The Education (Student Support) (Wales) Regulations 2013
- (c) bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;
- (d) bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;
- (e) o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac
- (f) bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.
- (20) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
- (a) rhaid trin myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 fel myfyriwr carfan 2010;
- (b) yn ddarostyngedig i baragraff (21), pan fo myfyriwr cymwys yn cychwyn ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y cychwynnodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;
- (c) pan fo myfyriwr cymwys yn cychwyn ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y cychwynnodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;
- (d) yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn cychwyn ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y cychwynnodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011;
- (e) yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn cychwyn ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y cychwynnodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011.
- (21) Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2010 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010.
- (22) Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (d) a (e) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2011 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011.
Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol
3
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (12), mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu ar 1 Medi 2014.
- (2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
- (3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
- (4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
- (5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
- (6) Mae Rheoliadau 2007 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.
- (7) Mae Rheoliadau 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.
- (8) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.
- (9) Mae Rheoliadau 2009 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.
- (10) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.
- (11) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.
- (12) Mae Rheoliadau 2012 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.
- (13) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i’w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—
- (a) Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[^f00044]; neu
- (b) Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
- (14) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2014.
- (15) Pan fo person—
- (a) yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu
- (b) heb gael dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â phresenoldeb y person hwnnw ar gwrs, ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi ei roi pe bai’r person wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai adnoddau’r person wedi bod yn fwy na’i anghenion,
rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai’r dyfarniad (a roddwyd neu y byddid wedi ei roi) wedi ei drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf y cwrs, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
- (16) Oni bai bod paragraff (17) yn gymwys i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (15), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth ar ffurf benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw—
- (a) yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a
- (b) yn bodloni amodau’r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
- (17) Os cafodd person fenthyciad, neu os oedd person yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag—
- (a) y cwrs hwnnw; neu
- (b) unrhyw gwrs dynodedig dilynol (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) y mae’r person yn cychwyn arno, yn union ar ôl terfynu’r cwrs hwnnw,
- er gwaethaf unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn.
- (18) Oni bai bod paragraff (15) yn gymwys i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (17), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw—
- (a) yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a
- (b) yn bodloni’r amodau hawl perthnasol i gael cymorth o dan y Rhannau hynny.
Myfyrwyr cymwys
4
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
- (a) os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth o dan reoliad 9, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
- (b) os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni fydd person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys—
- (a) os oes hen ddyfarniad wedi ei roi i A mewn perthynas â phresenoldeb A ar y cwrs;
- (b) os yw A yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;
- (c) os rhoddwyd i A, neu os talwyd i A, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs—
- (i) bwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A; neu
- (ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007[^f00045];
- (d) os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
- (e) os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed ag A pan oedd A o dan 18 oed; neu
- (f) os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
- (4) At ddibenion paragraffau (3)(d) a (3)(e), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
- (5) Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, ni fydd paragraff 3(e) yn gymwys ac eithrio pan fo’r cytundeb wedi ei wneud—
- (a) cyn 25 Medi 1991, a
- (b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur.
- (6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys, y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennwyd mewn perthynas ag ef yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2000 hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
- (a) at fwy nag un cwrs dynodedig;
- (b) at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
- (c) at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig;
- (d) at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig.
- (7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), os yw person yn bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c)—
- (a) nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i’r person; a
- (b) mae’r person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
- (8) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
- (a) bod―
- (i) y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (ii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; a
- (iii) statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.
- (b) bod—
- (i) y cwrs presennol yn gwrs penben (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “gwrs penben” yn rheoliad 2) y mae’r person yn cychwyn arno ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
- (ii) y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;
- (iii) y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a
- (iv) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);
- (c) bod—
- (i) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person—
- (aa) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;
- (bb) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig ac eithrio’r cwrs presennol; neu
- (cc) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;
- (ii) statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
- (iii) y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a
- (iv) statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.
- (9) Os bydd—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur—
- (i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu
- (ii) yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
- (b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (10) Os bydd—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—
- (i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu
- (ii) yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
- (b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
- (11) Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw, bod A yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
- (12) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), ni fydd carcharor sy’n dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn fyfyriwr cymwys oni bai—
- (a) ei fod yn garcharor cymwys;
- (b) ei fod yn fyfyriwr cymwys sydd wedi trosglwyddo i’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 o dan reoliad 8 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012; neu
- (c) bod y cwrs presennol yn gwrs penben.
- (13) Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
Cyrsiau dynodedig
5
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—
- (a) os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;
- (b) os yw’n un o’r canlynol—
- (i) cwrs llawnamser;
- (ii) cwrs rhyngosod;
- (iii) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon―
- (aa) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
- (bb) sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
- (cc) a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; neu
- (iv) cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 78(5) yn gymwys iddo;
- (c) os nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig;
- (d) os yw o leiaf—
- (i) yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu
- (ii) yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg;
- (e) os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac
- (f) ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy’n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[^f00046].
- (2) Nid yw cwrs, sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
- (3) Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.
- (4) Nid yw paragraff (1)(c) yn gymwys os bydd y person sy’n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â’r cwrs—
- (a) yn fyfyriwr cymwys anabl; a
- (b) yn ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.
- (5) At ddibenion paragraff (1)—
- (a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;
- (b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac
- (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[^f00047].
- (6) Bernir bod cwrs y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—
- (a) os yw’r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu’r cymhwyster cyfatebol; a
- (b) os yw rhan o’r cwrs yn ddewisol.
- (7) Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
- (8) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).
Cyfnod cymhwystra
6
- (1) Bydd myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 4.
- (2) Y “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw’r cyfnod y bydd myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
- (3) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 4, mae’r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.
- (4) Mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben pan fydd y myfyriwr cymwys—
- (a) yn tynnu’n ôl o gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo na throsi, neu pan na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws y myfyriwr cymwys fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 8, rheoliad 88 neu reoliad 115; neu
- (b) yn cefnu ar gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
- (5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth.
- (6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
- (a) terfynu’r cyfnod cymhwystra;
- (b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
- (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 74, 92, 121, 131 a pharagraff 15 o Atodlen 4.
- (7) Os bydd y cyfnod cymhwystra’n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.
- (8) Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, na fu’n bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $OD+R+1$.
- (9) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (11), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $( OD+R+1 )−PC$, ac eithrio—
- (a) nad yw’r didyniad sy’n cyfateb i PCyn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012; a
- (b) yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am resymau personol anorchfygol—
- (i) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio; a
- (ii) caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i’r rhesymau hynny.
- (10) Mae paragraff (11) yn gymwys—
- (a) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o’r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;
- (b) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
- (i) sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;
- (ii) sydd ar gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a
- (iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;
- (c) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
- (i) sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol llawnamser;
- (ii) sydd ar gwrs gradd anrhydedd llawnamser nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a
- (iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac
- (d) i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy’n fyfyriwr ar gwrs penben o’r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.
- (11) Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $( D+X )−PrC$.
- (12) Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr sy’n parhau yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $( A+R+1 )−Y$.
- (13) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (14), ni fydd myfyriwr sy’n trosglwyddo yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $( A+R+1 )−Y$.
- (14) Ni fydd myfyriwr sy’n trosglwyddo, ac sy’n dechrau ar flwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar neu ar ôl 1 Medi 2011 yn gymwys am ddim ond grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, mewn perthynas â’r cwrs pellach, am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i $( A+R+1 )−Y−Z$.
- (15) Mewn unrhyw achos pan fo nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â’r rheoliad hwn, yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y bydd ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol, y blynyddoedd academaidd y bydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cyfryw grant neu fenthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, fydd blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol.
- (16) Yn y rheoliad hwn—
- (a) A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy’n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;
- (b) D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, pa un bynnag yw’r mwyaf;
- (c) OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol;
- (d) PC yw nifer y blynyddoedd y bu’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;
- (e) X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a phan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol) yn dair blynedd neu ragor, y cyfnod arferol llai 1;
- (f) R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a’r rheini’n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau’n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;
- (g) PrC yw’r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;
- (h) Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu’r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy’n trosglwyddo, y mae wedi ei benderfynu mewn perthynas â’r nifer hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 nad oedd cymorth ar gael;
- (i) Zyw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
- (j) ystyr “myfyriwr sy’n parhau” (“continuingstudent”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2012;
- (k) ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr nad yw’n athro cymwysedig nac yn athrawes gymwysedig, sy’n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a phan fo’r cwrs—
- (i) yn gwrs llawnamser; neu
- (ii) yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs naill ai—
- (aa) wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;
- (bb) yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu
- (cc) wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;
- (l) ystyr “myfyriwr sy’n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn―
- (i) a ddechreuodd ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sy’n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2012; neu
- (ii) sy’n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr cymwys arno cyn 1 Medi 2006.
- (17) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, bydd presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd yn cael ei drin fel presenoldeb am flwyddyn academaidd gyfan.
- (18) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.
- (19) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, rywfodd arall heblaw’n unol â pharagraffau (8) i (16).
- (20) At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (22), (23) a (24) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch llawnamser neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy’n bodloni un neu fwy o’r amodau ym mharagraff (21).
- (21) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (20) yw—
- (a) bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a ariannwyd yn gyhoeddus am rywfaint o’r blynyddoedd academaidd neu’r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu
- (b) bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd i’r myfyriwr fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, iddo ymgymryd â’r cwrs, i dalu ffioedd wedi ei dalu o gronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i’w priodoli i gronfeydd cyhoeddus.
- (22) Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—
- (a) os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
- (b) os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na 2 flynedd a’r cwrs presennol—
- (i) yn gwrs llawnamser; neu
- (ii) yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs presennol naill ai—
- (aa) wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;
- (bb) yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu
- (cc) wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; ac
- (c) nad yw’r myfyriwr yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.
- (23) Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—
- (a) os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;
- (b) os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.
- (24) Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—
- (a) os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;
- (b) os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.
Astudio blaenorol
7
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (6), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd na benthyciad at ffioedd.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) sy’n dechrau ar ei gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw A wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.
- (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig—
- (a) pan fo’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
- (b) pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a’r cwrs—
- (i) yn gwrs llawnamser; neu
- (ii) yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs naill ai—
- (aa) wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;
- (bb) yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu
- (cc) wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; ac
- (c) nad yw’r myfyriwr cymwys yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.
- (4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a’i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymwysterau cyfatebol, ni rwystrir y myfyriwr cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith bod ganddo’r radd anrhydedd honno.
- (5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
- (a) os yw’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;
- (b) os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan—
- (i) bwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
- (ii) lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol; neu
- (c) os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd—
- (i) yn gwrs llawnamser; neu
- (ii) yn gwrs rhan-amser sydd naill ai—
- (aa) wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;
- (bb) yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu
- (cc) wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs.
- (6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam.
Trosglwyddo statws
8
- (1) Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs arall hwnnw—
- (a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
- (b) os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
- (c) os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
- (2) Y seiliau trosglwyddo yw—
- (a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau―
- (i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad;
- (ii) yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn yr un sefydliad; neu
- (iii) yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn yr un sefydliad;
- (b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau―
- (i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu
- (ii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;
- (c) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;
- (d) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu
- (e) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn y sefydliad.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ohono.
- (4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ar ôl y trosglwyddiad.
- (5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu’r cymorth a gaiff y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o’r math y mae’r myfyriwr cymwys eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo ohono oni ddarperir ar gyfer hynny fel arall.
Ceisiadau am gymorth
9
- (1) Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
- (3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, ei hysbysu o swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
Terfynau amser
10
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff , rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.
- (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
- (a) os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd;
- (b) os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 23 neu reoliad 24 neu fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 25 neu fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 49 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw’n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 23(4), swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 25(4), swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22(6), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 24(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 64(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan baragraff 10(2) o Atodlen 4 ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;
- (c) os yw’r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 64(1), ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â’r uchafswm wedi ei gynyddu, pa un bynnag yw’r olaf;
- (d) os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 29, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;
- (e) os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 26(4), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 27(4), ac mewn achos o’r fath rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;
- (f) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen.
Gwybodaeth
11
Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr cymwys.
Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad
12
Er mwyn cael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
Cymorth at ffioedd yn gyffredinol
13
- (1) Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
- (2) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy’n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999[^f00048] yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992[^f00049].
- (3) Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael cymorth at ffioedd.
- (4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—
- (a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
- (b) myfyriwr cymwys anabl—
- (i) nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
- (ii) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.
- (5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
- (6) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd
14
Os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
- (a) caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
- (b) nid yw’r grantiau a’r benthyciadau hyn ar gael i’r myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
Digwyddiadau
15
Y digwyddiadau yw—
- (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
- (b) bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
- (c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd, a’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
- (d) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
- (e) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
- (f) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
- (g) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
- (h) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Grantiau ar gyfer ffioedd: amodau’r hawl i’w cael ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
16
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â’r ffioedd am flwyddyn academaidd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Pennir swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 17 neu 18.
- (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—
- (a) os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus; neu
- (b) os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.
Swm y grantiau ar gyfer ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
17
- (1) Oni fydd un o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r swm lleiaf o’r canlynol—
- (a) £1,380 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban: neu
- (b) £1,425 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, a
- (c) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
- (2) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus pan fo un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £680 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu
- (b) £700 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a
- (c) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
- (3) Os cyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o’r grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 67.
- (4) Y canlynol yw’r amgylchiadau—
- (a) blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig os yw fel rheol yn ofynnol i’r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
- (b) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—
- (i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
- (ii) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
- (c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy’n arwain at radd gyntaf)—
- (i) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
- (ii) yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
- (iii) a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,
blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;
- (d) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 ac a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
- (i) pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
- (ii) os bydd, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
- (5) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,465.
- (6) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,030.
- (7) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o £1,285 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—
- (a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
- (b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
- (c) os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
- (8) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o’r symiau canlynol, sef £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—
- (a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
- (b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
- (c) os yw un neu fwy o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
- (9) Pan gyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 67.
Swm y grant ar gyfer ffioedd mewn sefydliad preifat (nid ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus): myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
18
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £1,285; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
- (2) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £3,275.
Grant at ffioedd
19
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais am grant at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Nid oes grant at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
- (a) os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus;
- (b) os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
- (3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw’r un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £2,085 neu y gwahaniaeth rhwng £1,380 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.
- (4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £1,045 neu’r gwahaniaeth rhwng £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.
- (5) Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), ystyr “myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“eligible student who qualifies for a fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
- (6) Nid yw myfyriwr carfan newydd neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd.
- (7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy’n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Grant newydd at ffioedd
20
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
- (a) yn flwyddyn bwrsari;
- (b) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
- (c) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
- (3) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu baragraffau (7), (8) neu (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £5,315; neu
- (b) y gwahaniaeth rhwng £3,685 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
- (4) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu baragraff (7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £2,665; neu
- (b) y gwahaniaeth rhwng £1,835 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
- (5) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £900; neu
- (b) y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
- (6) Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £675; neu
- (b) y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.
- (7) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
- (a) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—
- (i) yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
- (ii) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
- (b) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—
- (i) yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
- (ii) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
- (8) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—
- (a) yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
- (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
- (9) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
- (a) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;
- (i) yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
- (ii) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
- (b) mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.
Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau cyfrannu at ffioedd a benthyciadau at ffioedd
21
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â’r Rhan hon ar yr amod nad yw’r myfyriwr wedi ei hepgor o fod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.
- (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
- (a) os yw’r flwyddyn honno—
- (i) yn flwyddyn bwrsari;
- (ii) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
- (iii) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012; neu
- (b) os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
- (3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.
Benthyciadau cyfrannu at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)
22
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—
- (a) os oes ganddo hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai swm y grant wedi bod yn ddim); a
- (b) os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.
- (2) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant ar gyfer ffioedd ac am fenthyciad cyfrannu at ffioedd, swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw’r swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na’r swm a ddidynnwyd o’i grant ar gyfer ffioedd yn unol â rheoliad 67.
- (3) Os benthyciad cyfrannu at ffioedd yw’r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
- (a) y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu
- (b) y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,425 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £700, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.
- (4) Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd—
- (a) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi ei hysbysu i’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu fel arall; a
- (b) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd bod y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—
- (i) wedi methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae ganddo hawl i’w gael; neu
- (ii) rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
- (5) Nid yw’r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm wedi ei gynyddu.
- (6) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant at ffioedd
23
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,725; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (3) Os oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £3,685 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,835; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,
- (4) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
- (5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
- (6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012.
- (7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd
24
- (1) Caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs dynodedig cymhwysol.
- (2) Uchafswm y benthyciad at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680; a
- (b) gweddill y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a swm sy’n hafal i’r grant at ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall wedi ei ddidynnu oddi wrtho.
- (3) Os yw’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny
25
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
- (a) yn flwyddyn bwrsari;
- (b) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
- (c) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
- (3) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 17(4), 20(7), 20(8) neu 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £3,685; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (4) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu reoliad 20(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £1,835; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (5) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw rheoliad 20(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £900; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (6) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw rheoliad 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £675; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (7) Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
- (8) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.
Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat
26
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
- (a) yn flwyddyn bwrsari;
- (b) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
- (c) yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
- (3) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 17(4), 20(7), 20(8) neu 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £6,000;,a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (4) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu reoliad 20(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £3,000; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (5) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £1,200; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (6) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £900; a
- (b) y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
- (7) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam
27
- (1) Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
- (2) Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn Erasmus.
- (3) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
- (a) £5,535; neu
- (b) y gwahaniaeth rhwng £3,465 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
- (4) Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw
28
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—
- (a) nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
- (b) bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.
- (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.
- (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—
- (a) blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;
- (b) blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
- (i) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
- (ii) sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
- (iii) a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,
- (iv) pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb llawnamser, gan gynnwys presenoldeb at y diben o ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;
- (c) cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.
- (4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion bod â hawl i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan reoliad 29.
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.
- (6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 29 i 35, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.
- (7) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
- (8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
- (a) gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
- (b) gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
- (c) gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
- (d) ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
- (e) gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—
- (i) yr Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o’r Ddeddf honno[^f00050];
- (ii) Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno[^f00051];
- (iii) Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978[^f00052];
- (iv) Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009[^f00053];
- (v) Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno[^f00054]; neu
- (vi) y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno[^f00055].
- (9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 40 i 48 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
- (10) Nid yw paragraff (9) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
- (a) bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 21(2); neu
- (b) bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
- (11) Ym mharagraff (9) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 40, yw grant ar gyfer ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliadau 41 i 48, benthyciad at ffioedd.
- (12) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â’r hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
- (13) Y digwyddiadau yw—
- (a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
- (b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
- (c) bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
- (d) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
- (e) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
- (f) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
- (g) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
- (14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.
- (15) Nid yw paragraff (14) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.
- (16) Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael y grantiau canlynol—
- (a) grantiau ar gyfer dibynyddion;
- (b) grant at gostau byw myfyrwyr anabl;
- (c) grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;
- (d) grant addysg uwch.
- (17) Mae paragraff (16) yn gymwys i’r canlynol—
- (a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
- (b) myfyriwr cymwys anabl—
- (i) nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
- (ii) sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
- (c) myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
- (18) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 29.
Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
29
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
- (2) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr cymwys.
- (3) Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
- (a) £21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
- (b) £5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
- (c) y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—
- (i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
- (ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;
- (d) £1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.
- (4) Os yw’r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu i dalu am wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â’r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
- (5) Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(d) yw £15,885 a £1,338, yn y drefn honno—
- (a) os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
- (i) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
- (ii) sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
- (iii) a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; a
- (b) os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser ac ymarfer dysgu llawnamser gyda’i gilydd yn llai na 6 wythnos.
- (6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
- (7) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
- (8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
- (9) Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)), caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
- (10) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraffau (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl.
Grantiau ar gyfer dibynyddion – cyffredinol
30
- (1) Mae’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
- (a) grant ar gyfer dibynyddion mewn oed;
- (b) grant gofal plant;
- (c) lwfans dysgu ar gyfer rhieni.
- (2) Nodir amodau’r hawl i gael pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 31 i 34.
- (3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 67.
Grantiau ar gyfer dibynyddion - grant ar gyfer dibynyddion mewn oed
31
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.
- (2) Mae’r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—
- (a) yn bartner i’r myfyriwr cymwys; neu
- (b) yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.
- (3) Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 34, a’r swm sylfaenol yw—
- (a) £2,732; neu
- (b) os yw’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant
32
- (1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae’r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn ysgwyddo costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—
- (a) plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu
- (b) plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996[^f00056] ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
- (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[^f00057] neu os oes ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)[^f00058].
- (4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n eu hysgwyddo’n cael eu talu, neu os ydynt i’w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (7) ac (8), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
- (a) ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.