The Education (Student Support) (Wales) Regulations 2013

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2013-12-12
Last updated 2017-02-17
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API
  • (b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

  • (6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—
  • (a) mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
  • (b) os yw wythnos yr ysgwyddir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.
  • (7) Pan na fo cais myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—
  • (a) cyfyngu ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a
  • (b) cyfyngu ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.
  • (8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
  • (9) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant gofal plant.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni

33
  • (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy’n blant dibynnol.
  • (2) Mae swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 34, a’r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – eu cyfrifo

34
  • (1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael o dan reoliadau 31 i 33 yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
  • (a) i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 31;
  • (b) i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32; ac
  • (c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 33.
  • (2) Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—
  • A yw swm cyfanredol y canlynol— incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a
  • Byw— £1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol; £3,473 os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol; £4,632— os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn; £5,797 os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
  • (3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
  • (4) Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
  • (5) Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • (6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy na neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael yn daladwy.
  • (7) Os yw (A - B) yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
  • (8) Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
  • (a) os yw partner y myfyriwr cymwys—
  • (i) yn fyfyriwr cymwys; neu
  • (ii) yn dal dyfarniad statudol; a
  • (b) os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
  • (9) Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—
  • (a) os yw partner y myfyriwr cymwys—
  • (i) yn fyfyriwr cymwys; neu
  • (ii) yn dal dyfarniad statudol; a
  • (b) os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
  • (10) Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.
  • (11) Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—
  • (a) bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
  • (b) bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
  • (c) bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;
  • (d) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 28(13).
  • (12) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a Bac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—
  • (a) faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
  • (b) pwy yw’r dibynyddion hynny;
  • (c) a yw’r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
  • (13) Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
  • (14) Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
  • (15) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—
  • (a) yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
  • (b) fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
  • (16) Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli

35
  • (1) Yn rheoliadau 31 i 34—
  • (a) yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;
  • (b) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;
  • (c) ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
  • (d) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
  • (e) ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;
  • (f) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 31 i 34) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
  • (g) ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;
  • (h) ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;
  • (i) mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);
  • (j) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
  • (i) priod myfyriwr cymwys;
  • (ii) partner sifil myfyriwr cymwys;
  • (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
  • (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
  • (k) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
  • (l) ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;
  • (m) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;
  • (n) ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);
  • (o) ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”) yw, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, incwm trethadwy person o bob ffynhonnell a gyfrifiennir at ddibenion—
  • (i) y Deddfau Treth Incwm;
  • (ii) deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
  • (iii) pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth yn y cyfnod hwnnw odani,

ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall;

  • (p) oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—
  • (i) os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
  • (ii) os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
  • (q) at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;
  • (r) at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
  • (2) Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973[^f00059] sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004[^f00060] sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
  • (3) At ddibenion rheoliad 33—
  • (a) nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a
  • (b) rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
  • (4) At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—
  • (a) priod i bartner myfyriwr cymwys;
  • (b) partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;
  • (c) pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;
  • (d) pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;
  • (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—
  • (a) yn ddibynnol ar—
  • (i) y myfyriwr cymwys yn unig; neu
  • (ii) partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond
  • (b) yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.
  • (6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—
  • (a) yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
  • (b) yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.
  • (7) Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 31(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 34(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
  • (a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
  • (b) budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[^f00061];
  • (c) unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[^f00062];
  • (d) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
  • (e) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989[^f00063];
  • (f) unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989[^f00064];
  • (g) unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno[^f00065];
  • (h) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[^f00066]; ac
  • (i) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—
  • (i) unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a
  • (ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
  • (8) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—
  • (a) o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu
  • (b) o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.
  • (9) At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.
  • (10) Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.
  • (11) Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (9), (10), neu (11) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.

Dehongli rheoliadau 37 i 39

36

At ddibenion rheoliadau 37 i 39—

  • (a) mae unrhyw gyfeiriad at wariant a ysgwyddir at y diben o fod yn bresennol mewn sefydliad neu gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus—
  • (i) yn cynnwys gwariant cyn ac ar ôl bod yn bresennol felly; a
  • (ii) nid yw’n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 29;
  • (b) ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter pan fo’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus, am o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw.

Amodau’r hawl i gael y grant at deithio

37
  • (1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono’n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â chwrs y myfyriwr cymwys, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant a ysgwyddir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.
  • (2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol iddo’i ysgwyddo ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus.
  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
  • (4) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Swm y grant at deithio

38
  • (1) Mae swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 37(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i’r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.
  • (2) Cyfrifir swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 37(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

$$( X−£303 )+Y$ lle mae— X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu hysgwyddo ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 37; ac Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant a ysgwyddwyd ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).$

  • (3) Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
  • (a) gwariant y mae’r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei ysgwyddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae’n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);
  • (b) cost fisa neu fisâu y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad; ac
  • (c) costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys eu hysgwyddo er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad.

Didyniadau o’r grant at deithio

39

Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 37 a 38 yn unol â Rhan 9.

Grantiau addysg uwch

40
  • (1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
  • (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
  • (3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
  • (4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—
  • (a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,765 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;
  • (b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,765 ac nad yw’n fwy na £22,750, mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn cael swm sy’n hafal i M–A, pan fo Myn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,765; ac
  • (c) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,750, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

Grant cynhaliaeth

41
  • (1) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 42 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
  • (2) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 43 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
  • (3) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 44 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
  • (4) Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i gael grant cynhaliaeth os oes hawl gan y myfyriwr cymwys hwnnw i gael grant cymorth arbennig.
  • (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cynhaliaeth at gostau byw yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
  • (6) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cynhaliaeth at gostau byw.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

42
  • (1) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
  • (a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;
  • (b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;
  • (c) yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac
  • (d) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.
  • (2) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2)pan fo Myn £1,500 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.
  • (3) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–Apan fo Myn £3,000 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.
  • (4) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2)pan fo Myn £1,500 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2)pan fo RMyn £664 ac Ayn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
  • (5) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–Apan fo Myn £3,000 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £1,329 ac Ayn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

43
  • (1) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.
  • (2) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £2,936 ac Ayn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–Apan fo SMyn £1,142 ac Ayn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
  • (e) os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac
  • (f) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2011

44
  • (1) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.
  • (2) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £3,555 ac Ayn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–Apan fo SMyn £1,761 ac Ayn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
  • (e) os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50;
  • (f) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cymorth arbennig

45
  • (1) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 46 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
  • (2) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 47 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
  • (3) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 48 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
  • (4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—
  • (a) yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[^f00067];
  • (b) yn cael ei drin fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno[^f00068]; neu
  • (c) yn atebol, neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol, i wneud taliadau mewn perthynas â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.
  • (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
  • (6) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cymorth arbennig.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

46
  • (1) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
  • (a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;
  • (b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;
  • (c) yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac
  • (d) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.
  • (2) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2)pan fo Myn £1,500 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.
  • (3) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–Apan fo Myn £3,000 acAyn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.
  • (4) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2)pan fo Myn £1,500 acAyn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2),pan fo RMyn £664 ac Ayn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.
  • (5) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–Apan fo Myn £3,000 ac Ayn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £1,329 ac Ayn £1 am bob £8.97 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

47
  • (1) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.
  • (2) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £2,936 ac Ayn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–Apan fo SMyn £1,142 ac Ayn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
  • (e) os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac
  • (f) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2011

48
  • (1) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.
  • (2) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
  • (a) os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;
  • (b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
  • (c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–Apan fo RMyn £3,555 ac Ayn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
  • (d) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–Apan fo SMyn £1,761 ac Ayn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
  • (e) os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac
  • (f) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

49
  • (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
  • (2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
  • (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.
  • (4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy’n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.
  • (5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw—
  • (a) sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a
  • (b) sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
  • (6) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (d)(i) o’r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” yn rheoliad 2 hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’n bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi ei wahardd gan baragraff (3).
  • (7) Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.
  • (8) Mae paragraff (7) yn gymwys i’r canlynol—
  • (a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
  • (b) myfyriwr cymwys anabl—
  • (i) nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
  • (ii) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
  • (c) myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
  • (9) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
  • (10) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.

Cyffredinol

50

Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

  • (a) pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn, yn unol â rheoliad 51;
  • (b) pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, yn unol â rheoliadau 52 a 53;
  • (c) pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 54;
  • (d) pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 55.
  • (e) pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 56.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn

51
  • (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yw, i fyfyriwr o’r fath—
  • (a) yng nghategori 1, £3,987;
  • (b) yng nghategori 2, £7,215;
  • (c) yng nghategori 3, £6,140;
  • (d) yng nghategori 4, £6,140;
  • (e) yng nghategori 5, £5,150.
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yw, i fyfyriwr o’r fath—
  • (a) yng nghategori 1, £3,608;
  • (b) yng nghategori 2, £6,570;
  • (c) yng nghategori 3, £5,340;
  • (d) yng nghategori 4, £5,340;
  • (e) yng nghategori 5, £4,771.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

52
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £4,027; yng nghategori 2, yn £7,288; yng nghategori 3, yn £6,202; yng nghategori 4, yn £6,202; yng nghategori 5, yn £5,202;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y)pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £3,645; yng nghategori 2, yn £6,636; yng nghategori 3, yn £5,394; yng nghategori 4, yn £5,394; yng nghategori 5, yn £4,819;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—
  • (a) os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw’n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy;
  • (b) os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth sy’n fwy na £1,329 , £1,329; ac
  • (c) os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.
53
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—
  • (a) yng nghategori 1, £4,027;
  • (b) yng nghategori 2, £7,288;
  • (c) yng nghategori 3, £6,202;
  • (d) yng nghategori 4, £6,202;
  • (e) yng nghategori 5, £5,202.
  • (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—
  • (a) yng nghategori 1, £3,645;
  • (b) yng nghategori 2, £6,636;
  • (c) yng nghategori 3, £5,394;
  • (d) yng nghategori 4, £5,394;
  • (e) yng nghategori 5, £4,819.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio

54
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £4,027; yng nghategori 2, yn £7,288; yng nghategori 3, yn £6,202; yng nghategori 4, yn £6,202; yng nghategori 5, yn £5,202;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y)pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £3,645; yng nghategori 2, yn £6,636; yng nghategori 3, yn £5,394; yng nghategori 4, yn £5,394; yng nghategori 5, yn £4,819;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—
  • (a) os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 43 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;
  • (b) os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 43, dim.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2011

55
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £4,027; yng nghategori 2, yn £7,288; yng nghategori 3, yn £6,202; yng nghategori 4, yn £6,202; yng nghategori 5, yn £5,202;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y)pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £3,645; yng nghategori 2, yn £6,636; yng nghategori 3, yn £5,394; yng nghategori 4, yn £5,394; yng nghategori 5, yn £4,819;
  • Yyn swm y grant cynhaliaeth.
  • (4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—
  • (a) os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 44 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;
  • (b) os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 44, dim.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol

56
  • (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
  • (a) os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
  • (i) yng nghategori 1, yn £1,912;
  • (ii) yng nghategori 2, yn £3,583;
  • (iii) yng nghategori 3, yn £2,548;
  • (iv) yng nghategori 4, yn £2,548;
  • (v) yng nghategori 5, yn £2,548.
  • (b) os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
  • (i) yng nghategori 1, yn £1,912;
  • (ii) yng nghategori 2, yn £3,583;
  • (iii) yng nghategori 3, yn £3,048;
  • (iv) yng nghategori 4, yn £3,048;
  • (v) yng nghategori 5, yn £2,548.
  • (c) os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £3,020; yng nghategori 2, yn £5,466; yng nghategori 3, yn £4,652; yng nghategori 4, yn £4,652; yng nghategori 5, yn £3,902;
  • Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
  • (d) y swm penodedig yw—
  • (i) £664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
  • (ii) £1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
  • (iii) dim, pan nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
  • (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
  • (a) os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
  • (i) yng nghategori 1, yn £1,452;
  • (ii) yng nghategori 2, yn £2,739;
  • (iii) yng nghategori 3, yn £1,986;
  • (iv) yng nghategori 4, yn £1,986;
  • (v) yng nghategori 5, yn £1,986.
  • (b) os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
  • (i) yng nghategori 1, yn £1,452;
  • (ii) yng nghategori 2, yn £2,739;
  • (iii) yng nghategori 3, yn £2,227;
  • (iv) yng nghategori 4, yn £2,227;
  • (v) yng nghategori 5, yn £1,986.
  • (c) os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
  • X i fyfyriwr o’r fath— yng nghategori 1, yn £2,734; yng nghategori 2, yn £4,978; yng nghategori 3, yn £4,046; yng nghategori 4, yn £4,046; yng nghategori 5, yn £3,614;
  • Yyw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
  • (d) y swm penodedig yw—
  • (i) £664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
  • (ii) £1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
  • (iii) dim, pan nad fo’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

Myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni

57
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.
  • (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Benthyciadau at gostau byw sy’n daladwy ar gyfer tri chwarter o’r flwyddyn academaidd

58
  • (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 60, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o’r flwyddyn academaidd.
  • (2) Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—
  • (a) yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;
  • (b) mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Myfyrwyr sy’n dod o fewn mwy nag un categori

59

Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau yn rheoliad 63 yn ystod y flwyddyn academaidd—

  • (a) uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;
  • (b) uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac
  • (c) y categori sy’n gymwys i chwarter yw—
  • (i) y categori y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu
  • (ii) os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â’r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

60
  • (1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.
  • (2) Y digwyddiadau yw—
  • (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
  • (b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
  • (c) bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
  • (d) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
  • (e) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
  • (f) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
  • (g) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
  • (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.
  • (4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.
  • (5) Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

61
  • (1) Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:
  • (a) yng nghategori 1, £61;
  • (b) yng nghategori 2, £116;
  • (c) yng nghategori 3, £126;
  • (d) yng nghategori 4, £126;
  • (e) yng nghategori 5, £91.
  • (2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
  • (3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

62
  • (1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o’r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 67.
  • (2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 67.

Dehongli Rhan 6

63

Yn y Rhan hon—

  • (a) mae myfyriwr yng nghategori 1―
  • (i) yn ddarostyngedig i reoliad 57, os yw’r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu
  • (ii) os dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 a’r myfyriwr yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai’r urdd honno;
  • (b) mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—
  • (i) cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
  • (ii) cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
  • (iii) cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
  • (c) mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;
  • (d) mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;
  • (e) mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;
  • (f) “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
  • (g) “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;
  • (h) rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;
  • (i) ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
  • (j) “myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—
  • (i) nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 28(3)(a) neu (b) neu reoliad 28(7); neu
  • (ii) sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;
  • (k) os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

64
  • (1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—
  • (a) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi ei hysbysu i’r myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys neu fel arall; a
  • (b) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i’r myfyriwr cymwys—
  • (i) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i fod â hawl i gael benthyciad neu effeithio ar swm y benthyciad y mae ganddo hawl i’w gael; neu
  • (ii) rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
  • (2) Nid yw’r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm wedi ei gynyddu.
  • (3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy’n llai na’r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn ei achos ef.

Benthyciadau at ffioedd coleg

65

Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.

Cyfrifo’r cyfraniad

66
  • (1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
  • (2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.

Cymhwyso’r cyfraniad

67
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—
  • (a) yn gyntaf, i ostwng GFF;
  • (b) yn ail, i ostwng ADG;
  • (c) yn drydydd, i ostwng CCG;
  • (d) yn bedwerydd, i ostwng PLA;
  • (e) yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
  • (f) yn chweched, i ostwng GFT.
  • (2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(1) neu 17(7), er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso’r cyfraniad yn unol â pharagraff (1).
  • (3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(2) neu 17(8) a phan fo un o’r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 17(4)(b) neu (d) yn gymwys, er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—
  • (a) yn gyntaf, cymhwyso’r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd;
  • (b) yn ail, os nad yw’r cyfraniad wedi ei ddihysbyddu, didynnu swm sy’n hafal i swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd o’r hyn sy’n weddill o’r cyfraniad gan ostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac
  • (c) yn drydydd, os nad yw’r cyfraniad eto wedi ei ddihysbyddu, cymhwyso’r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
  • (4) Os yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw gyfraniad i’w gymhwyso yn erbyn swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd, a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
  • (5) Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso swm y rhan o’r cyfraniad sydd dros ben £1,380 i ostwng ADGyn gyntaf, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
  • (6) Os nad oes hawl gan y myfyriwr i gael grant ar gyfer ffioedd am unrhyw reswm arall, maeGFF yn ddim, a rhaid cymhwyso’r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
  • (7) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, rhaid trin GFF fel pe bai’n ddim a chymhwyso’r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
  • (8) Yn y rheoliad hwn—
  • (a) ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;
  • (b) CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;
  • (c) GFF yw swm y grant ar gyfer ffioedd, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan Ran 4;
  • (d) GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 37 os oes unrhyw swm o gwbl;
  • (e) LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);
  • (f) PLAyw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 34 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
  • (9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 67(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—
  • (a) yng nghategori 1, £3,020;
  • (b) yng nghategori 2, £5,466;
  • (c) yng nghategori 3, £4,652;
  • (d) yng nghategori 4, £4,652;
  • (e) yng nghategori 5, £3,902.
  • (10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—
  • (a) yng nghategori 1, £2,734;
  • (b) yng nghategori 2, £4,978;
  • (c) yng nghategori 3, £4,046;
  • (d) yng nghategori 4, £4,046;
  • (e) yng nghategori 5, £3,614.
  • (11) Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
  • (12) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.
  • (13) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddynt hawl i gael grant cynhaliaeth ac y mae eu cyfraniad yn fwy na dim.
  • (14) Mae’r benthyciad at gostau byw sy’n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (13) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—

$$A−B$ pan fo— A yn swm y benthyciad at gostau byw sy’n weddill ar ôl cymhwyso’r cyfraniad yn unol â’r Rhan hon; a B yn swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys.$

  • (15) Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 63.

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

68
  • (1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.
  • (2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
  • (3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd—
  • (a) oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a
  • (b) bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
  • (4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny’n digwydd yn hwyrach.
  • (5) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
  • (6) Ni cheir gwneud taliad o’r grant ar gyfer ffioedd, neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â chwrs dynodedig—
  • (a) os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) a 13(4), yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a
  • (b) os yw’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.
  • (7) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o’r cwrs dynodedig.

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

69
  • (1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.
  • (2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
  • (3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
  • (a) cais am daliad; a
  • (b) cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.
  • (4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
  • (a) wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs dynodedig, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd; neu
  • (b) yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.
  • (5) Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
  • (6) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o’r cwrs dynodedig.

Talu grantiau at gostau byw

70
  • (1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o’r farn eu bod yn briodol.
  • (2) Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
  • (3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i’r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
  • (4) Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—
  • (a) pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu’r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu
  • (b) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
  • (5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
  • (6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
  • (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
  • (8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.
  • (9) Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
  • (10) Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
  • (11) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
  • (a) swm pob grant at gostau byw y mae’r myfyriwr hwnnw’n gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a
  • (b) faint o’r swm llawn sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
  • (12) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
  • (13) Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
  • (a) cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu
  • (b) os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
  • (14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant hwnnw sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol i benderfynu bod swm llawn y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
  • (15) Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.
  • (16) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
  • (17) Wrth benderfynu pa un a fyddai’n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol a achosid pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.
  • (18) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu’n absennol am fwy na 60 diwrnod.
  • (19) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
  • (a) os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;
  • (b) os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu;
  • (c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu’r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;
  • (d) gellir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 74.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

71
  • (1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
  • (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i’r myfyriwr cymwys cyn iddynt gael eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.
  • (3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni y byddai’n briodol iddynt wneud taliad o’r fath oherwydd amgylchiadau eithriadol, wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

Gofynion o ran gwybodaeth

72

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.