The Food Information (Wales) Regulations 2014
Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi
7
- (1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(d) (swm cynhwysion penodol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 22 ac Atodiad VIII, o ran y cynhwysion yn y bwyd sy’n gig.
- (2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd (heblaw bwyd a bennir yn Atodlen 3) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr, sy’n cynnwys cig ac unrhyw gynhwysyn arall ac sydd—
- (a) heb ei ragbecynnu,
- (b) wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu
- (c) wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
- (3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.
- (4) Mae swm y cig sydd i’w bennu yn y manylion a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w bennu drwy gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynghylch cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII, gan gynnwys unrhyw addasiad tuag i lawr sy’n angenrheidiol mewn achos lle y mae cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y bwyd yn fwy na’r gwerthoedd a ddangosir yn y tabl yn y pwynt hwnnw.
- (5) Rhaid i’r manylion ymddangos—
- (a) ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
- (b) ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
- (6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
- (7) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe y mae’n ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol; ac
- mae i “cig a wahenir yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically separated meat” ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid[^f00013].
Bwydydd a arbelydrwyd
8
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad, mewn swmp, gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos, ynghyd ag enw’r cynnyrch, ar arddangosiad neu hysbysiad uwchben y cynhwysydd y gosodir y cynhyrchion ynddo ar y farchnad neu wrth ochr y cynhwysydd hwnnw.
- (2) Mae paragraff (1) yn gymwys—
- (a) i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a
- (b) i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sy’n cynnwys cynhwysyn sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio.
- (3) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch hwnnw er mwyn dangos bod y cynnyrch wedi ei arbelydru.
- (4) Mae paragraff (3) yn gymwys i gynnyrch a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr—
- (a) sy’n cynnwys cynhwysyn cyfansawdd mewn achos lle y mae un o gynhwysion y cynhwysyn cyfansawdd hwnnw wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a
- (b) y byddai, mewn perthynas â’r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw, ddarpariaethau pwynt 2 o Ran E o Atodiad VII (sy’n nodi achosion lle nad yw rhestr o gynhwysion ar gyfer cynhwysion cyfansawdd yn orfodol) yn gymwys, oni bai am y gofyniad ym mharagraff (3).
- (5) Y dangosiad perthnasol yw’r geiriau “irradiated” neu’r geiriau “treated with ionising radiation”.
- (6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
- (a) cynnyrch a fu’n agored i ymbelydredd ïoneiddio a gynhyrchwyd gan ddyfeisiau mesur neu arolygu, ar yr amod nad yw’r dogn a amsugnwyd yn fwy na 0.01 Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy’n defnyddio niwtronau a 0.5 Gy mewn achosion eraill, ar lefel ynni ymbelydredd uchaf o 10 MeV yn achos pelydr X, 14 MeV yn achos niwtronau a 5 MeV mewn achosion eraill, neu
- (b) cynnyrch a baratoir i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol.
- (7) Yn y rheoliad hwn—
- mae i “cynnyrch” yr un ystyr ag sydd i “product” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC;
- mae “gosod ar y farchnad” i’w ddehongli drwy gymryd i ystyriaeth ystyr “placed on the market” fel y’i defnyddir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC;
- mae i “mewn swmp” yr un ystyr ag sydd i “in bulk” yn ail is-baragraff Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC; ac
- mae i “ymbelydredd ïoneiddio” yr un ystyr ag sydd i “ionising radiation” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC.
Gorfodi
9
Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Trosedd
10
- (1) Mae person yn euog o drosedd os yw’n methu â chydymffurfio—
- (a) ag unrhyw rai o ddarpariaethau FIC a bennir ym mharagraff (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1);
- (b) â rheoliad 5(5) ; ...
- (ba) â rheoliad 5A(1)(b); neu
- (c) ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).
- (2) Y darpariaethau yn FIC yw—
- (a) Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir hefyd gydag Atodiad II;
- (b) Erthygl 21(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 18(1) ac Atodiad II;
- (c) ail is-baragraff Erthygl 21(1), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 19(1) ac Atodiad II; a
- (d) Erthygl 44(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthygl 9(1)(c) a rheoliad 5.
- (3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—
- (a) Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;
- (b) Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.
Cosbi
11
Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 10 yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf
12
- (1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn—
- (a) galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn—
- (i) darpariaeth yn FIC neu Reoliad 828/2014 a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;
- (iia) rheoliad 5A(1);
- (iii) rheoliad 6(1) neu (4);
- (iiia) rheoliad 6A(1) neu (3);
- (v) rheoliad 8(1) neu (3); a
- (b) peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
- (2) Mae is-adrannau (1) i (8) o adran 32[^f00014] o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd—
- (a) i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC neu Reoliad 828/2014 a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;
- (b) i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac
- (c) wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.
- (3) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
- (4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
- (5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
- (6) Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.
Dirymiadau
13
Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir.
Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol
14
Mae Atodlen 7 yn cael effaith.
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996
Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007
Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996
Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997
Rheoliadau Bara a Blawd 1998
Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007
Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007
Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007
Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013
PART 4 — Regulation 828/2014 provisions in relation to which improvement notices may be served on and from 20 July 2016
| Provision of Regulation 828/2014 | Provision to be read with the provision of Regulation 828/2014 |
|---|---|
| Article 3(1) | Articles 1(3), 6, 7 and 36(1) and (2) of FIC and Articles 2 and 3(2) and (3) of and the Annex to Regulation 828/2014 |
| Article 4 | Article 2 of Regulation 828/2014 |
PART 5 — FIC Provision in relation to which an Improvement Notice may be served on and from 1 April 2020.
| Provision of FIC | Provisions to be read with the provision of FIC |
|---|---|
| Article 26(3) (mandatory indication of the country of origin or place of provenance of the primary ingredient where different from that of the food. | Articles 1(3) and 6 of FIC, and Commission Implementing Regulation (EU) 2018/775 as regards the rules for indicating the country of origin or place of provenance of the primary ingredient of the food (as amended from time to time). |
Transitional provisions: withdrawal from the EU
15
- (1) An authorised officer of a food authority must not serve on a person an improvement notice relating to a failure to comply with Article 9(1)(h), and Article 9(1)(i) as read with Article 26(3), if—
- (a) the improvement notice would relate to a product that was placed on the market before 1 January 2024, and
- (b) the matter would not have constituted a failure to comply with those provisions as they had effect immediately before IP completion day.
- (2) An authorised officer of a food authority must not serve on a person an improvement notice relating to a failure to comply with Article 7(1) or Article 36(2)(a) or (b) if—
- (a) the improvement notice would relate to a specified product that was placed on the market before IP completion day, and
- (b) the labelling of the specified product would not have constituted a failure to comply with those provisions as they had effect immediately before IP completion day.
- (3) Products to which paragraph (1) or (2) applies may continue to be marketed until stocks are exhausted.
- (4) An authorised officer of a food authority must not serve on a person an improvement notice relating to a failure to comply with Article 7(1) or Article 36(2)(a) or (b) if—
- (a) the improvement notice would relate to a specified product placed on the market within the period beginning with IP completion day and ending on 31 December 2023, and
- (b) the labelling of the specified product would not have constituted a failure to comply with those provisions as they had effect immediately before IP completion day.
- (5) Wine products to which paragraph (4) applies may continue to be marketed until stocks are exhausted.
- (6) Other products to which paragraph (4) applies may continue to be marketed until 31 December 2023.
- (7) In this regulation—
- “improvement notice” (“hysbysiad gwella”) means an improvement notice pursuant to regulation 12(1);
- “specified product” (“cynnyrch penodedig”) means an individually identifiable product, including a wine product, bearing an indication listed in point 5, 6 or 7 of Annex 10 to Commission Implementing Regulation (EU) No 668/2014 laying down rules for the application of Regulation (EU) No 1151/2012 of the European Parliament and of the Council on quality schemes for agricultural products and foodstuffsas that Regulation had effect immediately before IP completion day;
- “wine product” (“cynnyrch gwin”) means a product to which Part 2 of Annex 7 to Regulation (EU) No 1308/2013 of the European Parliament and of the Council establishing a common organisation of the markets in agricultural productsas that Regulation had effect immediately before IP completion day applies.
Foods that are prepacked for direct sale – duty to list ingredients
5A
- (1) A food business operator who offers for sale a food to which this regulation applies must provide directly on the package or on a label attached to the package the particulars required by the following—
- (a) Article 9(1)(b) (list of ingredients), as read with—
- (i) Article 13(1) to (3),
- (ii) Article 15,
- (iii) Article 16(2), so far as it relates to the particulars required by Article 9(1)(b),
- (iv) Article 17, as read with Parts A and C of Annex 6 and, in the case of an ingredient using a minced meat designation as a name, the following points of Part B of Annex 6—
- (aa) point 1, and
- (bb) point 3, as read with regulation 4 and Schedule 2,
- (v) Article 18, as read with Annex 7 and paragraph (1)(a)(iv) of this regulation,
- (vi) Article 19(1), and
- (vii) Article 20;
- (b) Article 9(1)(c) (labelling of certain substances or products causing allergies or intolerances) as read with Article 21(1) and Annex 2.
- (2) This regulation applies to a food that—
- (a) is offered for sale to a final consumer or to a mass caterer otherwise than by means of distance communication, and
- (b) is prepacked for direct sale.
Foods that are not prepacked etc. – general requirement to name them
Foods that are prepacked for direct sale – general requirement to name them
6A
- (1) A food business operator who offers for sale a food to which this regulation applies must provide the particulars required by Article 9(1)(a) (the name of the food), as read with—
- (a) Article 17(1) to (4),
- (b) Part A of Annex 6, and
- (c) in the case of food offered for sale using a minced meat designation as a name—
- (i) Article 17(5),
- (ii) point 1 of Part B of Annex 6, and
- (iii) point 3 of Part B of Annex 6, as read with regulation 4 and Schedule 2.
- (2) This regulation applies to a food that—
- (a) is offered for sale to a final consumer or to a mass caterer, and
- (b) is prepacked for direct sale.
- (3) The particulars in paragraph (1) must be provided directly on the package or on a label attached to the package, except in the case of an offer for sale made by means of distance communication.
Foods that are not prepacked etc. containing meat and other ingredients
Irradiated foods
Enforcement
Offence
Penalty
Application of provisions of the Act
Revocations
Consequential and other minor amendments to statutory instruments
Transitional provisions: withdrawal from the EU
Transitional provision: the Trade and Cooperation Agreement
16
- (1) An authorised officer of an enforcement authority must not serve an improvement notice, in respect of EU Annex 15 wine (including EU Annex 15 wine labelled on or after 1 May 2021) that is placed on the market in Wales—
- (a) by a wholesaler or producer during the period beginning on 1 January 2022 and expiring on 1 May 2023;
- (b) by a retailer on or after 1 January 2022 until stocks of EU Annex 15 wine are exhausted.
- (2) In this regulation—
- “EU Annex 15 wine” (“gwin Atodiad 15 yr UE”) means wine—to which Article 5 (transitional measures) of Annex 15 (trade in wine) to the Trade and Cooperation Agreement, as read with Article 1(1) (scope) of that Annex, applies, andthat is imported into Great Britain from a member State;
- “improvement notice” (“hysbysiad gwella”) means an improvement notice pursuant to regulation 12(1);
- “placed on the market” (“a roddir ar y farchnad”) is to be construed taking into account the definition of “placing on the market” in point 8 of Article 3 of Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council;
- “the Trade and Cooperation Agreement” (“y Cytundeb Masnach a Chydweithredu”) has the same meaning as in section 37(1) of the European Union (Future Relationship) Act 2020.
Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE
15
- (1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 9(1)(h), ac Erthygl 9(1)(i) fel y’i darllenir gydag Erthygl 26(3)—
- (a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn 1 Ionawr 2024, a
- (b) pe na bai’r mater wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn dyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu.
- (2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
- (a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a
- (b) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
- (3) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
- (4) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
- (a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a
- (b) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
- (5) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
- (6) Caniateir i gynhyrchion eraill y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata hyd 31 Rhagfyr 2023.
- (7) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “cynnyrch gwin” (“wine product”) yw cynnyrch y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddolfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys iddo;
- ystyr “cynnyrch penodedig” (“specifiedproduct”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol, gan gynnwys cynnyrch gwin, sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwynt 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwydfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
- ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).
Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – dyletswydd i restru cynhwysion
5A
- (1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn y manylion sy’n ofynnol o dan y canlynol—
- (a) Erthygl 9(1)(b) (rhestr cynhwysion), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
- (i) Erthygl 13(1) i (3),
- (ii) Erthygl 15,
- (iii) Erthygl 16(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(b),
- (iv) Erthygl 17, fel y’i darllenir gyda Rhannau A ac C o Atodiad 6 ac, yn achos cynhwysyn sy’n defnyddio dynodiad briwgig fel enw, y pwyntiau canlynol o Ran B o Atodiad 6—
- (aa) pwynt 1, a
- (bb) pwynt 3, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2,
- (v) Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Atodiad 7 a pharagraff (1)(a)(iv) o’r rheoliad hwn,
- (vi) Erthygl 19(1), a
- (vii) Erthygl 20;
- (b) Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) fel y’i darllenir gydag Erthygl 21(1) ac Atodiad 2.
- (2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
- (a) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell, a
- (b) sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – gofyniad cyffredinol i’w henwi
6A
- (1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
- (a) Erthygl 17(1) i (4),
- (b) Rhan A o Atodiad 6, ac
- (c) yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—
- (i) Erthygl 17(5),
- (ii) pwynt 1 o Ran B o Atodiad 6, a
- (iii) pwynt 3 o Ran B o Atodiad 6, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.
- (2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
- (a) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, a
- (b) sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
- (3) Rhaid i’r manylion ym mharagraff (1) gael eu darparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, ac eithrio yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys cig a chynhwysion eraill
Bwydydd a arbelydrwyd
Gorfodi
Trosedd
Cosbi
Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf
Dirymiadau
Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol
Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE
Darpariaeth drosiannol: y Cytundeb Masnach a Chydweithredu
16
- (1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwella mewn cysylltiad â gwin Atodiad 15 yr UE (gan gynnwys gwin Atodiad 15 yr UE a labelwyd ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny) a roddir ar y farchnad yng Nghymru—
- (a) gan gyfanwerthwr neu gynhyrchwr yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac sy’n dod i ben ar 1 Mai 2023;
- (b) gan fanwerthwr ar 1 Ionawr 2022 neu ar ôl hynny hyd nes bydd y stociau o win Atodiad 15 yr UE wedi eu disbyddu.
- (2) Yn y rheoliad hwn—
- mae “a roddir ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli gan gymryd i ystyriaeth y diffiniad o “placing on the market” ym mhwynt 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
- mae i “y Cytundeb Masnach a Chydweithredu” yr un ystyr a roddir i “the Trade and Cooperation Agreement” yn adran 37(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020;
- ystyr “gwin Atodiad 15 yr UE” (“EU Annex 15 wine”) yw gwin—y mae Erthygl 5 (mesurau trosiannol) o Atodiad 15 (masnachu gwin) i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) (cwmpas) o’r Atodiad hwnnw, yn gymwys iddo, aa gaiff ei fewnforio i Brydain Fawr o Aelod-wladwriaeth;ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.