciadau a’r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—
- (a) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu
- (c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.
- (18) Yn ddarostyngedig i baragraffau (19) ac (20), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os oes gan y myfyriwr radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
- (19) At ddibenion paragraff (18), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
- (a) os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a
- (b) os yw’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
- (20) Nid yw paragraff (18) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110—
- (a) os yw’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;
- (b) os yw’r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac
- (c) os nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.
- (21) Ni chaiff fyfyriwr rhan-amser cymwys yr hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—
- (a) ar gyfer mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;
- (b) ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;
- (c) ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;
- (d) ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd
94
- (1) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
- (b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd na benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
- (2) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
- (3) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
- (b) nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser nac ychwaith grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
- (4) Y digwyddiadau yw—
- (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
- (b) bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
- (c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
- (d) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
- (e) bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
- (f) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
- (g) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
- (h) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
- (i) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Cyrsiau rhan-amser dynodedig
95
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 93—
- (a) os yw’n gwrs a restrir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
- (i) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
- (ii) sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
- (iii) a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;
- (b) os yw’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;
- (c) os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na—
- (i) dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Medi 2014; neu
- (ii) pedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014;
- (d) os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
- (e) nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 5; ac
- (f) nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 78.
- (2) Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
- (3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
- (4) At ddibenion paragraff (1)—
- (a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;
- (b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac
- (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[^f00078].
- (5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
- (a) ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;
- (b) ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
- (i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr llawnamser safonol i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
- (ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn ei gymryd i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;
- (c) “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
- (i) ei fod wedi dechrau cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;
- (ii) nad yw wedi ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;
- (iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a
- (iv) nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
- (6) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 93(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).
Cyfnod cymhwystra
96
- (1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig oni ddaw’r statws hwnnw i ben yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 93.
- (2) Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
- (3) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 93, mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
- (4) Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn)—
- (a) yn tynnu’n ôl o gwrs rhan-amser dynodedig A o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi, neu ni fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws A o dan reoliad 114 neu 115; neu
- (b) yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
- (5) Mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’n dod yn amhosibl i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd, gwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c) hyd yn oed pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dwysáu ei astudio.
- (6) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn), ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.
- (7) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
- (a) terfynu’r cyfnod cymhwystra;
- (b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rhan hon;
- (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 121.
- (8) Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben—
- (a) cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a
- (b) ac eithrio o dan baragraff (5),
caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.
Cymorth at gyrsiau rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 (grant at ffioedd, a grant at lyfrau, teithio a gwariant arall)
97
- (1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yw—
- (a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—
- (i) swm y grant ffioedd sylfaenol (a gyfrifir yn unol â’r paragraffau canlynol), neu
- (ii) y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
- (b) grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig.
- (2) Mae’r grant ffioedd sylfaenol yn amrywio yn ôl dwysedd yr astudio.
Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:
$$PT FT x100$ ac y mae— PT yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 111; ac FT yn dynodi— os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120; os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.$
- (3) At ddibenion paragraff (2)—
- (a) mae “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) i’w dehongli’n unol â rheoliad 95; a
- (b) mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i’w gyfrifo’n unol â rheoliad 95.
- (4) Y “grant ffioedd sylfaenol” (“basic fee grant”) yw—
- (a) £690, os yw’r dwysedd astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);
- (b) £820, os yw’r dwysedd astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);
- (c) £1,025, os yw’r dwysedd astudio yn 75 y cant neu’n fwy (“lefel 3”).
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 114(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
- (a) os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar ddyddiad y cais, hawlogaeth—
- (i) o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;
- (ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;
- (iii) o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
- (iv) i gredyd cynhwysol; neu
- (v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
- (b) os yw’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
- (c) os yw’r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);
- (d) os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw’r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
- (e) os yw’r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;
- (f) os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);
- (g) os yw’r incwm perthnasol yn £26,095 neu’n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw’r swm sy’n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
- (h) os yw’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;
- (i) os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).
- (6) Os yw paragraff (5)(d) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o’r symiau canlynol—
- (a) £50 plws £1 arall am bob £14.52, £11.90 neu £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu
- (b) os yw’r grant ffioedd sylfaenol yn fwy na’r ffioedd gwirioneddol, swm sy’n hafal i’r hyn sy’n weddill ar ôl didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant ffioedd sylfaenol a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).
- (7) At ddibenion y rheoliad hwn—
- (a) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i’w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
- (b) ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
- (c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
- (d) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
- (e) ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—
- (i) unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
- (ii) unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
- (f) yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
- (i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
- (ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
- (iii) person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
- (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil iddo pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
- (g) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—
- (i) os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
- (ii) os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;
- (h) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
- (i) mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).
- (8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i’w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, llai—
- (i) £2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;
- (ii) £2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner; a
- (iii) £1,000 mewn perthynas â phob un plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner.
- (9) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
- (10) Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ar y dyddiad gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.
- (11) Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o’r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.
- (12) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd.
Benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser
98
- (1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
- (2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus.
- (3) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £2,625; neu
- (b) y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
- (4) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £6,750; neu
- (b) y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
- (5) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £4,500; neu
- (b) y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
- (6) Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael unrhyw gymorth o dan y rheoliad hwn.
Grant newydd at gyrsiau rhan-amser
99
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.